Cyn-ymosodwr Cymru yn cael ei wahardd rhag gyrru am chwe mis

Mae Malcolm Allen - a enillodd 14 cap dros ei wlad - yn sylwebydd rheolaidd ar SgorioFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Malcolm Allen - a enillodd 14 cap dros ei wlad - yn sylwebydd rheolaidd ar Sgorio

  • Cyhoeddwyd

Mae'r sylwebydd pêl-droed, Malcolm Allen, wedi ei wahardd rhag gyrru am chwe mis ar ôl cael ei ddal yn defnyddio ei ffôn symudol tra'n gyrru.

Ymddangosodd cyn-ymosodwr Cymru a Newcastle o flaen ynadon Caernarfon ddydd Llun.

Yn ogystal â'r gwaharddiad, cafodd Allen, sy'n 57 oed, ddirwy o £184.

Roedd wedi gwneud cais i gael cadw'i drwydded ond penderfynodd ynadon na fyddai hynny'n bosib am fod ganddo ormod o bwyntiau ar ei drwydded yn barod.

Mae Allen - a enillodd 14 cap dros ei wlad - yn cyfrannu'n helaeth i nifer o raglenni S4C a Radio Cymru, gan gynnwys Sgorio a phodlediad Y Coridor Ansicrwydd.

Pynciau cysylltiedig