Tiwmor ymennydd wedi 'newid byd' merch dair oed
- Cyhoeddwyd
Mae mam o'r gogledd yn dweud nad ydy hi'n "edrych ymlaen gormod" i'r dyfodol ar ôl i'w merch fach gael tiwmor ar ei hymennydd.
Y llynedd, cafodd Elsi, sy'n dair oed ac yn byw yn Llanrug, Gwynedd, lawdriniaeth i dynnu tiwmor o gefn ei phen yn dilyn cyfnod o waeledd.
Mae ei mam, Eleri Davies, wedi son am sut mae'r salwch wedi cael effaith ar gymaint yn fwy na'r teulu agos.
Mae dros 500 o bobl yn cael diagnosis tiwmor yr ymennydd yng Nghymru bob blwyddyn.
Dyma'r math o ganser sy'n lladd y nifer fwyaf o blant ac oedolion o dan 40 oed.
Yn ôl elusen 'The Brain Tumour Charity', mae angen llawer mwy o waith i fynd i'r afael â'r cyflwr.
Yn ôl Eleri, mae'n bwysig i godi ymwybyddiaeth ynghylch tiwmorau a'u symptomau.
Roedd Elsi wedi bod yn cwyno gyda phigyn yn ei chlust, ac yn dilyn profion yn Ysbyty Gwynedd, Bangor a sgan CT, dywedodd y meddygon eu bod wedi darganfod tiwmor.
Yn dilyn y profion yn yr ysbyty, cafodd ei chludo i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl am driniaeth i geisio ei dynnu.
Doedd dim modd tynnu mwy nag 80% ohono, oherwydd lleoliad y tiwmor yn ei phen.
"Doeddwn i ddim yn disgwyl y newyddion ges i, fod ganddi hi diwmor ar ei hymennydd," dywedodd Eleri.
"Doedden ni ddim yn disgwyl bod yn yr ysbyty cyn hired - y gobaith oedd fod hi'n cael y llawdriniaeth a dod adref.
"Yn anffodus fe gafodd hi lot o gymhlethdodau a fuon ni ffwrdd am dri mis yn y bloc cyntaf, ac mi oedd hynny'n newid byd i ni gyd - i Elsi, ond i Lowri [chwaer Elsi] hefyd oedd ddim efo ni bob nos.
"Mae'r effaith yn llawer mwy na dim ond teulu agos.
"Mae'n mynd at ffrindiau a chydweithwyr, ac mi fuon ni mor lwcus o gael cymaint o gefnogaeth gan bobl tra'r oedden ni yn yr ysbyty."
Yn ffodus, dydy tiwmor Elsi ddim yn ganseraidd.
Yn dilyn cyfnod yn yr ysbyty, fe gafodd Elsi ail lawdriniaeth gan fod llawer o gymhlethdodau wedi codi yn dilyn yr un gyntaf, gan gynnwys salwch o'r enw hydroseffalws, sef gormod o hylif yn yr ymennydd.
Derbyniodd Elsi shunt - tiwb tenau yn ei hymennydd i gael gwared o'r hylif ychwanegol i'w stumog - ac fe gafodd drydedd llawdriniaeth hefyd yn dilyn hynny.
Mae Elsi bellach adref yn Llanrug gyda'i theulu, ond yn cael ei goruchwylio bob tri mis dan ofal Ysbyty Alder Hey, Lerpwl - gofal sydd yn "wych" yn ôl Eleri.
Ychwanegodd: "Mae elusennau lleol hefyd yn cefnogi ni fel teulu, a'r gobaith ydi y bydd Elsi yn aros yn sefydlog a bod y tiwmor ddim yn tyfu.
"Dydw i ddim yn edrych ymlaen gormod ar gyfer hynny oherwydd dwi jest yn lwcus ac yn ddiolchgar iawn bod hi wedi dod drwy rwbath oedd mor fawr i hogan fach, ac mae hi'n gwneud yn wych rhan fwyaf o'r amser."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2023