Cau banciau Ceredigion yn 'glec galed i'r stryd fawr'

Banc Lloyds a HalifaxFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cangen Halifax yn Aberystwyth a changen Lloyds yn Aberteifi yn cau ym mis Mehefin a Gorffennaf

  • Cyhoeddwyd

Mae Aelod o'r Senedd Ceredigion wedi mynegi ei "siom" o glywed y bydd dau fanc arall yn cau yn yr ardal.

Fe gadarnhaodd Lloyds y bydd eu cangen yn Aberteifi yn cau ar 27 Mehefin.

Yn Aberystwyth, fe fydd cangen Halifax yn cau ar 29 Gorffennaf.

Mae'r ddau gwmni'n dweud bod mwy o gwsmeriaid yn defnyddio gwasanaethau arlein a llai yn ymweld â changhennau.

Mae banc Barclays eisoes wedi dweud y bydd eu cangen yn Aberteifi yn cau ar 26 Ebrill.

Gwasanaeth bancio cymunedol wythnosol yn lle

Mae Halifax yn dweud y bydd gwasanaeth bancio cymunedol yn ymweld â thref Aberystwyth unwaith yr wythnos.

Y gangen agosaf i gwsmeriaid y cwmni fydd Caerfyrddin.

Fe fydd gwasanaeth wythnosol hefyd ar gael i gwsmeriaid Lloyds yn Aberteifi.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd gwasanaeth bancio cymunedol wythnosol ar gael i gwsmeriaid Lloyds yn Aberteifi

Dywedodd y Cynghorydd Elaine Evans o Aberteifi, sy'n cynrychioli ward Teifi, wrth Cymru Fyw: "Mae'n newyddion siomedig iawn i bawb sydd yn byw a rhedeg busnesau yn Aberteifi yn enwedig ar gefn y newyddion am Barclays yn cau.

"Mae Lloyds wedi addo rhoi hwb bancio yn Aberteifi o ryw fath, ond ble, so ni'n gwybod?" ychwanegodd.

"Mae'n bryder nawr y bydd adeiladau Lloyds a Barclays yn mynd i fod yn wag, reit yng nghanol dref.

"Dyw pobl henach ddim am ddefnyddio'r ap."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Wedi i'r gangen gau, bydd gwasanaeth bancio cymunedol yn ymweld â thref Aberystwyth unwaith yr wythnos.

Dywedodd Halifax bod mwy o gwsmeriaid yn bancio arlein yn hytrach na galw mewm canghennnau fel Aberystwyth, ond mae cwsmeriaid wedi mynegi eu siom.

Dywedodd Angharad Fychan: “Dwi'n bancio arlein ond yn defnyddio cangen Aberystwyth yn rheolaidd i dalu sieciau, adolygu cyfrifon ac yn y blaen.

"Bydd dim dewis nawr ond symud i fanc neu gymdeithas adeiladu arall, ond mae hynny mor drafferthus.”

Siwrne i Gaerfyrddin neu Bangor

Mae Aled Rees hefyd yn siomedig: "Mae rhai busnesau yn talu arian i mewn, ond dwi'n meddwl bod yn bosib gwneud hyn trwy Swyddfa'r Post gyda bron pob banc y dyddie 'ma.

“Dwi yn bersonol ddim yn deall pam bod y banciau ddim yn dod at ei gilydd ac agor 'hwb bancio' mewn trefi bach, gyda desg i ddelio gyda cwsmeriaid yn bersonol ar gyfer pob banc.

“Dim just problem i'r cwsmeriaid yw hyn... mae siwr o fod nifer o swyddi am fynd.”

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Ceredigion
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith top gyda'r cloc - Aled Rees, Elaine Evans, Tegwen Morris a Kerry Ferguson

Yn ôl Tegwen Morris, o Ferched y Wawr, mi allai cau'r banciau greu problemau ymarferol i fudiadau lleol.

"Mae yn broblem enfawr i lot o bobl bod Barclays a Halifax yn cau. Bydd cael arian mân allan neu dalu i fewn yn golygu siwrne i Gaerfyrddin neu Bangor!

"Mae yn bryder mawr i elusennau sydd heb gerdyn yn gysylltiedig â'u cyfrif. Mae pobl hŷn a bregus yn gofidio am y dyfodol."

Adeilad gwag arall ar y stryd fawr

Mae Maer Aberystwyth, Kerry Ferguson, yn siomedig, ond mae'n gweld yr angen i gwmniau "wneud penderfyniadau" gyda llai yn defnyddio'r adeiladau.

"Mae'r Cyngor Tref wedi gofyn am gyfarfod gyda Barclays i drafod syniad o 'hwb' sydd gyda nhw, ac mae'r llythyr gan Halifax yn sôn y bydden nhw hefyd yn edrych ar hwn fel opsiwn.

"Dwi ddim yn 100% os ydyn nhw wedi cychwyn trafod gyda'r cyngor sir neu ddim, ond mae'n rhywbeth o leiaf bod y banciau mawr yn gweld bydd angen hybiau bach o amgylch y lle.

"Un peth sydd yn fy mhoeni i, gyda het arall ymlaen, yw adeilad mawr arall yn wag ar y stryd fawr."

Roedd Barclays eisoes wedi cadarnhau y byddai'n cau eu cangen yn Aberystwyth ar 3 Mai.

Mae banciau HSBC, TSB, Nationwide, Santander a Natwest yn parhau ar agor, ar hyn o bryd.

Mae Elin Jones AS wedi disgrifio’r cyhoeddiad diweddaraf fel “clec galed i stryd fawr ein ddwy prif dref yng Ngheredigion”.

“Mae mor siomedig clywed y newyddion yma fydd yn gweld Aberteifi ac Aberystwyth yn colli mwy o’u prif fanciau oddi ar y stryd fawr.

"Er gallwn werthfawrogi bod y ffordd rydym yn bancio i nifer fawr ohonom yn digwydd ar ein ffonau neu arlein rhagor, mae rhan o’n cymdeithas dal i fod yn hollol ddibynnol ar fancio wyneb-i-wyneb yn eu cangen lleol," ychwanegodd.

"Mae’n ofnadwy bod ni yn y fath sefyllfa, a gobeithio deith rhywbeth allan o’r trafodaethau sy’n digwydd am greu hwbiau bancio cymunedol.”