Carcharu dyn am gam-drin dynes yn hiliol yng Nghaernarfon
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 36 oed wedi cael ei garcharu am gam-drin dynes yn hiliol yng Nghaernarfon.
Roedd Michael Owen Williams, o Bwllheli, wedi cyfaddef i drosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus, wedi'i gwaethygu gan hiliaeth.
Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mawrth fod Williams wedi cam-drin dynes a’i phlant yn hiliol mewn gorsaf fysiau ar 9 Awst.
Dechreuodd weiddi arni i "fynd yn ôl o ble daethoch" a dweud wrthi "dydych chi ddim yn perthyn yma".
'Ymddygiad ffiaidd'
Clywodd y llys fod Williams wedi torri ei orchymyn atal troseddau rhyw a dderbyniodd yn 2008, a oedd yn ei wahardd rhag mynd at fenywod a’u haflonyddu.
Cafodd ei garcharu am ddwy flynedd ac un mis a chafodd orchymyn i beidio mynd yn agos at y ddynes am dair blynedd.
Dywedodd yr Arolygydd Ian Roberts o Heddlu'r Gogledd: "Roedd hwn yn ymddygiad ffiaidd a gafodd ei dargedu at ddynes oherwydd ei hil.
"Ni fydd hyn yn cael ei oddef yng Ngwynedd, a byddwn yn delio'n gadarn ag unrhyw achosion o droseddau casineb."