Claf canser, 14, i weld Taylor Swift wedi siom fawr

Cafodd Mali ei henwebu gan staff ysbyty i dderbyn tocynnau elusennol gan ei bod yn gwrando ar ganeuon Taylor Swift wrth gael triniaeth
- Cyhoeddwyd
Mae selogion Taylor Swift wedi dod i'r adwy ar ôl clywed am siom claf canser ifanc o Sir Conwy oedd methu aros i weld y gantores yn perfformio, cyn i'w thocynnau elusennol gael eu tynnu'n ôl.
Mae Mali, sy'n 14 oed ac o Hen Golwyn, yn cael triniaeth ar gyfer tiwmor yr ymennydd ers cael diagnosis medwlablastoma fis Tachwedd y llynedd, gan gynnwys llawdriniaeth, cemotherapi a therapi proton.
Roedd wrth ei bodd gan gafodd ei henwebu gan staff Ysbyty Christie, Manceinion i dderbyn tocynnau gan elusen ar gyfer y cyngerdd nos Wener yn Lerpwl,
Ond yna, gyda llai nag wythnos i fynd, fe gafodd y tocynnau elusennol eu tynnu'n ôl gan drefnwyr y digwyddiad, er mawr siom i Mali a'i theulu.
Ond yn dilyn apêl ar y cyfryngau cymdeithasol mae dau berson wedi cynnig eu tocynnau nhw fel bod Mali'n cael mynd wedi'r cyfan.

Mae Mali wedi cael sawl triniaeth ysbyty yn y saith mis ers cael gwybod bod tiwmor yn ei hymennydd
Dywedodd tad Mali, Andrew Edge, ei bod "wedi cyffroi'n lan" pan gytunodd ei meddyg ymgynghorol i oedi ei thriniaeth cemotherapi nesaf ddigon hir iddi allu bod yn ddigon da i fynd i'r cyngerdd.
Roedd wedi ei "dryllio" a'i "siomi'n llwyr" pan gan gafodd y tocynnau eu tynnu'n ôl.
Apeliodd Mr Edge a modryb Mali ar-lein i weld a oedd unrhyw un mewn sefyllfa i helpu, ac fe gysylltodd dynes o Lerpwl yn cynnig ei thocynnau ei hun i Mali a'i mam, Catrin.
"Roeddan ni'n fodlon talu," dywedodd Mr Edge. "Roeddan ni'n chwilio am docynnau resale a doedd dim byd ar gael.
"O fewn awr, roedd y ddynes ryfeddol 'ma, Ella, wedi rhoi ei thocynnau ei hun."
- Cyhoeddwyd5 Mai 2024
Wedi hynny, fe gysylltodd dyn arall gan roi tocynnau ar gyfer y lolfa VIP yn Stadiwm Anfield.
"Mae Mali wedi gwirioni," dywedodd Mr Edge. "Alla' i ddim fod yn fwy diolchgar."
Mae "haelioni syfrdanol" y rhoddwyr, meddai, wedi codi calon ei ferch wedi saith mis caled.
"Mae hi wedi cyrraedd yr oedran pan dylai fod yn prifio, yn mynd allan gyda'i ffrindiau - dydy hi ddim yn gallu gwneud hynna."

Bydd Taylor Swift yn perfformio yn Stadiwm Principality Caerdydd nos Fawrth wythnos nesaf
Gan ddisgrifio Mali fel merch "addfwyn, serchus a phenderfynol dywedodd ei thad mai'r "peth pwysica' ydy bod hi'n mynd yna [i'r cyngerdd] ac yn cael amser gora' ei bywyd."
Bydd Mali yn mynd yn syth i Ysbyty Plant Alder Hey wedi cyngerdd nos Wener ac yn dechrau ar drydedd rownd gemotherapi o wyth y diwrnod canlynol.
Mae Mr Edge yn canmol yr holl staff sydd wedi gofalu am Mali hyd yn hyn, gan ddweud bod yr holl arwyddion o ran ei chyflwr "yn bositif".