Cynllun peilot Aberteifi'n arbed cannoedd rhag mynd i'r ysbyty

Canolfan Gofal Integredig Aberteifi
Disgrifiad o’r llun,

Mae Canolfan Gofal Integredig Aberteifi yn cynnig gwasanaeth gofal brys yr un diwrnod

  • Cyhoeddwyd

Mae staff a chleifion mewn canolfan iechyd yng Ngheredigion wedi galw am droi cynllun peilot - sy'n arbed cannoedd o bobl rhag gorfod ymweld â'u hysbytai lleol - i fod yn wasanaeth parhaol ar benwythnosau.

Ers mis Ionawr, mae'r gwasanaeth gofal brys yr un diwrnod yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi wedi ymestyn ei oriau agor i gynnwys dyddiau Sadwrn a Sul, a hynny fel rhan o gynllun peilot tan ddiwedd mis Mawrth.

Bwriad y gwasanaeth, sydd eisoes yn cael ei gynnig yn barhaol yn ystod yr wythnos, yw helpu i leddfu'r pwysau ar adrannau brys ysbytai.

Dywedodd Llywodraeth Cymru, sydd wedi ariannu'r cynllun peilot yn rhannol, mai "cyfrifoldeb y bwrdd iechyd yw penderfynu sut mae'n defnyddio ei setliad ariannu blynyddol i gynllunio a darparu gwasanaethau".

Heather Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Mae Heather Jenkins yn teimlo fod galw am y gwasanaeth 7 diwrnod yr wythnos

Rhuthrodd Heather Jenkins o Benparc i'r ganolfan yn Aberteifi yr wythnos ddiwethaf wedi i'w chyfaill gael ei daro'n wael.

"Fi'n dysgu cymorth cyntaf ac o'n i mewn establishment sy'n agos i Aberteifi a colapsodd un o'r dynion oedd ar y cwrs gyda fi," meddai.

"O'n i'n ffaelu cael ambiwlans am dair awr minimum neu falle'n hirach. Diolch byth bod hwn ar agor.

"O'n i'n gallu rhoi fe yn y car gyda help a dod a fe mewn fan hyn.

"I ddweud y gwir, bydden ni 'di gorfod mynd i [ysbytai] Aberystwyth, Caerfyrddin neu Withybush, a ma' hwnna'n 30 milltir o lle y'n ni yn Aberteifi, a hefyd, galle rhywbeth fod wedi digwydd ar y ffordd.

"Ni'n lwcus bod hwn 'ma, a licien i weld e ar agor 24 awr i ddweud y gwir."

'Dim gwelyau i gael'

Mae Ms Jenkins yn un o'r rheiny sy'n galw am barhad i'r cynllun peilot ar benwythnosau y tu hwnt i ddiwedd Mawrth.

"Nawr gyda holidays yr haf, ti'n mynd i gael llwyth o bobl yn dod lawr i'r ardal, ma' eisiau fe, definite, i gymryd bach o pressure off yr A&Es.

"S'dim gwelyau i gael ac i fi, mae e'n drist iawn, yn enwedig fel ex-district nurse."

Hywel Williams yn eistedd mewn cadair
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hywel Williams wedi defnyddio'r gwasanaeth "sawl gwaith" yn Aberteifi

Wedi cael gwybod nad oedd apwyntiad meddyg ar gael iddo, cafodd Hywel Williams o Frongest ger Castellnewydd Emlyn gyngor i ddefnyddio'r gwasanaeth gofal brys yr un diwrnod yn Aberteifi.

"Fi'n peswch sych a'n ffaelu cael gwared y fflem," meddai, wrth eistedd mewn ciwbicl yn y ganolfan yn aros am ddiweddariad gan uwch ymarferwr nyrsio.

Dywedodd mai "rhyw hanner awr" yn unig y bu'n rhaid iddo aros cyn cael ei weld, o'i gymharu â "chwe, saith awr yng Nghaerfyrddin" - lleoliad yr adran frys agosaf iddo.

"Mae'r service fan hyn yn good, rili good," meddai.

"Ma' pawb yn meddwl bod y service 'ma wedi cael ei downgradeio a bod y service ddim cystal, ond mae e'n iawn."

'Bydden i wedi gorfod aros tan yfory'

Yn eistedd yn y man aros ers 15 munud roedd Adrian Edwards o Dre-fach Felindre.

Roedd e hefyd wedi methu cael apwyntiad gyda'r meddyg ac wedi cael cyngor i ddefnyddio'r gwasanaeth gofal brys yr un diwrnod yn Aberteifi.

"Infection yn y chest sydd 'da fi. Mae e 'di bod gyda fi ers rhyw bedair, pump wythnos a fi 'di trial gwaredu fe gartre a 'di ffaelu," meddai.

