Fuoch chi 'rioed i... Langrannog?

LlangrannogFfynhonnell y llun, Jim Monk
  • Cyhoeddwyd

Mae pentref Llangrannog yn sefyll ar arfordir Ceredigion rhwng Aberteifi a Chei Newydd.

Mae’n boblogaidd iawn amser hyn o’r flwyddyn gyda thwristiaid, teuluoedd a syrffwyr yn ymweld â’r lle, ond tybed faint ohonyn nhw sy’n gwybod am hanes diddorol Llangrannog?

Sant Carannog

Ar ben clogwyn uwchben y traeth mae cerflun o Sant Carannog i’w weld. Sant Celtaidd oedd Carannog. Roedd yn fab i frenin Corun ac yn ŵyr i frenin Ceredig a rhoddodd ei enw i Sir Aberteifi. Nid oedd Carannog eisiau etifeddu’r orsedd ar ôl ei dad ac mae’n debyg fe aeth i fyw fel meudwy mewn ogof.

Ffynhonnell y llun, Michael Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Cerflun Sant Carannog

Sefydlodd Llangrannog yn y chweched ganrif ac mae’r enw yn golygu ‘Eglwys Carannog.’ Credai Carannog bod colomen wedi dangos iddo ble i adeiladu eglwys y pentre ac mai neges gan Dduw oedd hyn. Adeiladodd yr eglwys wreiddiol allan o bren ar yr un safle ac mae’r eglwys bresennol yn sefyll.

Neges gan Dduw neu beidio, dewisodd Sant Carannog man delfrydol ar gyfer yr eglwys sy’n agos i’r môr, ond wedi’i guddio rhag yr arfordir ac ysbeilwyr posib. Teithiodd Carannog yn helaeth ac mae’n amlwg roedd y dynfa i’r môr yn gryf achos fe adeiladodd eglwysi eraill ar hyd yr arfordir yn cynnwys Crantock yn Nghernyw, Carantec yn Llydaw, a Carhampton yng Ngwlad yr Haf.

Tyfodd pentref Llangrannog o gwmpas yr eglwys cyn ymestyn tuag at y traeth. Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, llongau oedd prif ddiwydiant y lle. Adeiladwyd pedair ar hugain o longau ar y traeth, a hyd at ddechrau’r ugeinfed ganrif roedd bron bob dyn yn y pentref yn forwr. Mae’n rhyfeddol felly mae menyw yw morwr enwocaf Llangrannog a’i henw hi oedd Sarah Janes Rees, neu ei henw barddol, Cranogwen.

Cranogwen

Ganwyd Cranogwen yn Llangrannog ym 1839. Roedd yn athrawes, bardd, golygydd, morwr, ac ymgyrchydd.

Roedd Cranogwen yn fenyw arloesol a aeth yn groes i ddisgwyliadau cymdeithas y cyfnod. Astudiodd mordwyo yn Llundain ac enillodd ei thystysgrif meistr oedd yn caniatáu iddi gymryd rheolaeth ar long mewn unrhyw ran o’r byd. Fe ddaeth yn brifathrawes Ysgol Pontgarreg yn Llangrannog a dysgodd mordwyo i forwyr ifanc oedd yn falch i alw ei hun yn ‘Gapteiniaid Cranogwen.’

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Ganwyd Cranogwen yn Llangrannog ym 1839

Roedd Cranogwen hefyd yn fardd dawnus ac yn 1865 hi oedd y fenyw gyntaf i ennill y goron yn yr Eisteddfod. Roedd y dorf yn disgwyl i’r wobr gael ei hennill gan Islwyn neu Ceiriog, dau fardd poblogaidd y cyfnod felly gaeth y gynulleidfa (a’r ddau fardd!) sioc pan gododd menyw ar ei thraed.

Brwydrodd Cranogwen dros gydraddoldeb rhyw a dyma oedd un o brif negeseuon ei darlithiau. Ymwelodd â chapeli gorlawn ar hyd a lled Cymru a hefyd ar draws America yn ystod cyfnod lle nid oedd yn dderbyniol i fenyw siarad yn gyhoeddus. Yng Nghapel Brynhyfryd, Abertawe daeth bron i fil o bobl i’w chlywed hi’n siarad.

Mae cerflun i weld ohoni hi a’i chi bach yn y pentref. Byddai’n mynd a’i chi gyda hi i’w darlithoedd yn y capeli. Nid oedd y gweinidogion yn hapus o gwbl i weld y fath greadur yn nhŷ Duw ond nid oedd yr un ohonynt yn ddigon dewr i ddweud hyn wrth wyneb Cranogwen.

Disgrifiad o’r llun,

Cerflun o Cranogwen a'i chi

Gwersyll yr Urdd Llangrannog

I lawer o bobl, mae Llangrannog yn hel atgofion o aros yng ngwersyll yr Urdd: diwrnodau braf ar y traeth, canu caneuon yn y ffreutur, neu dreulio oriau yn methu cysgu rhag ofn bod ysbrydion y gwersyll yn stelcian yn y tywyllwch.

Sefydlodd Gwersyll yr Urdd Llangrannog ym 1932. Yn y dyddiau cynnar, caban pren y ffreutur oedd canolbwynt y gwersyll gyda lle i 150 o wersyllwyr yn aros mewn cabanau neu bebyll.

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Yn y dyddiau cynnar byddai gwersyllwyr yn aros mewn pebyll neu gabanau

Yn 1939 cafodd y gwersyll grant gan y Cyngor Iechyd. Roedd y grant yma yn galluogi’r gwersyll i agor campfa newydd a hefyd datblygu cyrsiau addysg i blant.

Erbyn y chwedegau, roedd y gwersyll wedi adeiladu caban bwyta a blociau cysgu newydd ac erbyn y saithdegau a’r wythdegau roedd gan y gwersyll adnoddau newydd fel pwll nofio, sgubor fawr a siop lle gallech brynu bron unrhyw beth gyda Mistar Urdd arno.

Ffynhonnell y llun, Gwersyll yr Urdd Llangrannog
Disgrifiad o’r llun,

Merlota gyda ‘Dai Ceffylau’

Ond, daeth y campwaith mwyaf yn ystod y nawdegau pan adeiladodd y gwersyll rhywbeth nad oedd de Cymru erioed wedi gweld ei fath o’r blaen - llethr sgïo!

Nawr roedd gan blant bach Cymru oedd heb fawr o siawns o weld yr Alpau, y cyfle i drio sgïo am y tro cynta…ac i lawer iawn ohonynt y tro olaf.

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Y llethr sgïo yn ei holl gogoniant

Erbyn heddiw mae gan y gwersyll gweithgareddau newydd sbon fel weiren zip, canolfan ddringo dan do a llety moethus. Mae’r hen gabanau pren a’r pebyll yn atgof pell. (Er mae’r ysbrydion dal yn fyw ac yn iach).