Cannoedd o swyddi cynnyrch papur yn y fantol yn Y Fflint
- Cyhoeddwyd
Mae cannoedd o swyddi yn y fantol wedi i'r cwmni cynnyrch papur Kimberly-Clark gyhoeddi bwriad i ymgynghori ynghylch cau eu ffatri yn Sir Y Fflint flwyddyn nesaf.
Mae'r cwmni'n cyflogi tua 220 o weithwyr yn nhref Y Fflint ac yn cynhyrchu nwyddau sy'n cynnwys brandiau amlwg fel hancesi papur Kleenex a chewynnau Huggies.
Fe gafodd y newyddion ei rannu gyda holl aelodau staff y ffatri mewn cyfarfod a gafodd ei alw am 11:00 ddydd Mercher
Dywed y cwmni nad yw'n gallu sicrhau cynnyrch heb blastigion erbyn canol 2026 yn unol â gofynion Llywodraeth y DU, a bod dyfodol y safle o'r herwydd yn ymddangos yn anghynaliadwy.
Dywed datganiad y cwmni bod "defnyddio llai a llai o blastigion yn ein llieiniau babi (baby wipes) yn rhan o'n cynlluniau cynaliadwyedd ers sbel" a'u bod "eisoes wedi tynnu maint sylweddol o blastigion ohonyn nhw".
Ond maen nhw'n dweud bod amserlen Llywodraeth y DU o ran sicrhau cynnyrch heb blastigion o gwbl erbyn canol 2026, yn "cyfyngu'n sylweddol ar ein gallu i addasu ein prosesau gweithgynhyrchu yn Y Fflint mewn pryd".
Mae hynny, medd y cwmni, yn golygu "efallai na fyddai'n gynaliadwy" i barhau â'u gwaith yn Y Fflint.
Gan gydnabod y bydd eu penderfyniadau yn rhai anodd a'r cyfnod nesaf yn "heriol" i'r gweithwyr, dywed y cwmni mai "eu cefnogi nhw trwy'r sefyllfa gymhleth yma yw ein prif flaenoriaeth".
Dydy'r cwmni ddim wedi crybwyll amserlen benodol ar gyfer cau'r safle, ond mae'n nodi bwriad i gadw'r ffatri i fynd tan ryw ben yn 2025.