Siom pobl leol am nad oes bwriad eto i enwi pont £46m newydd

Pont Newydd y Ddyfi
Disgrifiad o’r llun,

Fe agorodd y bont newydd ym Machynlleth ddechrau Chwefror

  • Cyhoeddwyd

Mae rhai o drigolion tref Machynlleth yn galw am enwi'r bont newydd dros yr Afon Ddyfi yn swyddogol.

Fe gafodd y bont newydd ar yr A487, sy'n cysylltu de a gogledd Cymru dros y Ddyfi, ei hagor i drafnidiaeth ar 2 Chwefror.

Mae wedi costio £46m ac wedi cymryd tair blynedd i’w hadeiladu.

Mae'n cymryd lle'r hen bont ar Ddyfi oedd yn gul iawn i lorïau ac yn aml yn gorfod cau oherwydd llifogydd.

Does dim enw swyddogol ar y bont newydd, ac yn ôl Llywodraeth Cymru does dim bwriad i'w henwi chwaith ar hyn o bryd.

Ond mae llawer yn lleol yn teimlo bod hi'n bwysig iddi gael enw addas, nid yn unig er mwyn gwahaniaethu rhwng yr hen bont a'r un newydd ond i roi statws haeddiannol iddi.

Disgrifiad o’r llun,

"Bydde'n rhaid cael enw Cymraeg sy'n berthnasol i Fachynlleth," yn ôl Rwth Hughes

Yn ôl Rwth Hughes, sy'n gynghorydd tref ym Machynlleth: "Mae cael enw ar y bont newydd dros y Ddyfi yn syniad gwych.

"Fydde rhaid cael enw Cymraeg sydd yn berthnasol i Fachynlleth.

"Dwi hefyd yn credu'n gryf mai pobl lleol fyddai'n cael y dewis yr enw."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr hen Bont-ar-Ddyfi yn broblem fawr i draffig, yn arbennig pan roedd yr afon Ddyfi yn gorlifo'i glannau

Mae Alwyn Evans, sydd hefyd yn gynghorydd ym Machynlleth, yn "gwbl o'r farn y dyle hi gael ei henwi".

"Beth am Pont Maglona? Maglona oedd yr enw Rhufeinig ar Fachynlleth."

Ffynhonnell y llun, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn adeilad y senedd-dŷ ym Machynlleth y cynhaliodd Owain Glyndŵr senedd cyntaf Cymru ym 1404

Mae cynghorydd sir Powys, Elwyn Vaughan, sy'n byw yn yr ardal yn teimlo y dylai gael enw Cymreig a Chymraeg.

"Dwi'n cynnig Pont Glyndŵr, mae'n enw sy'n clymu efo hanes y dre ac yn uno'r de a'r gogledd."

Ym Machynlleth yn 1404 y cafodd Owain Glyndŵr ei goroni'n Dywysog Cymru ac yno hefyd y cynhaliodd ei senedd gyntaf.

Daeth cynrychiolwyr o'r Alban, Ffrainc a Chastîl yn Sbaen, yn ogystal ag o Gymru.

'Angen enw Cymraeg'

Dydy Rhodri Lloyd, sy'n byw ym Machynlleth, ddim am weld enw Saesneg neu ddwyieithog ar y bont.

"Yr unig beth faswn i'n ddeud ydy bod rhaid i'r enw fod yn un Cymraeg a Chymraeg yn unig fel nad oes ffrae fel sydd wedi bod rhwng Eryri a Snowdonia.

"Byswn i'n hoffi gweld unrhyw enw falle sydd yn defnyddio enw Glyndŵr neu Pont Bro Ddyfi gan fod y bont yn uno dwy ochr y fro at ei gilydd, ac yn gwneud defnydd o hen enw'r ysgol uwchradd, Ysgol Bro Ddyfi."

Disgrifiad o’r llun,

"Rhaid i'r enw fod yn un Cymraeg a Chymraeg yn unig," ym marn Rhodri Lloyd

Mae Elen Mason yn byw yn y dref erbyn hyn ond fe gafodd ei magu ar fferm y Ffridd, sydd reit ar ben draw y bont newydd.

Ei hawgrym hi ydy "Pont y Ffridd, gan ei bod yn dod allan wrth Ffriddgate".

Yn ôl Elen, enwau'r caeau o dan y bont newydd yw'r Marian, Dôl Gragen a Dôl Sgin, "felly, beth am 'Bont y Marian' neu 'Bont Gragen' falle?"

Disgrifiad o’r llun,

Does dim sôn am enwi'r bont newydd ar hyn o bryd

Yn ôl Llywodraeth Cymru, does dim bwriad i enwi'r bont ar hyn o bryd.

Petaen nhw'n ei henwi'n swyddogol, mae'r llywodraeth yn dweud y bysen nhw'n gwneud hynny mewn trafodaeth gyda'r awdurdod lleol.

Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Powys: "Llywodraeth Cymru a'r asiantaeth gefnffyrdd sy'n gyfrifol am y bont newydd felly byddai unrhyw benderfyniad ynglŷn â'r enw gyda nhw ac nid y cyngor sir."

Ychwanegodd: "Os yw Llywodraeth Cymru yn penderfynu enwi'r bont, yna byddem yn eu hannog i gynnwys y bobl sy'n byw yn Nyffryn Dyfi fel y gallant ddweud eu dweud ar enw posibl."

Bydd y mater yn cael ei godi o flaen cyngor tref Machynlleth ddiwedd y mis.

Pynciau cysylltiedig