Paentio baner Lloegr ar gylchfan yn Llandudno

Mae croes goch baner San Siôr wedi ymddangos ar gylchfan yn Llandudno - fe fydd y gwaith glanhau yn costio arian ac yn achosi trafferth i'r cyhoedd, medd y cyngor sir
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi i rywun baentio baner Lloegr ar gylchfan fach yn un o drefi'r gogledd.
Cafodd croes goch baner San Siôr, symbol nawdd Sant Lloegr, ei phaentio ar gylchfan ar Ffordd Maesdu, Llandudno, ger Ysgol John Bright.
Dywed Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn gwneud ymholiadau, ac mae Cyngor Conwy wedi beirniadu'r "graffiti".
Daw'r fandaliaeth wedi i filoedd o faneri Lloegr a baneri Jac yr Undeb gael eu codi ar draws Lloegr - yn gyfreithlon ac yn anghyfreithlon - fel rhan o ymgyrch genedlaethol answyddogol.
Mae'r arfer bellach wedi lledu i rannau eraill o'r DU, ac mae nifer o achosion wedi eu cofnodi o baentio baneri'n anghyfreithlon mewn mannau cyhoeddus fel cylchfannau.
Mae cysylltiad rhwng rhywfaint o'r ymgyrchu â gwrthwynebu rhoi lloches i fewnfudwyr a cheiswyr lloches mewn gwestai.

Mae sawl cylchdro wedi cael eu paentio ar draws Lloegr yn ystod yr wythnosau diwethaf, gan gynnwys yr un yma yn Dorset
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy eu bod am gael gwared ar y faner.
"Mae paentio heb awdurdod neu graffiti ar y ffordd yn anghyfreithlon ac fe fydd yn cael ei dynnu," dywedodd.
"Mae'r fandaliaeth yma'n costio arian cyhoeddus ac fe fydd yn achosi trafferthion i ddefnyddwyr y ffordd tra ein bod yn ei lanhau."
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru eu bod "yn ymwybodol" o'r graffiti "ac mae swyddogion lleol yn cynnal ymholiadau".