A470: Dargyfeiriad 70 milltir ar ôl i ran o'r ffordd ddymchwel

  • Cyhoeddwyd
Y twll yn y ffordd
Disgrifiad o’r llun,

Wedi i wal gynnal ddymchwel ger Talerddig ym Mhowys mae rhan o'r A470 wedi cau i draffig

Mae rhan o'r A470 wedi ei chau yn y canolbarth wedi i wal gynnal ddymchwel.

Mae methiant y wal i'r gorllewin o Dalerddig, ger Llanbrynmair ym Mhowys, wedi gadael twll yn ochr y ffordd.

Fel mesur diogelwch mae'r A470 wedi ei chau am y tro rhwng Carno a Dolfach.

Mae dargyfeiriad o dros 70 milltir yn ei le, yn cyfeirio traffig drwy Dalybont a Machynlleth, taith all gymryd dwy awr.

Mae hyn, yn ôl Traffig Cymru, oherwydd bod yn rhaid i'r ffordd fod o'r un safon â'r un sydd wedi cau.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Traffig Cymru yn dargyfeirio teithwyr draw at Bow Street ac yna drwy Fachynlleth i gyrraedd Dolfach

Dywedodd gohebydd BBC Cymru yn y canolbarth, Craig Duggan, fod goleuadau dros dro wedi bod ar y rhan yma o'r ffordd "ers amser hir iawn" oherwydd gwendid.

"Ry'n ni'n sôn am yr A470, y ffordd sy'n cysylltu Caerdydd a Llandudno, mae'n ffordd bwysig yn lleol ac i deithwyr eraill drwy'r canolbarth," meddai wrth raglen Dros Frecwast Radio Cymru.

Ychwanegodd: "Mae'r dargyfeiriad yn hir iawn, fe fydd yn broblem yn sicr ac yn anghyfleus i bobl leol a theithwyr eraill, ac o bosib am beth amser i ddod."

Ar gau am 'wythnos o leiaf'

Yn ôl Elwyn Vaughan, cynghorydd gyda Chyngor Powys ac sy'n byw'n lleol, fe fydd y ffordd ar gau am wythnos, o leiaf.

"Mae gwaith yn mynd rhagddo i atal mwy o bridd rhag cael ei olchi i ffwrdd.

"Gan fod sylfaen y ffordd yn feddal, mae'n rhaid tyllu i ddarganfod craig a thir caled cyn yna gosod rhwystrau concrit addas fel bod pwysau cerbydau trwm ddim yn gwthio mwy o'r pridd meddal sydd yno tua'r afon."

"Mi fydd y ffordd ar gau yn llwyr am o leia wythnos ac yna maes o law fydd angen buddsoddiad sylweddol i ailadeiladu sylfaen y ffordd."

Mae trigolion lleol yn anhapus ac yn teimlo'n rhwystredig iawn.

Yn ôl Angharad Jones, sy'n byw yn Nhalerddig, mae ffordd gefn gul rŵan yn cael ei defnyddio i bobl leol ond mae'n anaddas i swm y traffig.

"Mae pobl 'di clywed drwy Facebook am y ffordd gefn i osgoi hyn ac mae just 'di bod yn ofnadwy o brysur a chreu lot o drafferth," dywedodd.

"Ffordd un lôn ydi hi, ac er bod 'na dipyn o lefydd pasio, 'di o'm yn addas pan fo tri car yn trio pasio tri car arall.

"Mae 'na couriers yn pasio, pobl yn mynd i'w gwaith, plant i'r ysgol ac ati... 'Di ddim yn addas i lot o draffig.

"Dydy pobl ddim 'di arfer dreifio ar hyd ffyrdd bach cul. Mae 'na ffosydd cul bob ochr i'r ffordd, a 'di pobl methu reversio.

"Petai damwain neu rhywbeth yn digwydd, alle gau'r ffordd yma hefyd, 'se hi'n ddrwg iawn.

"Ni'n lwcus bod hi'n sych a ddim yn rhewllyd... Bedair blynedd i'r wythnos hon, roedd 'na eira a rhew a doedden ni'n methu defnyddio'r ffordd yma."

