Dyn 63 oed wedi marw mewn digwyddiad ar Ynys Enlli
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 63 oed wedi marw mewn digwyddiad ar Ynys Enlli.
Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad ar yr ynys toc cyn 17:00 ddydd Mercher, yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael anafiadau i'w frest.
Bu farw'r dyn, sydd heb ei enwi, yn y fan a'r lle.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod teulu'r dyn wedi cael gwybod, a'u bod yn ymchwilio i achos y farwolaeth.
Dywedodd yr heddlu nad ydyn nhw'n credu fod y dyn yn byw ar yr ynys.
'Cydymdeimlo'n ddiffuant'
Cafodd bad achub ei anfon o Abersoch am 20:25 nos Fercher mewn ymateb i'r digwyddiad, meddai'r RNLI mewn datganiad.
Roedd Gwylwyr y Glannau a pharafeddygon hefyd yn rhan o'r ymateb, yn ôl Heddlu'r Gogledd.
Dywedodd y llu mewn datganiad: "Mae swyddogion yn cydweithio â'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch a'r crwner fel rhan o'r ymchwiliad."
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, fe ddywedodd Ymddiriedolaeth Ynys Enlli eu bod "yn cydymdeimlo'n ddiffuant â'r ffrindiau a theulu sydd wedi eu heffeithio".
Ychwanegon nhw eu bod yn gweithio gyda thrigolion lleol a'r awdurdodau, gan ddiolch i bawb fu'n ymwneud â'r digwyddiad.