Caniatâd i ymestyn Rheilffordd Llyn Tegid i'r Bala

Rheilffordd Llyn Tegid
Disgrifiad o’r llun,

Fel y mae pethau'n sefyll mae trên Rheilffordd Llyn Tegid ond yn teithio at gyrion Y Bala, yn hytrach nag i'r dref ei hun

  • Cyhoeddwyd

Mae pwyllgor cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi rhoi caniatâd i ymestyn rheilffordd Llyn Tegid i dref Y Bala.

Cafodd y cais ei wrthod dros flwyddyn yn ôl, ond erbyn hyn, yr argymhelliad oedd i ganiatáu’r cynllun gwerth miliynau o bunnau gydag amodau.

Mae'r rhai sy'n cefnogi'r cynllun yn dweud y byddai'n hwb mawr i fusnesau’r Bala.

Ond bydd angen codi hyd at £5m yn ychwanegol i wireddu’r cynllun.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd David Jones fod "angen llawer mwy o arian" er mwyn gwireddu'r cynllun

Mae'r haf wedi bod yn gyfnod prysur i Reilffordd Llyn Tegid, sy’n rhedeg am rhyw bedair milltir a hanner o Lanuwchllyn wrth ochr Llyn Tegid tuag at gyrion Y Bala.

Mae rheolwyr y rheilffordd wedi bod eisiau ymestyn y trac rhyw dri chwarter milltir i fewn i’r Bala ei hun ers peth amser.

Maen nhw'n dweud y bydd yn dod â manteision i'r ardal wrth i bobl gael eu gollwng yn y dref ei hun, yn hytrach nag ar y cyrion.

'Mae angen llawer mwy o arian'

Cyn y cyfarfod ddydd Mercher, dywedodd David Jones, rheolwr Rheilffordd Llyn Tegid, i'r cais gael ei wrthod y llynedd yn bennaf oherwydd "ffosffad yn Afon Dyfrdwy" ond fod y broblem yna wedi ei datrys "a 'den ni wedi sortio allan yr eitemau eraill oedd wedi cael eu codi gan y cynllunwyr ar y tro".

Ychwanegodd ei fod yn "obeithiol y tro yma fod pob dim wedi ei sortio a byddan nhw’n barod i roi caniatâd i ni".

"Mae angen llawer mwy o arian… 'den ni wedi codi dros filiwn a hanner yn barod ac mae hwnnw wedi cael ei wario ar y tir ac ar y cais cynllunio," meddai.

Bydd angen codi £4-£5m yn ychwanegol i wireddu’r cynllun ac mae'n dweud bod "o’n ofyn mawr i godi’r arian a 'den ni’n gobeithio bydd 'na rywfaint o grantiau ar gael i ni weld y cynllun yn cael ei gyflawni".

Roedd pobl fusnes yn Y Bala hefyd o blaid y cynllun i ymestyn y rheilffordd i mewn i'r dref ei hun.

Gwyn Siôn Ifan ydy cadeirydd Grŵp Busnesau’r Bala ac mae o'n dweud y bydd cael y trên i ganol y dref yn "beth da".

"Gan eu bod nhw’n dod beth bynnag i’r ardal, waeth iddyn nhw ddod i ganol y dref fel bod ni wedyn fel busnesau yn gallu manteisio llaw gynta' ar y ffaith bod yr orsaf yn dod i’r dref," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gwyn Siôn Ifan y bydd y cynllun yn galluogi pobl i fanteisio ar y dref

Ychwanegodd fod pobl, ar hyn o bryd, yn "gorfod treulio tua chwarter awr yn cerdded o’r orsaf bresennol efo plant ac ati yng nghanol pob math o dywydd".

"Dwi’n meddwl bod y syniad yn mynd i weithio'n iawn i ni fel busnesau ac i'r ardal yn gyffredinol."

Cafodd y syniad o gael rheilffordd Llyn Tegid i redeg i'r Bala ei hun ei drafod gyntaf dros hanner can mlynedd yn ôl.

Mewn ymateb i'r penderfyniad i ehangu’r rheilffordd, dywedodd cadeirydd Ymddiriedolaeth y Rheilffyrdd, Julian Birley bod heddiw yn "ddiwrnod cyffrous iawn".