Adrian Edwards yn eistedd yn y man aros
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Adrian Edwards mai dyma'r trydydd tro iddo ddefnyddio'r gwasanaeth, a'i fod yn cael ei weld o fewn tri chwarter awr pob tro

Heb y gwasanaeth gofal brys yr un diwrnod, "fwy na thebyg bydden i wedi gorfod aros tan yfory neu drennydd neu gorfod mynd i [ysbyty] Glangwili".

Mae o'r farn y dylid cynnig y gwasanaeth yn barhaol ar benwythnosau, fel sy'n cael ei gynnig yno yn ystod yr wythnos.

"Mae'n arbennig," meddai.

"Gall dyn ddim dweud pa ddiwrnodau mae e'n mynd i fod yn sâl a mae'n rhaid iddo fe weld rhywun dros y penwythnos.

"Mae'n neis bod lle fel hyn i ga'l yn lle bo ni'n crowdio yr ysbyty yn Glangwili neu le bynnag ma'r ysbyty agosa' atoch chi."

Man aros y gwasanaeth Gofal Brys yr Un Diwrnod.
Disgrifiad o’r llun,

Er y gall cleifion gerdded i mewn, maen nhw'n cael eu hannog i ffonio'n gyntaf i siarad ag ymarferydd i drafod eu mater

Mae'r ganolfan wedi cynnig gwasanaeth gofal brys yr un diwrnod yn barhaol yn ystod yr wythnos ers 2021.

Mae'n cael ei arwain gan uwch ymarferwyr nyrsio sy'n gallu asesu, gwneud diagnosis a thrin cleifion.

Maen nhw wedyn yn gallu dychwelyd adref yr un diwrnod, gyda chynllun gofal sy'n cynnwys atgyfeiriadau i wasanaethau eraill os oes angen.

"Fel arfer, ni'n gweld tua 80-90 o gleifion y dydd," meddai Sian Owen Lewis, sy'n gweithio fel nyrs arweiniol clinigol yn y ganolfan.

"Mae'r amser aros yna yn gallu mynd o hanner awr lan hyd dair awr. Mae e'n dibynnu beth sy'n dod drwy'r drysau."

Sian Owen Lewis, Nyrs Arweiniol Clinigol
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Sian Owen Lewis, mae'r ymateb gan yr ysbytai yn bositif

Ychwanegodd: "Os yw e'n argyfwng sy'n peryglu bywyd, bydden i'n dal i ddweud bod angen iddyn nhw fynd i'r ysbyty.

"Popeth arall, fydden i'n gallu edrych arno yma, a siarad gyda nhw ar y ffôn cyn iddyn nhw ddod i'r uned i wneud yn siŵr bo' nhw yn y lle iawn."

Esboniodd hefyd eu bod fel gwasanaeth yn gallu mynd at gleifion yn eu cartrefi os ydyn nhw'n rhy sâl i fynychu'r ganolfan, a bod y gwasanaeth ambiwlans hefyd yn cyfeirio pobl atyn nhw.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Hywel Dda, yn ystod y penwythnos peilot cyntaf, cafodd 108 o gleifion fynediad i'r gwasanaeth.

Erbyn hyn, mae dros 300 o gleifion wedi cael eu gweld ar benwythnosau ers cychwyn y peilot ar 11 Ionawr - tua 40 o'r rheiny yn eu cartrefi.

Gobeithio parhau â'r cynllun

Mewn ymateb i'r galwadau am gynnig gwasanaeth gofal brys yr un diwrnod yn barhaol ar benwythnosau yn Aberteifi, dywedodd Jina Hawkes, rheolwr cyffredinol gofal cymunedol a sylfaenol Ceredigion: "Byddwn ni'n gweithio gyda'r exec team nawr i gael gweld beth allwn ni wneud pan fydd yr arian yn beni mis Mawrth.

"Ni'n gobeithio bydd e'n gallu cario 'mlaen ond mae'n rhaid i ni edrych ar y system i gyd."

Jina Hawkes, Rheolwr cyffredinol gofal cymunedol a sylfaenol Ceredigion
Disgrifiad o’r llun,

Gweld ôl y model yn Aberteifi ar draws Bwrdd Iechyd Hywel Dda yw gobaith Jina Hawkes

Mae'r cynllun peilot ar benwythnosau yn cael ei ariannu'n rhannol tan ddiwedd Mawrth gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Rydym wedi darparu cyllid ychwanegol i fyrddau iechyd i reoli anghenion gofal brys yn ddiogel yn y gymuned.

"Cyfrifoldeb y bwrdd iechyd yw penderfynu sut mae'n defnyddio ei setliad ariannu blynyddol i gynllunio a darparu gwasanaethau, yn seiliedig ar asesiad o angen y boblogaeth leol."