Pobl yn ôl yn eu tai ar ôl i dair bom gael eu canfod mewn gardd

Mae'r heddlu wedi cadarnhau fod tair bom Almaenaidd o'r Ail Ryfel Byd wedi cael eu "symud yn ddiogel"
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion mewn tref ger Caerdydd wedi cael dychwelyd adref, ar ôl cael eu symud yn dilyn darganfod tair bom mewn gardd.
Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd Plassey ym Mhenarth am tua 13:30 ddydd Mawrth, yn dilyn darganfod y bomiau, oedd heb ffrwydro - o gyfnod yr Ail Ryfel Byd.
Cafodd tua 50 o gartrefi eu gwagio tra bod y dyfeisiau'n cael eu harchwilio a'u gwneud yn ddiogel, meddai Heddlu'r De.
Mae'r heddlu wedi cadarnhau fod y tair bom Almaenaidd wedi cael eu "symud yn ddiogel" ers hynny a bod y trigolion wedi cael caniatâd i fynd adref.
Mewn datganiad, diolchodd yr heddlu i'r arbenigwyr gwaredu bomiau am eu cymorth ac i'r cyhoedd am eu hamynedd a'u dealltwriaeth.

Cafodd tua 50 o gartrefi eu gwagio tra bod y dyfeisiau'n cael eu harchwilio
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd11 Medi 2020