Erol Bulut i aros fel rheolwr CPD Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Erol Bulut wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd i barhau'n rheolwr ar Glwb Pêl-droed Caerdydd.
Roedd cytundeb blaenorol Bulut gyda'r Adar Gleision yn dod i ben yr haf hwn, wedi iddo arwyddo cytundeb blwyddyn yn unig pan gymrodd yr awenau ym Mehefin 2023.
Y gred yw bod y clwb a Bulut, 49, wedi bod yn trafod cytundeb newydd ers mis Ebrill.
Er ei fod wedi cael ei gysylltu gyda chlybiau eraill, bellach mae wedi cadarnhau y bydd yn aros gyda Chaerdydd.
Fe orffennodd Caerdydd yn 12fed yn y Bencampwriaeth eleni, ar ôl bod tipyn nes at safleoedd y cwymp yn y blynyddoedd cyn hynny.
"Rwy'n falch a hapus iawn i ymestyn fy amser yma ym mhrifddinas Cymru," meddai Bulut mewn datganiad gan y clwb.
"Mae'n anrhydedd bod yn rhan o'ch teulu chi."