Edward Bevan a thramorwyr gorau Morgannwg

Edward BevanFfynhonnell y llun, Edward Bevan
Disgrifiad o’r llun,

Edward Bevan

  • Cyhoeddwyd

Mae cricedwyr Morgannwg yn paratoi ar gyfer rownd derfynol y Cwpan Undydd yn erbyn Gwlad-yr-haf yn Nottingham ar ddydd Sul, 22 Medi.

Ymysg rhengoedd carfan Morgannwg eleni'n mae chwaraewyr o Gymru, Lloegr, Awstralia, Seland Newydd, Zimbabwe, Dde Affrica a'r Iseldiroedd.

Ond pwy yw'r tramorwyr gorau i wisgo'r daffodil ar eu bron?

Mae Edward Bevan yn gyn-ohebydd Criced gyda BBC Cymru, ac yma mae'n dewis ei pum chwaraewr tramor gorau i gynrychioli’r sir erioed - tipyn o her!

Felly, dyma restr Edward:

5) Ravi Shastri

Ffynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Ravi Shastri'n derbyn anrhydedd gan Brifysgol Met Caerdydd - 1 Awst 2024

"Yn bumed ar y rhestr mae chwaraewr rhyngwladol o'r India, Ravi Shastri, a oedd gyda’r sir ar ddiwedd yr 1980au. Yn fatiwr ac yn droellwr mi oedd ei bresenoldeb yn hwb ar ôl cyfnod anodd ar y cae yn ystod y ddegawd.

"Yn ei dymor olaf dwi’n ei gofio'n cael trafferthion gyda’i ddull bowlio ac fe weithiodd ar hynny gydag un o fowlwyr gorau’r sir erioed - Don Shephard - ac yn ddyledus iddo am ei gyngor a’i eiriau doeth."

4) Matthew Elliott

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Matthew Elliott yn chwarae dros Forgannwg yn erbyn y Warwickshire Bears yng Ngerddi Soffia, 19 Gorffennaf 2004

"Roedd batiwr agoriadol Awstralia yn atgoffa rhywun o gyn-fatiwr agoriadol a chapten y sir, Hugh Morris. Yn fatiwr cadarn, cyffrous a digyfaddawd yn wir.

"Dywedodd cyn-fatiwr arall o'r clwb, Steve James, mai fe odd y batiwr gorau iddo chwarae wrth ei ochr yn ystod ei yrfa.

"Roedd yn rhan o’r tîm enillodd y gystadleuaeth undydd 2004, ac roedd yn gymaint o gaffaeliad ar adeg pan oedd y tîm a enillodd Pencampwriaeth y Siroedd yn 97 yn mynd ar wasgar. Mae ei gyfartaledd o 49 gyda’r bat yn ystod y cyfnod yn dweud y cwbl."

3) Michael Kasprowicz

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewr arall o Awstralia a oedd gyda Morgannwg - Michael Kasprowicz

"Rhywun fyddai’n rhoi popeth dros y crys bob tro oedd Michael Kasprowicz.

"Roedd bowliwr cyflym Awstralia mor boblogaidd nid yn unig gyda’r chwaraewyr a’r cefnogwyr ond gyda’r dyfarnwyr hefyd - roedd yn esiampl i bawb.

"Roedd e gyda Morgannwg am dair blynedd ac yn y ddwy gyntaf mi gipiodd mwy o wicedi nag unrhyw un arall ond yn anffodus yn y tymor olaf nath e ddioddef anaf cas - er hyn roedd ei gyfraniad yn amhrisiadwy."

2) Waqar Younis

Ffynhonnell y llun, getty
Disgrifiad o’r llun,

Waqar Younis, cyn-gapten Pacistan

"Rhaid cyfaddef roedd hi’n anodd dewis rhwng y ddau ar y brig ac roedd Waqar Younis yn agos iawn.

"Ni gyd yn cofio Waqar yn gweithio mewn partneriaeth â bowliwr cyflym arall Pakistan, Wasim Akram.

"Mae’n anodd dweud wrth gwrs ond efallai Waqar Younis enillodd y bencampwriaeth i Forgannwg yn 1997 oherwydd mi oedd ei fowlio mor ddinistriol ac yn gallu newid cwrs gêm.

"Gymrodd e saith wiced am 25 rhediad yn erbyn Sir Gaerhirfryn ac yna wyth wiced am 17 rhediad yn erbyn Sussex ar ddiwedd y tymor – dwy gêm oedd yn allweddol i lwyddiant y sir a Waqar Younis oedd y gwahaniaeth. Heb ei gyfraniad ef dwi ddim yn siŵr a fydda Morgannwg wedi cael llwyddiant y tymor hwnnw."

1) Viv Richards

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Viv Richards gyda tlws cystadleuaeth undydd 1993

"Does dim syndod efallai mai Sir Isaac Vivian Alexander Richards sydd ar y brig. Nid yn unig am ei gyfraniad gyda’r bat (mi oedd e'n bowlio 'chydig hefyd), ond am ei ddylanwad anhygoel ar ysbryd y tîm.

"Fe ysbrydolodd y chwaraewyr ifanc fel Robert Croft, Adrian Dale a Darren Thomas i enwi ond tri, ac mae’r chwaraewyr wedi sôn faint o ddylanwad oedd Viv.

"Mi oedd y ddawn ganddo i gael effaith bositif ar weddill y tîm. Mae pawb yn cofio’r delweddau yng Nghaergaint pan enillodd y sir y gystadleuaeth undydd am y tro cyntaf erioed yn 1993, a chapten India’r Gorllewin yn ei ddagrau ar y diwedd oherwydd dyma oedd ei gêm gystadleuol olaf erioed.

"I fi, roedd rôl Viv Richards yn ganolog i lwyddiant Morgannwg dros y ddegawd nesa', gan gynnwys ennill Pencampwriaeth y Siroedd yn 97."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Edward Bevan yn ystod ei gyfnod yn y blwch sylwebu

Hefyd i'w cydnabod

Fel yr esbonia Edward Bevan mae rôl y chwaraewr tramor wedi newid tipyn dros y blynyddoedd a natur criced cyfoes yn golygu y daw nifer o chwaraewyr draw i Brydain ar gytundebau byr i arbenigo mewn ffurf benodol o’r gêm, boed hynny’r gystadleuaeth ugain pelawd neu Bencampwriaeth y Siroedd. Oherwydd hyn dyw’r un cysylltiad bellach ddim yn bodoli rhwng y cefnogwyr a’r chwaraewr.

O ystyried y ffactorau yma mae nifer o chwaraewyr dawnus ddim wedi ei gwneud hi i'r rhestr, gan gynnwys Marnus Labuschagne o Awstralia ac Jacques Kallis o Dde Affrica, tra bod yna ddau amlwg o Bacistan ddim yno chwaith - y chwaraewr amryddawn Majid Khan a’r batiwr Javed Miandad.

“Mi fyddai Majid Khan wedi bod ar y rhestr ond mi oedd ei gyfnod cyn i fi ddechrau yn y blwch sylwebu.

"Ond o ran capten Pacistan, Javed Miandad, mi oedd e’n cael sawl sgôr uchel ond fel arfer yn y batiad cyntaf. Prin iawn fydda fe’n ennill gêm â chyfraniad yn yr ail fatiad - rhywbeth rydych chi’n erfyn batwyr tramor i wneud. Doedd capten Miandad ddim yn gwneud hynny felly dyna pam nad yw e yn fy mhump uchaf."

Mae absenoldeb y ddau yma o'r rhestr yn dangos pa mor anodd oedd hi i roi'r dewisiadau mor gystadleuol at ei gilydd.