Seren Wrecsam yn cofio am ei thad wrth baratoi am ffeinal

Lili yn gwylio gêm ar y Cae Ras gyda'i thad, Gareth, fu farw yn 50 oed yn 2021
- Cyhoeddwyd
Mae tipyn wedi newid i Lili Mai Jones ers i'w thad farw'n sydyn bedair blynedd yn ôl.
Mae'r chwaraewr ifanc wedi bod yn chwarae rhan allweddol yn un o gyfnodau mwyaf llwyddiannus Clwb Pêl-droed Wrecsam.
Bydd un o uchafbwyntiau ei gyrfa ifanc yn siŵr o ddod ddydd Sul, wrth i Wrecsam herio Caerdydd yn ffeinal Cwpan Cymru.
Yn rhan o'r clwb ers yn chwech oed, mae Lili, 19, bellach yn cydbwyso bywyd prifysgol â chwarae pêl-droed ar lefel led-broffesiynol.
"Mae'r cydbwysedd yna bron yn amhosib," cyfaddefa Lili, sy'n astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Bangor, ac sydd hefyd wedi cael blas ar sylwebu.
"Dwi'n 'neud lot o ddreifio rhwng Bangor a Wrecsam. Dwi 'nôl a 'mlaen tair gwaith yr wythnos o leiaf.
"Mae yn anodd, ond ar yr un pryd, mae'n ddau beth dwi rili isio gwneud.
"Dwi rili isio astudio'r Gymraeg a dwi rili isio chwarae pêl-droed dros Wrecsam."
'Aros efo fi am byth'
Mae Lili yn byw "dau funud i ffwrdd" o gartref chwedlonol Wrecsam - Y Cae Ras.
Ar ôl gwylio o'r teras am flynyddoedd, mae'n cofio breuddwydio y byddai hi'n camu ar y cae ei hun rhyw ddiwrnod - breuddwyd sydd bellach yn realiti.
"O'n i'n ddigon lwcus i sgorio ar y Cae Ras," meddai.
"Ma' hwnna'n rhywbeth sy'n mynd i aros efo fi am byth."
Caniatáu cynnwys Facebook?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Bedair blynedd yn ôl bu farw tad Lili, Gareth, yn 50 oed drwy hunanladdiad.
Roedd yn gefnogwr brwd o dîm pêl-droed Wrecsam ac yn gefnogol iawn o yrfa'i ferch.
Er bod colli ei thad wedi bod yn ergyd galed, mae Lili yn dweud ei fod wedi'i hysbrydoli i barhau â'i thaith bêl-droed
"Dwi'n cofio fo'n deud pan o'n i'n tyfu fyny, 'get involved'," meddai Lili.
"Doedd o byth yn gweiddi arna fi ar ochr y cae - o'dd o jyst yn bresenoldeb.
"Mae unrhyw un oedd yn nabod fo yn gw'bod o'dd o'n gymeriad mawr ar ochr y cae. O'dd o wastad yn 'neud i bobl chwerthin.
"Dwi'n cofio o'n i'n chwarae efo tîm o hogiau, o'dd hi'n ddiwrnod rili oer ac o'dd hi'n glawio a o'dd hogyn yn y gôl yn crynu a 'nath Dad fynd tu ôl i gôl a dechra' neud star jumps efo fo.
"Dwi'n cofio bod mor embarrassed ond ma'r atgof 'na yn sefyll allan," meddai.

Fe siaradodd Lily Jones yn agored am y profiad o golli ei thad ar y rhaglen ddogfen fyd-enwog, Welcome to Wrexham
"Tua pum mlynedd yn ôl, ges i alwad i chwarae dros Gymru," meddai Lili, sy'n cofio'i thad yn ei ffonio i ddweud na fyddai'n gallu bod yno i'w gwylio gan ei fod yn gweithio.
"[Ond] wrth i fi gamu ar y cae nes i sbotio car fo cyn i ni ganu'r anthem.
"'Nath o gymryd diwrnod off i ddod lawr - na'i fyth anghofio hynna.
"Mae colli Dad, mae jyst yn rhoi ysgogiad arall - mae'n rhoi rheswm arall i fi chwarae.
"Dwi'n trio gwneud o'n falch bob tro dwi'n rhoi'r crys Wrecsam 'na on."

"Profiad bythgofiadwy": Lili (ail o'r dde) yn dathlu gyda Ryan Reynolds (canol) a Rob McElhenney (chwith) - perchnogion Wrecsam - ym mis Mai 2023 yn dilyn tymhorau llwyddiannus i'r menywod a'r dynion
Ddydd Sul, bydd Wrecsam yn wynebu Caerdydd – tîm sydd eisoes yn bencampwyr y gynghrair a chyn-enillwyr y gwpan – mewn gêm sydd, yn ôl Lili, yn siŵr o fod yn frwydr agos.
"Fydd o'n gêm anodd – mae Caerdydd yn dîm da. Ond 'da ni 'di curo nhw yn y ddwy gêm ddiwetha'.
"Ma' momentwm mor bwysig mewn pêl-droed a 'da ni wedi cael rhediad da o gemau.
"'Da ni'n ymarfer ddwywaith yr wythnos... gwylio gemau Caerdydd yn ôl a trio pigo lle mae camgymeriadau. 'Da ni mewn lle da fatha tîm."
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2023