Mae ei gŵr, Geraint Jones, â iard yn Llanbrynmair sydd rhyw 10 munud yn y car fel rheol, ac mae'n aml yn gwneud y siwrne dair neu bedair gwaith bob dydd.

Mae cau'r ffordd a phrysurdeb y ffordd gefn yn bwyta i mewn i'w ddydd ac yn cymryd hanner awr bo tro erbyn hyn.

Ffynhonnell y llun, Traffig Cymru

Mae Sian Evans yn Ymarferydd Therapi Cynorthwyddol gyda'r Gwasanaeth Iechyd ac yn byw yn Nhalerddig.

Mae hefyd yn ofalwraig, a ddwywaith y dydd, mae'n ymweld â gwraig yn ei 80au sy'n byw'n gyfagos, ond ochr arall i'r ffordd sydd wedi cau ar hyn o bryd.

Y bore ma, fe geisiodd fynd ar ei beic, ond fe gafodd ei gwrthod.

"Oedd un dyn council yn deud gallwn i ddim mynd trwodd ac yn deud i fi fynd rownd Llanbrynmair, " esboniodd Sian Evans.

"Ddedes i wrtho doeddwn i ddim yn mynd i neud nine mile trip i fynd at anti fi sy'n byw just chwarter milltir i ffwrdd a wnes i just mynd yn fy mlaen ar y beic!" ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Sian Evans
Disgrifiad o’r llun,

Taith wahanol iawn yr ofalwraig, Sian Evans, i'r gwaith y bore ma

Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhwystrau concrit yn cael eu danfon i'r safle ddydd Gwener

Doedd bysus ysgol i Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth, ddim yn gallu cludo plant o Garno a Thalerddig fore Gwener ac roedd yn rhaid i rieni fynd â nhw i gwrdd y bws yn Llanbrynmair.

"Mae lot o rieni'n gweithio. Lwcus bo ni'n gweithio o adre ac wedi gallu mynd â nhw," meddai Angharad Jones.

Doedd bysus methu pasio er mwyn cludo plant i Goleg Y Drenewydd chwaith.

Dywedodd pennaeth Bro Hyddgen, Dafydd Jones, bod wyth disgybl yn cael eu heffeithio, ac y byddai gwaith ar-lein iddynt am y tro.

Aros ers dwy flynedd i atgyweirio

Mae pobl leol yn teimlo'n rhwystredig iawn, gan ddweud bod goleuadau traffig wedi bod ar yr rhan yma o'r ffordd ers tua dwy flynedd.

Yn ôl Pennant Jones sy'n ffermio yn Ystrad Fawr, Talerddig, mae'r gwaith atgyweirio yn cymryd rhy hir.

"Mae 'na ormod o amser yn pasio rhwng yr amser lle mae nhw'n ffeindio bod nam a'r amser lle mae nhw'n ei drwsio. Achos bod nhw'n cymryd cyhyd, mae'r broblem yn gwaethygu. Mae pwyth mewn llaw yn arbed naw, fel mae nhw'n dweud."

"Dwi'n gw'bod bod pres yn brin," ychwanegodd "ond ni'n methu peidio bod â chyswllt ffordd o'r gogledd i'r de. Di o'm yn opsiwn i arbed arian, mae'r ffordd yn angenrheidiol."

Yn ôl Angharad Jones: "Den ni 'di arfer efo eira ac emergencies - natur ydi hynny - ond mae hyn yn rhwystredig achos mae'r bobl sy' mewn grym yn ymwybdol o'r broblem ar y ffordd ers tua dwy flynedd."

"Dwi 'di cael ar ddeall mai trwsio dros dro mae nhw rŵan, fel bo nhw'n gallu ailagor y ffordd a chael traffig i basio eto, gyda goleuadau traffig. Ond pa mor hir fyddwn ni'n aros tybed iddyn nhw drwsio hi'n llwyr?"

Mewn datganiad dywedodd Traffig Cymru: "Rydym am i bawb gyrraedd pen eu taith yn ddiogel.

"Byddwn yn darparu mwy o ddiweddariadau maes o law."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydymdeimlo â'r rhai sydd wedi'u heffeithio gan y cau ac yn annog pobl i gynllunio ymlaen llaw cyn teithio".