Bywyd o aros a gobeithio gyda thiwmor yr ymennydd
- Cyhoeddwyd
Wyth mlynedd yn ôl, cafodd Sam Densham o Raglan, Sir Fynyw, ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd.
Mae'n rhywbeth mae hi'n gorfod byw gydag o, ac mae hi'n aros i weld os bydd hi angen llawdriniaeth i'w dynnu rhyw ddydd. Dyma ei stori:

Mae Sam yn rhedeg cwmni theatr yn Sir Fynwy
O'n i wedi bod yn cael trafferthion gyda fy malans, ac o'n i'n gweld arbenigwr i weld os oedd 'na rywbeth yn bod gyda fy nghlust. Doedden nhw methu dod o hyd i ddim byd, ond ar ôl cael sgan, ges i wybod eu bod nhw wedi dod o hyd i mass ar yr ymennydd.
'Nes i golli fy nhad yn 1992 pan o'n i'n 24. Roedd ganddo dri thiwmor yn ei ymennydd, a dyna'n syth beth 'nes i feddwl amdano.
Ges i wybod mod i am gael fy anfon ar frys i weld arbenigwr, ond 'naeth hynny olygu gweld rhywun mewn chwe mis. Roedd rhaid i mi fod yn proactive a gwneud llawer o apwyntiadau i hyd yn oed ffeindio mas beth oedd e'n ei olygu.

Bu farw Denny, tad Sam, o dri thiwmor ar yr ymennydd
Meningioma yw e, sy'n benign, felly dwi'n eithriadol o lwcus. Roedd e'n diwmor bach oedd ddim yn cael llawer o effaith arna i, ond gall e dyfu. Felly dwi'n cael sgans rheolaidd – os dyw e ddim yn tyfu, bob dwy flynedd, ac os yw e'n tyfu, bob blwyddyn.
Dwi newydd ffeindio mas fod y sgan ges i wyth mis yn ôl yn dangos fod y tiwmor wedi tyfu ac yn dechrau amharu ar yr ymennydd. Mae'n mynd drwy gyfnodau o dyfu, wedyn stopio, wedyn tyfu ychydig mwy.
Roedd e braidd yn sioc. Ond achos ei fod e'n benign, dwi'n ocê...
Dydd i ddydd
Dwi'n lwcus iawn oherwydd dydi o ddim yn effeithio llawer arna i, ddydd i ddydd.
Mae gen i broblemau iechyd eithaf cymhleth beth bynnag; dwi 'di cael diagnosis o bipolar ac mae gen i Ehlers-Danlos hypermobility, sy'n gallu bod yn boenus iawn, felly ti byth yn siŵr pa symptom sy'n gysylltiedig i un arall.
Gall y tiwmor effeithio ar ochr dde fy nghorff, felly os ydw i byth yn baglu, dwi'n cwestiynu os mai'r tiwmor yw e, neu rywbeth arall.
Dwi'n cael trafferth gyda fy nghof weithiau, ond gall hynny fod achos mod i'n post-menopausal.
Ond dwi dal yn poeni.
Y broblem fwyaf yw'r aros a wir jest ddim gwybod. Ond ti'n gwthio hwnnw i gefn dy feddwl. Dwi'n trio peidio meddwl amdano.
Gan ei fod yn effeithio ar yr ymennydd, mae'n effeithio ar bopeth yn dy fywyd. Sut ti'n gallu symud 'mlaen, os ti ddim cweit yn siŵr beth mae dy ymennydd di am wneud?

