Matt Grimes i Gymru os fydd newid i reol pum mlynedd?

Matt GrimesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Matt Grimes ei eni yng Nghaerwysg yn Lloegr

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) yn gobeithio y bydd newid posib i reolau am bwy sy'n gymwys i gynrychioli timau rhyngwladol yn eu galluogi i ddewis rhagor o chwaraewyr i'r garfan.

Mae CBDC yn gobeithio medru galw ar Matt Grimes, cyn-chwaraewr canol cae Abertawe, os ydynt yn medru cytuno ar newid i'r rheolau cymhwyster.

Mae CBDC yn lobïo cymdeithasau pêl-droed Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gytuno ar newid yn y rheol fyddai'n caniatáu i chwaraewyr dros 18 oed, sydd wedi cofrestru gyda chlwb yn un o'r gwledydd cartref am o leiaf pum mlynedd, gael cynrychioli'r wlad honno.

Mae ffynonellau o CBDC yn dweud y byddai'r cynnig yn cydfynd â rheolau cymhwyster FIFA.

Craig BellamyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Os yn gymwys, byddai Matt Grimes yn opsiwn arall i'r prif hyfforddwr Craig Bellamy at ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd 2026

Yn 2009 cytunodd cymdeithasau'r gwledydd cartref y gall chwaraewyr gynrychioli gwlad os ydynt wedi derbyn pum mlynedd o addysg barhaus yn y wlad honno, hyd nes eu bod yn 18 oed.

Mae hyn yn wir ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon - oni bai eu bod yn gymwys trwy leoliad eu geni, trwy riant neu trwy daid/nain.

Ond byddai'r cynlluniau CBDC yn golygu bod unrhyw un sydd wedi chwarae yn un o'r gwledydd ers pum mlynedd yn gymwys i chwarae pêl-droed rhyngwladol iddynt.

Gadawodd Grimes glwb Abertawe am Coventry fis diwethaf, ond cyn hynny roedd wedi treulio 10 mlynedd gyda'r Elyrch.

O dan y cynigion, byddai Grimes, sydd o Gaerwysg, yn gymwys i chwarae dros Gymru, a bron yn sicr o fod yn rhan o gynlluniau'r prif hyfforddwr Craig Bellamy at ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd 2026.

Byddai Joe Ralls, chwaraewr Caerdydd, hefyd yn gymwys i chwarae i Gymru o dan y cynigion.

Un broblem bosib i CBDC ydy y byddai chwaraewyr Cymreig sy'n symud i glybiau yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon wedyn yn gymwys i chwarae i dimau rhyngwladol eraill ar ôl y cyfnod o bum mlynedd.