Y capel sy'n noddfa i Gymry Cymraeg Birmingham
- Cyhoeddwyd
Mae'n fore Sul ac yn tynnu at ddeg o'r gloch. Mae drws capel Cymraeg Bethel yng nghanol Birmingham yn agored.
Fe fydd yr oedfa yn cychwyn ymhen hanner awr ac eisoes mae'r organyddes, Haf Wyn Owen wrthi yn ymarfer carolau Nadolig ar gyfer y gwasanaeth.
Fe symudodd hi i'r ddinas o Flaenau Ffestiniog yn y 1960au
Dyw hi ddim yn disgwyl y bydd mwy na tua hanner dwsin o bobl yn y gwasanaeth y bore 'ma, ond mae'n cofio adeg pan oedd y capel yn orlawn.
"Gyda'r nos, os nad oeddech chi yn cyrraedd erbyn hanner 'di pump fe fyddech chi wedyn yn gorfod nôl cadair o'r festri,"meddai Haf Wyn Owen.
"Roedd e dan ei sang, ond fe ddaeth diweithdra a symudodd llawer o bobl nôl i Gymru.
"Mae'r niferoedd wedi mynd i lawr ers hynny."
Fe ymunodd Glyn Thomos o Ynys Môn â'r capel dros 40 mlynedd yn ôl ar ôl symud i fyw i'r ddinas gyda'i waith.
Bore 'ma, mae e wrthi'n paratoi i helpu'r gweinidog ddosbarthu'r cymun i'r aelodau.
"Bydden ni'n licio gweld mwy o bobl ifanc yn dod yma," meddai, "bydden nhw yn cael croeso".
"Rwy'n siŵr fod pobl yn pasio heb weld y capel oherwydd ry'n ni yng nghysgod adeiladau mawr tal, uchel."
Fe gychwynnodd gwaith adeiladu capel Bethel ym 1967 yn dilyn dymchwel hen gapeli Suffolk Street a Hockley Hill.
Mae'n adeilad unigryw yng nghanol Birmingham ac yn swatio rhwng blociau o fflatiau eiconig sy'n cael eu 'nabod fel y 'Dorothy Towers'.
Fe all tua 250 o addolwyr eistedd yn gyfforddus yma, ond erbyn heddiw tua 12 o aelodau yn unig sydd ar ôl, a dim ond un blaenor, John Williams.
"Pan ddes i gynta' i Birmingham bues i yn mynd i Suffolk Street, ond ar ôl dymchwel hwnnw dwi 'di bod yn dod i'r capel yma ers iddo gael ei adeiladu [a] dwi dal yma.
"Pan ges i 'ngwneud yn flaenor yma gynta' roedd 33 o flaenoriaid, a'r sêt fawr ddim yn ddigon mawr i bawb.
"Rŵan, fi ydy'r unig un sydd ar ôl."
Un o'r aelodau mwyaf newydd yw Gwyneth Davies.
Fe symudodd i Birmingham bum mlynedd yn ôl o Landrillo-yn-Rhos ar ôl colli ei gŵr, er mwyn bod yn nes at ei theulu.
"O'n i mor falch i weld y capel yma un diwrnod pan oeddwn i ar y bỳs," meddai.
"'Dyma ni', meddwn i wrth fy hun, 'rwy' wedi ffeindio fy nghapel Cymraeg'.
"Ry'n ni gyd mor glos a theuluol. Mae'n lyfli yma."
Does dim gweinidog gan y Capel erbyn hyn, ond mae gwasanaethau'n cael eu cynnal bob Sul gyda phregethwyr gwadd, a heddi maen nhw'n croesawu'r Parchedig Ddr Siôn Aled o Wrecsam i'r pulpud.
"Mae hanes hir i'r Eglwys Gymraeg yma," dywedodd.
"Yn yr hen ddyddie roedd pobl oedd yn symud o Gymru i weithio yn Lloegr yn tueddu i aros yn Lloegr. Doedd hi ddim mor hawdd i fynd adre.
"Erbyn hyn, ma' pobl yn fwy symudol a dwi'n meddwl fod hynny wedi effeithio ar niferoedd y cynulleidfaoedd yn y llefydd yma."
Troi'r capel yn 'gapel heddiw'
Er bod y seddi gweigion yn amlwg yn peri pryder i aelodau Bethel, maen nhw'n dal yn hyderus fod modd denu wynebau newydd i'w plith.
Troi'r capel yn "gapel heddiw" yw eu neges, a gwneud mwy o ddefnydd o dechnoleg a dulliau rhwydweithio cymdeithasol, fel Instagram, mewn ymdrech fawr i ddenu aelodau.
Edrych i'r dyfodol gyda gobaith mae Ellen Whitehouse, un o'r aelodau prysuraf - hi yw'r ysgrifennydd a'r trysorydd.
"Mae capel Bethel yn bopeth i mi ac mi wna' i fy ngorau i gadw'r drysau ar agor tra medra' i.
"Dwi yn cael lot o gefnogaeth gan yr aelodau er'ill."
Mae Ellen wedi bod yma ers ben bore yn glanhau a pharatoi ar gyfer y gwasanaeth a hi sy'n cloi'r drws ar ddiwedd yr oedfa.
"Dwi yn gobeithio mai capel fydd o am byth, achos mae o mor bwysig cael gweld croes Crist, ac mae e yno i'w weld yn glir i bawb mewn concrid ar ben tŵr ein capel yn dangos i bwy ry'n ni yn perthyn."