Sam, cyn iddi gael ei diagnosis
Teulu a ffrindiau
Mae'n anodd gwybod sut i ddweud wrth bobl eraill. Dwi'n meddwl falle fod hynny'n wir gydag unrhyw fath o salwch fel yma; dyw pobl ddim yn siŵr sut i ymateb.
Dwi'n trio bod mor agored â phosib am fy iechyd. Ond os dwi'n dweud wrth rywun am y tiwmor, dwi'n gorfod mynd 'mlaen yn syth i ddweud "ond mae'n iawn, dwi'n ocê".
Dyw pobl ddim eisiau siarad amdano fe. A weithiau ti angen siarad. Neu weithiau does dim rhaid iddyn nhw ddweud dim, ond mae angen ei gydnabod e.
Ac mae'n cael effaith fawr ar deulu a ffrindiau. Mae mhartner yn poeni mwy nag ydw i os dwi'n cael cur pen neu yn syrthio; aeth e mor welw pan 'nes i ddweud fod y tiwmor wedi tyfu.
Felly dwi'n teimlo bod angen chwarae'r peth lawr, ac i beidio cyfadde mod i'n poeni, achos dwi'n casáu pan mae pobl eraill yn poeni.
Ond mae teulu a ffrindiau mor bwysig yn hyn. Maen nhw angen bod yn gryf ond hefyd angen galaru hefyd; dim marwolaeth rhywun, ond galaru'r posibilrwydd o beth allai ddigwydd

'Angen gweiddi 'chydig mwy'
Ti ddim yn clywed gymaint â hynny am diwmorau yr ymennydd, ac roedd y diagnosis yn sioc enfawr. Dim ond ar ôl ymchwilio ti'n sylweddoli gymaint o bobl mas 'na sydd â thiwmor. Ond mae 'na gymaint o fathau gwahanol, ac mae profiadau pawb yn wahanol.
Roedd gan fy ffrind i meningioma ond hefyd math arall o diwmor oedd yn effeithio ar ei golwg hi. Ac fel artist, roedd hynny'n anodd iawn iddi.
Cafodd lawdriniaeth i dynnu'r tiwmor yna, ond roedd wedi dechrau mynd yn wael iawn ac yn dechrau effeithio ar ei chlyw hefyd, wrth aros am y lawdriniaeth.
Roedd hi gymaint o ofn meddwl beth allai ddigwydd iddi.
Roedd fy nhad wedi dechrau cael trafferthion cof, wedyn roedd e'n gyrru yn rhyfedd, ac oedd e wedi mynd yn sâl cyn cael diagnosis. Yn lwcus, does yna ddim cysylltiad geneteg rhwng tiwmors fy nhad a fy un i.
Roedd e'n ddyn ysbrydol iawn, ac roedd e'n gwbl sicr ei fod am wella, ac roedd hynny'n beth anodd i fyw gyda, achos o'n i'n gweld ei fod ddim yn gwella, ac roedd hi'n amlwg fod ganddo ddim llawer o amser ar ôl. Roedd e drosodd o fewn rhyw chwe mis. Ofnadwy ond cyflym.

Y llun olaf o Sam gyda'i thad - roedd Denny yn sâl iawn cyn iddo farw ym mis Awst 1992
Dwi'n ddiolchgar fod gen i nawr well syniad o pa mor anodd yw hi i bobl eraill a sut mae pobl yn cael eu heffeithio ganddyn nhw. Mae hi mor bwysig i godi ymwybyddiaeth. Ry'n ni angen gweiddi 'chydig mwy amdano.
O ran yr ochr feddygol, ry'n ni'n nyddiau cynnar y dechnoleg, ond dwi ddim yn meddwl fod yna ddigon o ymchwil yn mynd 'mlaen.
Bydda i'n cael sgan arall mewn chydig o fisoedd. Dwi jest yn aros yn obeithiol; os yw e wedi tyfu mwy, yna byddai 'na effaith corfforol falle, fel fy nghoes yn stopio gweithio neu rywbeth. Neu y byddan nhw'n cysylltu nôl gyda fi yn syth.
Dwi'n dweud eto ac eto, dwi'n lwcus iawn, er mae byw gyda'r hyn dwi'n ei wybod yn anodd. Ond rhaid gwthio hyn i gefn dy feddwl, achos rhaid i ti jyst cario 'mlaen – dyna beth yw bywyd.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2024