Planhigyn prin yn dychwelyd i fynyddoedd Eryri
- Cyhoeddwyd
Yng nghornel gudd o Gwm Idwal yn Eryri mae hanes yn blaguro.
Ar ôl diflannu am ddegawdau, mae planhigyn brodorol wedi dychwelyd i’r ardal diolch i ymdrechion arbenigwyr sy’n benderfynol o adfer natur.
Mae pobl yno wedi croesawu’r newyddion “cadarnhaol” bod y Tormaen Crymddail, neu’r Saxifraga rosacea, yn ôl ar y mynyddoedd.
“Maen nhw'n berlau o Eryri a Chymru ac maen nhw’n berchen i ni gyd,” meddai Rhys Wheldon-Roberts, Swyddog Partneriaeth Cwm Idwal.
'Uchafbwynt fy ngyrfa'
Robbie Blackhall-Miles ydy’r garddwr arbenigol o elusen Plantlife sydd wedi edrych ar ôl y planhigyn dros y blynyddoedd a gweithio ar y prosiect i’w ailgyflwyno i’r mynyddoedd.
“Mae’n uchafbwynt go iawn o fy ngyrfa,” meddai.
Mae o’r farn bod ailgyflwyno’r planhigyn yn gyfle i sicrhau y bydd y blodau yn blaguro ym myd natur am flynyddoedd i ddod.
“Os ydych chi’n meddwl am fioamrywiaeth Brydeinig fel jig-so, yr hyn dwi eisiau gwneud yw sicrhau bod cymaint o’r darnau bach ‘na ar gael ag sy’n bosib.”
Mae nifer o blanhigion prin yn tyfu yng Nghwm Idwal, a hynny yn sgil yr ecosystem Arctig-Alpaidd sy’n golygu eu bod nhw’n ffynnu yn yr amodau.
Ond ers y 60au, mae’r Tormaen Crymddail wedi diflannu o’r tirwedd yn sgil ffactorau amrywiol megis ffermio, newid hinsawdd a phobl yn pigo planhigion yn ormodol.
“Mae’r Deyrnas Unedig ymhlith y gwledydd sydd wedi colli’r mwyaf o ran natur,” meddai’r Athro Julia Jones, sy’n wyddonydd gwarchodaeth ym Mhrifysgol Bangor.
“Rydyn ni’n gweld rhywogaeth ar ôl rhywogaeth yn diflannu fel rhyw fath o seren yn cael ei diffodd.”
'Mor gyffrous'
Yn ôl Rhys Wheldon-Roberts mae hi “mor gyffrous” i gael y Tormaen Crymddail yn ôl.
“Mae o’n gam cyffrous nesa’ o ddegawdau o waith cadwraethol sydd wedi bod yn digwydd yn y warchodfa natur," meddai.
Ychwanegodd mai ei obaith yw gweld y planhigyn yn “llwyddiannus” unwaith yn rhagor ar y mynydd, wedi blynyddoedd o waith gan Robbie Blackhall-Miles a’i dîm.
Twll Du yng Nghwm Idwal oedd cartref naturiol olaf y math yma o Dormaen, cyn iddi gael ei darganfod gan ddyn o'r enw Dick Roberts wrth iddo gerdded yn yr ardal yn 1962.
Roedd Mr Roberts wedi cadw’r planhigyn a phenderfynu ei blannu yn ei ardd.
Doedd e ddim yn sylweddoli ar y pryd ei fod e’n chwarae rhan allweddol o sicrhau dyfodol planhigyn oedd ar fin diflannu yn y gwyllt.
'Cydio yn y dychymyg'
“Mewn gwirionedd mae gennym ddisgynyddion o'r deunydd Cymraeg gwreiddiol hwnnw i'w rhoi yn ôl i'r gwyllt," meddai Robbie Blackhall-Miles.
"Mae'r rhain yn doriadau o doriadau o doriadau o doriadau o'r planhigion hynny."
Mae’r gallu i ailgyflwyno’r rhywogaeth yn gyfle i “ysbrydoli pobl”, meddai’r Athro Julia Jones.
“Mae’r rhywogaethau bach yma gyda’r gallu i gydio yn y dychymyg.
“Mi fydd hi’n gwneud i bobl feddwl am yr hyn ry’n ni wedi colli a’r hyn gallwn ni gael yn ôl.”