Dirwy £1 miliwn i gwmni rheilffordd ar ôl marwolaeth menyw o Gymru

Bu farw Bethan Roper ar ôl cael ei tharo gan gangen coeden yn 2018
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni rheilffordd mawr wedi cael dirwy o £1 miliwn am dorri rheolau iechyd a diogelwch yn dilyn marwolaeth menyw ifanc o Benarth.
Bu farw Bethan Roper, 28, ar un o drenau Great Western Railway (GWR) yn agos i Gaerfaddon ar 1 Rhagfyr yn 2018 ar ôl pwyso allan o ffenestr a chael ei tharo gan gangen coeden.
Dywedodd y rheoleiddiwr, Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR), bod GWR yn ymwybodol o broblemau'r ffenestri, a doedden nhw ddim wedi gweithredu camau gafodd eu nodi mewn asesiad risg ddau fis cyn y digwyddiad.
Mae GWR wedi cael dirwy a'u gorchymyn i dalu £78,000 ar ôl pledio'n euog i ddau achos o dorri rheolau iechyd a diogelwch.
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd26 Mai 2021
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2018
Dywedodd Prif Arolygydd Rheilffyrdd ORR, Richard Hines: "Mae ein meddyliau'n parhau gyda theulu a ffrindiau Bethan Roper.
"Roedd ei marwolaeth yn drasiedi roedd modd ei hosgoi sy'n tynnu sylw at yr angen i weithredwyr trenau reoli risgiau'n rhagweithiol a gweithredu'n gyflym pan mae argymhellion diogelwch yn cael eu gwneud."
Roedd Miss Roper, a oedd yn gweithio i Gyngor Ffoaduriaid Cymru ac wedi gwirfoddoli gyda llawer o elusennau, wedi teithio i Gaerfaddon gyda thri ffrind.
Fe glywodd cwest yn 2021 ei bod yn dychwelyd adref o drip i farchnad Nadolig yng Nghaerfaddon ac roedd hi wedi meddwi pan aeth ar y trên.

Clywodd y cwest nad oedd y goeden yn iach, ac y gallai fod cyfle i'w thorri yn gynharach
Yn ôl ymchwilwyr, doedd arwydd melyn uwchben y ffenestr yn rhybuddio teithwyr rhag gwneud hynny ddim yn gam diogelwch digon cryf.
Daw marwolaeth Ms Roper ar ôl digyddiad tebyg yn 2016 pan bu farw teithiwr ger Balham yn ne Llundain.
Arweiniodd hyn at y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB) yn cyhoeddi argymhellion diogelwch ym mis Mai 2017.
Chafodd asesiad risg ysgrifenedig ddim ei gynhyrchu gan GWR tan fis Medi 2017.
Ond, doedd ORR ddim yn credu bod yr asesiad yn ddigonol ac fe ysgrifennon nhw at GWR i fynegi eu pryderon.
Mesurau wedi eu cyflwyno
Ni chafodd yr asesiad ei ddiwygio, ac ni chafodd y camau a osodwyd gan GWR i leihau'r risg eu gweithredu cyn damwain angheuol Ms Roper yn 2018, meddai'r ORR.
Ers marwolaeth Ms Roper, mae mesurau wedi'u cyflwyno ar draws y diwydiant i atal teithwyr rhag pwyso allan o ffenestri.
Dydy trenau sydd â ffenestri o'r fath ddim yn cael eu defnyddio nawr neu mae rheolyddion peirianneg wedi cael eu gosod arnyn nhw i atal ffenestri rhag cael eu hagor tra bod y trên yn symud.
Dywedodd yr ORR eu bod yn croesawu'r camau y mae GWR a'r diwydiant ehangach nawr wedi'u cymryd er mwyn lleihau'r risg.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.