Pum munud gyda Bardd y Mis: Katrina Moinet

Katrina Moinet
- Cyhoeddwyd
Bardd o Ynys Môn yw Katrina Moinet a hi yw Bardd y Mis, Radio Cymru ar gyfer mis Awst.
Cafodd ei chasgliad cyntaf o gerddi, Portrait of a Young Girl Falling, ei gynnwys ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2025. Enillodd gystadleuaeth pamffled Gwasg Hedgehog a gwobr Gŵyl Bournemouth yn 2024 a chafodd ei cherdd ei chynnwys ar restr hir Cystadleuaeth Barddoniaeth Genedlaethol, allan o 21,000 o gerddi.
Dyma gyfle i ddod i'w hadnabod yn well.
Pryd dechreuoch chi farddoni?
Dechreuais fy nhaith ysgrifennu greadigol yn y cyfnod clo yn 2020 – mis Awst bum mlynedd yn ôl yn union!
Nid fy newis i oedd mynd ar ffyrlo. Roedd yn teimlo'n ddinistriol ar y pryd, ond ni fyddwn i byth di dewis fy mywyd ysgrifennu heb hynny.
Cymerais rai modiwlau gyda'r Brifysgol Agored, heb syniad pa mor bell y byddai'n mynd. Yna cwblheais fy M.A. ym Mhrifysgol Bangor gyda rhagoriaeth.
Enillais wobrau ysgrifennu, dechreuais feic agored misol yng nghaffi Blue Sky, ac yn ddiweddar rwyf wedi cael llyfr ar restr fer Llyfr Y Flwyddyn.
Mae gan Fangor adran ysgrifennu creadigol wych. Dw i mor falch o bob moment, yn hapus o fod yn rhan o'r gymuned ysgrifennu, a theimlo'n lwcus iawn fel awdur.
Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddysgu Cymraeg a sut beth yw bod yn fardd yn eich ail-iaith?
Gan fy mod wedi tyfu i fyny yng Nghymru, rwy'n caru ieithoedd erioed.
Rwy'n siarad pum iaith nawr, ond rwyf yn eu cymysgu drwy'r amser!
Roedd y Gymraeg yn rhan fawr o fy mhlentyndod. Y Gymraeg wy'n ei defnyddio nawr fel bardd, yn fy marddoniaeth, yn hollol wahanol i'r hyn a ddysgais yn yr ysgol.
Fel siaradwr ail-iaith, wy'n gweithio'n eithaf caled i ysgrifennu cerddi yn y Gymraeg oherwydd nad yw'r profiadau na'r emosiynau rwy'n eu disgrifio yn rhan o'r iaith a ddysgais fel plentyn.
Mae barddoniaeth yn ddrws agored i fy mherthynas newydd â fy Nghymraeg.

Katrina Moinet
Lle fyddwch chi'n cael eich syniadau am gerddi?
O bobman! Darllen y newyddion, gwrando ar gerddoriaeth, sgwrsio, teithio, ac weithiau wrth yrru.
Dywedodd rhywun wrtha i, os ydych chi eisiau ysgrifennu barddoniaeth, darllen-darllen-darllen (neu rywbeth tebyg!).
Mae cymaint o ysgrifennu cyfoes gwych heddiw. Rwy'n dwlu ar ddarganfod lleisiau newydd a chlywed neu ddarllen ffyrdd newydd o fynd i'r afael â'r math o themâu cryf y mae fy marddoniaeth yn ymdrin â nhw.
Wrth siarad am ymosodiad rhywiol, neu drawma, mae'n anodd i'r darllenydd pan fyddwch chi'n mynd i'r afael â hyn yn uniongyrchol. Gall cerdd newid y lens y mae'r darllenydd yn edrych drwyddi a dod â ffyrdd newydd o feddwl, agor sgwrs i fyny i drafodaeth. Dw i'n gweld hynny'n ysbrydoledig!
Petaech yn gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fydden nhw a pham?
Am gwestiwn gwych i fardd... treulio amser ym meddwl rhywun arall!
Mae cymaint o feirdd, meddylwyr ffeministaidd y mae eu gwaith yn fy swyno ac rwy'n aml yn teimlo bod eu darllen fel treulio amser gyda'u meddyliau. Fel Audre Lorde, Adrienne Rich, Kim Moore.
Ond pe bai am un diwrnod yn unig, byddwn i wrth fy modd yn plymio i feddwl rhywun sydd â phrofiadau bywyd cyferbyniol, ond y mae ei waith yn dal i siarad â materion cyfoes... rhywun fel Ocean Vuong.
Pan fyddwch chi ddim yn ysgrifennu, be fyddwch chi'n hoffi'i wneud i ymlacio?
Syrffio, dringo creigiau, nofio, mynd â fy merch i'r traeth.
Dw i newydd ddechrau gwersi deifio bwrdd ym mhwll nofio Bangor - gweithgaredd gwych i weithio fy ffitrwydd corfforol, yn lle fy meddwl.
Pan fydda i'n perfformio plymiad perffaith mae'r teimlad bron cystal â chwblhau cerdd... bron!

Mynydda gyda ffrindiau
Mae llawer o ieithoedd yn eich catref – Ffrancwr yw eich gŵr ac mae gennych chi ferch 9 mlwydd oed. Pa iaith yw iaith y cartref?
Nid un yn unig. Wrth fyw mewn cartref amlieithog mae hyblygrwydd iaith... rydyn ni'n addasu i'r foment, pwy sydd yn yr ystafell, a phwy sy'n ymuno â ni.
Dw i'n meddwl bod byw yng Nghymru wedi fy ngwneud yn berson hyblyg!
Gobeithio ein bod ni'n magu ein merch i ddal gafael ar y gwerth hwnnw hefyd.

Katrina a'i theulu
Beth sydd ar y gweill gennych ar hyn o bryd?
Rwy'n brysur yn darllen cerddi fel beirniad ar gyfer y gystadleuaeth New Writers. Cymaint o gerddi gwych a lleisiau anhygoel.
Mae gen i bamffled newydd ('State of the Nations') sy'n dod allan yn fuan gyda Atomic Bohemian. Rwy'n gweithio'n agos gyda'r golygydd Briony Collins yn paratoi'r llawysgrif i'w hargraffu.
Hefyd, fydda i'n paratoi cynnig cyhoeddi gyda Seren ar gyfer fy nofel gyntaf. Rwy'n gyffrous iawn am gychwyn hyn.
O ran digwyddiadau bydd noson farddoniaeth meic agored misol Blue Sky Versify yn ail-gychwyn Medi 24ain o 7 yr hwyr. Croeso mawr iawn i bawb sy eisiau gwrando neu gymryd rhan. Mae'n noson gyfeillgar i bawb, gan cynnwys bobl LHDTC+. Dewch draw i ddarganfod lleisiau newydd.

Katrina yn darllen ei gwaith mewn noson meic agored
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd18 Medi 2024
- Cyhoeddwyd1 Awst 2024