Rhedwr Hanner Marathon Caerdydd wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae rhedwr wedi marw ar ôl cymryd rhan yn ras Hanner Marathon Caerdydd.
Yn ôl y trefnwyr, Run 4 Wales, fe gafodd y person ofal "yn syth gan dîm argyfwng meddygol" y digwyddiad ger llinell derfyn y ras.
Cafodd y rhedwr ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, ble bu farw yn ddiweddarach.
"Mae hon yn drasiedi ofnadwy ac mae ein cydymdeimlad dwysaf gyda theulu'r rhedwr," dywedodd llefarydd ar ran y cwmni.
Ychwanegodd na fyddan nhw'n rhoi mwy o fanylion a hynny er mwyn dangos "parch" at deulu'r person a fu farw "ar yr adeg anodd yma".
Roedd dros 29,000 o bobl wedi cofrestru i redeg yn y ras ddydd Sul - y nifer fwyaf yn hanes y digwyddiad.