Arestio tri wedi i ddyn farw a dau gael eu hanafu ger Pontypridd
Arestio tri wedi i ddyn farw a dau gael eu hanafu ger Pontypridd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi marw a dau ddyn arall yn yr ysbyty - y tri yn eu hugeiniau - wedi digwyddiad ar ystad yn Rhydyfelin ger Pontypridd yn gynnar fore Mawrth.
Dywed Heddlu'r De fod dyn lleol, 30 oed, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ac o geisio llofruddio, dyn 22 oed o Don-teg wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio a bod dynes 20 oed o Ben-y-graig wedi'i harestio ar amheuaeth o anafu'n fwriadol.
Mae'r tri yn y ddalfa wrth i'r heddlu ymchwilio i'r digwyddiad ar Poets Close am 00:40.
Mae'r Ditectif Brif Uwch-arolygydd, Paul Raikes, yn pwysleisio bod yr heddlu eisiau'r sicrhau'r cyhoedd eu "bod yn gweithio'n gyflym i ymchwilio i'r mater hwn".
"Efallai y bydd trigolion yn sylwi bod mwy o heddlu yn yr ardal ac mae Ffordd Masefield wedi'i hynysu rhwng cyffyrdd Poets Close a Shakespeare Rise," ychwanegodd.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw dystion, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad, i gysylltu gyda nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.