Rhan o'r A470 i gau am saith wythnos i drwsio'r ffordd
- Cyhoeddwyd
Bydd rhan o'r brif ffordd rhwng gogledd a de Cymru yn cau am saith wythnos cyn y Nadolig ar gyfer gwaith atgyweirio, gyda dargyfeiriad hir iawn yn cael ei roi mewn lle.
Ym mis Tachwedd y llynedd fe gwympodd rhan o wal o dan yr A470 ger Talerddig ym Mhowys i mewn i afon, gan adael twll ar ochr y ffordd.
Cafodd y ffordd ei chau am tua wythnos bryd hynny, wrth i fesurau dros dro gael eu rhoi mewn lle cyn caniatáu i un lôn agor gyda goleuadau traffig.
Nawr bydd y ffordd ar gau o 31 Hydref tan 20 Rhagfyr tra bod gwaith atgyweirio parhaol yn cael ei wneud.
Dywedodd y cynghorydd lleol o Blaid Cymru, Elwyn Vaughan – sy'n cynrychioli ward Glantwymyn ar Gyngor Powys – bod y gwaith yn gorfod digwydd ond y bydd yn cael effaith fawr yn lleol.
"Mae angen gwneud y gwaith - 'dan ni gyd yn derbyn hynny - ond mae saith wythnos yn eitha' her ac yn mynd i greu nifer o broblemau yn lleol," meddai.
"Mae’n mynd i effeithio ar nifer o wasanaethau yn lleol... fydd pobl methu cael bws o gyfeiriad Llanbrynmair i'r Drenewydd.
"Mae'n effeithio ar gludiant cyhoeddus, mae'n effeithio ar ddisgyblion sydd am fynd i'r ysgol a rheiny sydd am fynd i'r gwaith i'r Drenewydd nôl ac ymlaen pob bore."
'Dim dewis' ond cau'r ffordd
Yn ôl y Cynghorydd Vaughan roedd Llywodraeth Cymru wedi edrych ar bob opsiwn arall cyn dod i'r casgliad nad oedd dewis arall ond cau'r ffordd yn llwyr.
Ond dywedodd hefyd mai'r gobaith yw na fydd y gwaith yn para saith wythnos ac y bydd modd ei gwblhau mewn llai o amser.
"Maen nhw'n pwysleisio mai hyd at saith wythnos yw’r cyfnod ond mae hynny'n dibynnu ar y tywydd a 'dan ni yn sôn am fis Tachwedd wedi’r cyfan."
Tra bod y gwaith yn mynd rhagddo, bydd y dargyfeiriad swyddogol yn mynd â cherbydau ar lwybr hir ar hyd ffyrdd ‘A’ cyfatebol, drwy Gaersws, y Drenewydd a’r Trallwng.
Dyna un agwedd sy'n poeni Elwyn Vaughan. "Mae'n rhaid iddyn nhw ddargyfeirio mae'n debyg ar hyd ffordd o'r un safon, a felly dyna pam maen nhw'n sôn am hyd at 70 milltir o Gaersws i fyny i Drallwng a nôl tuag at Mallwyd.
"Dy'n ni gyd yn gwybod bod 'na ffyrdd cefn, ond byddwn i'n annog pobl i geisio osgoi rheiny gymaint â phosib."
Ychwanegodd y Cynghorydd Vaughan fod y gymuned yn ddiolchgar am y buddsoddiad ac yn derbyn bod rhaid i'r gwaith gael ei wneud ond byddai cau'r ffordd yn cael effaith ar fusnesau lleol.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynghori modurwyr i gynllunio ymlaen llaw.
Ychwanegodd eu bod yn deall y bydd y gwaith yn achosi aflonyddwch ond ei fod yn hanfodol i alluogi'r ffordd i aros ar agor yn y dyfodol.