Nofiwr o Abertawe wedi marw ar ôl mynd i drafferthion ar draeth

Aeth y dyn 50 oed i drafferthion wrth nofio ym Mae Tor, Penmaen
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi marw ar ôl mynd i drafferthion wrth nofio ym Mae Tor, Penmaen, Abertawe ar brynhawn dydd Gwener, meddai Heddlu'r De.
Cafodd ymgyrch ei lansio i dynnu'r dyn 50 oed o Sandfields, Abertawe allan o'r dŵr yn dilyn y digwyddiad - wnaeth ddigwydd am tua 13:00, Mehefin 6.
Roedd nifer o wasanaethau brys yn bresennol, gan gynnwys Gwylwyr y Glannau, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a'r heddlu.
Cafodd marwolaeth y dyn ei chadarnhau gan barafeddygon am tua 16:00, ac mae teulu'r dyn wedi cael gwybod.
Dywedodd Gwylwyr y Glannau fod timau o Oxwich a'r Mwmbwls wedi cael eu hanfon yno, ynghyd â hofrennydd Gwylwyr y Glannau a chychod achub yr RNLI o'r Mwmbwls, Horton a Phort Einon.
Dywedodd yr heddlu y bydd diweddariad pellach pan fydd hynny'n bosib.