Carcharu dyn o Sir Gâr am dreisio dau o blant

Lloyd DaviesFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Sir Gâr wedi cael ei garcharu am 12 mlynedd am dreisio dau o blant.

Fe wnaeth Lloyd Davies, o Gaecoed, Llandybie - ger Rhydaman - dreisio a cham-drin yn rhywiol ddau o blant - yr ieuengaf yn chwech oed ar adeg y drosedd.

Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener, cafwyd Davies yn euog o dri chyhuddiad o dreisio plentyn dan 13 oed, dau gyhuddiad o achosi neu gymell plentyn o dan 13 oed i gymryd rhan mewn gweithgaredd rywiol, ymosodiad rhywiol ar blentyn o dan 13 oed a gwneud delwedd anweddus categori A o blentyn.

Dywedodd y Ditectif Sarjant Carl Pocock o Heddlu Dyfed-Powys: "Hoffwn ddiolch o galon i'r ddau ddioddefwr yn yr achos hwn sydd wedi bod yn hynod ddewr wrth ddod ymlaen at yr heddlu a siarad am eu trawma fel plant ifanc.

"Yn sgil eu dewrder, bydd Lloyd Davies nawr yn treulio cyfnod sylweddol yn y carchar, gan wneud ein cymunedau'n fwy diogel.

"Dwi'n gobeithio ar ôl y ddedfryd y gallant nawr geisio symud ymlaen â'u bywydau.

"Mae'r achos hwn yn ein hatgoffa y gellir sicrhau cyfiawnder flynyddoedd ar ôl unrhyw gamdriniaeth.

"Dwi'n gobeithio bod y canlyniad hwn yn dangos nad yw byth yn rhy hwyr i godi llais."