'Dim digon o drenau ar ddiwrnodau digwyddiadau mawr'

Gorsaf drenau gorlawn wedi un o gemau Cymru yn 2021
Disgrifiad o’r llun,

Gorsaf drenau gorlawn wrth i gefnogwyr tîm pêl-droed Cymru adael Caerdydd ar ddiwedd y gêm

  • Cyhoeddwyd

Mae paratoadau Trafnidiaeth Cymru ar gyfer digwyddiadau mawr yn "annigonol" ac mae teithwyr yn "cael eu siomi gan wasanaeth is-safonol", yn ôl grŵp o Aelodau o'r Senedd.

Mae angen gwelliannau ar gyfer digwyddiadau mawr fel cyngerdd Bruce Springsteen yn Stadiwm Principality ddydd Sul, yn ôl y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.

Gyda sêr fel Taylor Swift a'r Foo Fighters yn perfformio yn y stadiwm a Manic Street Preachers yng Nghastell Caerdydd yr haf hwn, maen nhw'n galw am baratoi gwell.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru eu bod yn "ystyried yr argymhellion" ac y byddan nhw yn "ymateb yn ffurfiol maes o law."

Mae'r adroddiad yn dweud nad oes digon o drenau'n gadael y brifddinas gyda'r hwyr ar ôl i'r cyngherddau ddod i ben.

Roedd yna feirniadaeth am y gwasanaeth ar ddiwrnodau gemau pêl-droed Cymru pan oedd y trên olaf yn aml yn gadael ychydig funudau ar ôl y chwibaniad olaf.

Yn sgil hyn, trefnodd Trafnidiaeth Cymru drenau hwyr ar gyfer y gemau ail-gyfle yn erbyn y Ffindir a Gwlad Pwyl.

"Mae hynny'n arwydd o be ellid ei gyflawni," meddai cadeirydd y pwyllgor, Llyr Gruffydd AS, gan ychwanegu: "Mae 'na ormod o bobl yn cael eu gadael i lawr."

Disgrifiad o’r llun,

Llyr Gruffydd, cadeirydd y pwyllgor sy'n gyfrifol am yr adroddiad

Dywed y pwyllgor bod angen i Drafnidiaeth Cymru drafod yn well gyda Network Rail ynglŷn ag ail-drefnu gwaith peirianyddol pan mae yna gyngherddau neu gemau mawr.

Mae'r adroddiad hefyd yn galw ar Drafnidiaeth Cymru i dalu am dacsis i deithwyr os bydd eu trenau'n cael eu canslo a bod dim gwasanaeth bws wedi'i drefnu yn lle hynny.

Rhwng mis Ionawr a mis Gorffennaf 2023, gan orsafoedd yng Nghymru oedd y gyfradd uchaf o wasanaethau wedi eu canslo ym Mhrydain.

Trafnidiaeth Cymru oedd ar waelod y rhestr mewn arolwg o ran bodlonrwydd defnyddwyr rheilffyrdd gan Transport Focus, sy'n cynrychioli teithwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Pobl yn ciwio i fynd i mewn i brif orsaf reilffordd Caerdydd

"Mae teithwyr wedi croesawu trenau newydd sy'n cynyddu capasiti ac yn dechrau cael effaith ar faint o drenau sy'n cael eu canslo," meddai David Beer o Transport Focus.

"Mae'r adferiad yma yn dechrau dangos yn ein gwaith ymchwil ni."

Fe fydd amserlenni newydd yn cael eu cyflwyno ar draws rhwydwaith Metro De Cymru o 2 Mehefin.