Her dyn i greu pidyn GPS enfawr i godi arian at Movember

Terry Rosoman
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Terry Rosoman fod y siâp wedi ei gynllunio i gael sylw pobl

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn yn bwriadu rhedeg 75 milltir (120 km) wrth iddo anelu at greu’r llun GPS mwyaf o bidyn mewn 24 awr.

Mae Terry Rosoman, 39 o dde Cymru, yn codi arian ac ymwybyddiaeth o iechyd meddwl dynion, gan gyfaddef bod y siâp wedi'i gynllunio i gael sylw pobl.

Dywedodd ei fod wedi dewis creu'r siap o amgylch Bannau Brycheiniog oherwydd "yn enwedig ar gyfer y demograffeg darged rwy'n anelu ato, nid yw dynion byth yn tyfu i fyny".

Mae Mr Rosoman, sydd wedi wynebu trafferthion iechyd meddwl o'r blaen, yn gobeithio y bydd ei her yn annog dynion mewn sefyllfaoedd tebyg i ddod o hyd i "heriau mawreddog sy'n fwy na chi'ch hun".

Nod ei her yw codi £5,000 ar gyfer Movember, dolen allanol, elusen sy'n canolbwyntio ar iechyd meddwl dynion, hunanladdiad, canser y brostad a'r ceilliau.

Bydd Mr Rosoman yn dechrau ac yn gorffen ei rediad yng ngorsaf rheilffordd y Fenni, Sir Fynwy, gan gychwyn am 17:00 GMT ddydd Gwener, ac mae'n gobeithio gorffen erbyn yr un amser ddydd Sadwrn.