'Cynlluniau hamdden yn helpu gwella iechyd y genedl'
- Cyhoeddwyd
Mae angen i wleidyddion wario mwy ar gynlluniau hir dymor i wella iechyd y genedl os ydyn nhw am fynd i’r afael â’r argyfwng o fewn y gwasanaeth iechyd.
Yn ôl pennaeth cwmni hamdden Byw’n Iach yng Ngwynedd, mae pryder y gallai toriadau i wasanaethau hamdden arwain at fwy o bwysau ar restrau aros heb ymyrraeth.
Yn ôl Amanda Davies dydy’r cyllid sy’n cael ei roi i wasanaethau ataliol, sef pobl sy’n cael eu cyfeirio at hamdden gan eu meddyg, heb gynyddu ers 2013.
Mae Llywodraeth Cymru’n dweud eu bod wedi "ymrwymo i wella iechyd corfforol a meddyliol pobl Cymru”.
- Cyhoeddwyd5 Chwefror
- Cyhoeddwyd15 Chwefror
- Cyhoeddwyd25 Ionawr
Mae’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi dweud yn gyson bod angen i bobl gymryd mwy o gyfrifoldeb dros iechyd eu hunain drwy gadw'n heini a bwyta’n iach.
Ar draws Cymru, drwy gyllid gan y Llywodraeth a Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae cynghorau'n darparu gwasanaethau ataliol sy’n ceisio cadw cleifion yn heini ac osgoi'r angen i ddibynnu ar y gwasanaeth iechyd.
Mae cleifion yn gallu cael eu cyfeirio at y gwasanaeth gan eu meddyg teulu ac yn derbyn cymorth gan hyfforddwr personol fel rhan o grŵp.
Ar ôl dioddef poenau yn ei chefn fe gafodd Mariann Roberts o ardal Porthmadog ei chyfeirio at y gwasanaeth gan ei meddyg, ac mae hi'n dweud bod y gwasanaeth wedi bod yn hynod ddefnyddiol.
“Doeddwn i ddim yn sylweddoli bod 'na le i bobl fel fi ddod yma a dilyn cynllun ond mae o ar gael ac mae o werth popeth,” meddai.
“Y diwrnod cyntaf... wel. mi a'th yr awr ac yna awr a hanner a sgwrsio efo pobl eraill."
Drwy ei haelodaeth mae hi’n cael defnyddio’r cyfarpar yn y canolfannau hamdden ac yn dweud y bydd hi yn “bendant” yn parhau heibio cyfnod y cwrs mae hi’n ei ddilyn.
'Mae help ar gael'
I nifer sydd wedi dioddef trawma meddygol neu salwch mae’r profiad o fynd i ganolfannau ffitrwydd a hamdden yn gallu bod anodd, ond yn ôl yr hyfforddwr Graham Pierce mae help ar gael.
“[Hyder] ydi un o’r problemau mwyaf y mae angen i bobl ddod dros i ddod mewn i’r sefyllfa yma,” meddai.
“Mae pawb yn gwybod erbyn hyn bod ymarfer yn beth da iddyn nhw ond sut i neud, faint ohono a sut i neud o’n saff... mae hynny am roi bobl off ddod yma”.
Yn ôl y ganolfan, dyma'n union y math o wasanaethau sydd eu hangen ledled Cymru er mwyn cadw’r genedl yn ffit a iach, a cheisio osgoi mwy o bobl yn dibynnu ar y gwasanaeth iechyd.
Ond gyda chyllid y gwasanaeth yn segur ers 2013 mae ‘na boeni y gallai pwysau cyllidebau cynghorau sir Cymru arwain at lai o wasanaethau tebyg.
“'Swn i'n d'eud wrth wleidyddion 'mae rhaid i chi wneud penderfyniadau rŵan sydd am gael effaith ella mewn 10 mlynedd',” meddai Amanda Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Byw’n Iach.
“Dwi’m yn meddwl, yn gyffredinol, fod hynny wedi digwydd yn y gorffennol.”
'Rhaid troi pob carreg'
“Mae angen i rhywun fod yn ddewr ac edrych i'r tymor canolig, a buddsoddi rŵan i wella iechyd y genedl.
“'Swn i’n dadlau mai gwasanaeth salwch sydd ganddon ni, nid gwasanaeth iechyd sydd ganddon ni.
"Oll mae’n neud ydi ymdrin â salwch... mae’r gwasanaeth iechyd yn fan hyn.”
Mae’n bwnc sydd wedi ysgogi arweinwyr Cyngor Gwynedd i ysgrifennu'n uniongyrchol at Lywodraeth Cymru.
Yn ôl Dirprwy Arweinydd y sir, Nia Jeffreys, mae 'na boeni y gallai rhagor o doriadau arwain at lai o ddarpariaeth - yn groes i’r hyn sydd ei angen.
Dywedodd: “Mi fydd yn rhaid inni droi bob carreg i neud yn siŵr bod ni’n gallu cael cyllideb cytbwys felly yn anffodus dwi’m yn meddwl bod dim byd oddi ar y cardiau.”
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi "ymrwymo i wella iechyd corfforol a meddyliol pobl Cymru”.
"Mae ein cynllun presgripsiwn cymdeithasol eisoes yn helpu unigolion i gysylltu gydag adnoddau o fewn eu cymunedau,” dywedodd llefarydd.
“Er pwysau eithriadol ar ein cyllideb rydym wedi parhau i wario yn y meysydd hyn ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.
“Rydym hefyd â mesurau ar waith i wella mynediad at swyddi, cynyddu brechiadau a mynd i’r afael ag ysmygu a fepio.”