'Mor bwysig siarad,' medd ffermwraig o Dregaron a gollodd ei thad

Mali DaviesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mali sy'n bennaf gyfrifol am y fferm deuluol wedi marwolaeth ei thad

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn trafod hunanladdiad

Roedd y dydd Llun cyntaf o Fedi 2020 yn ddiwrnod arferol ar fferm Pontargamddwr ger Tregaron - Rhodri y tad adref yn ffermio, Siân y fam wedi mynd i'r gwaith a'r efeilliaid Mali a Gwawr yn dechrau ar eu cyfnod yn y chweched.

Ond dyma ddiwrnod a newidiodd fywyd y merched a'u mam. Ar ôl dod adref o'r ysgol fe ddaeth y merched o hyd i'w tad wedi marw drwy hunanladdiad.

Roedd y cyfan yn sioc "enfawr ac annisgwyl," meddai Mali, "a doedd dim arwydd o gwbl bod e'n mynd i wneud y fath beth".

Ers hynny, mae Mali - sydd bellach yn 20 - wedi bod yn rhedeg y fferm deuluol gyda chymorth ei mam a'i chwaer.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Gobaith Mali oedd cael ffermio gyda'i thad

Ar drothwy'r Sioe Fawr dywed Mali ei bod hi mor bwysig i siarad a rhannu pryderon ac er bod elusennau yn annog sgyrsiau o'r fath dywed ei bod hi'n dal yn anodd i nifer - ffermwyr yn enwedig - i siarad am eu pryderon.

"Fi'n credu bod hi dal yn anodd iawn i agor fyny a rhannu problemau - mae 'na ofn yna bod pobl yn meddwl wedyn eich bod yn wan," meddai Mali wrth siarad â rhaglen Bwrw Golwg ar Radio Cymru.

"Ond rhannu'r broblem yw'r cam cyntaf - ond hwnna yw'r cam anoddaf hefyd.

"Bydden i'n annog unrhyw un os oes rhywbeth yn bod, neu os oes rhywbeth yn gwasgu arnyn nhw, i rannu'r broblem - plîs gwnewch hynny. Does dim angen i neb ddioddef.

"Bedair blynedd yn ôl gollon ni Dad a doedd 'da ni ddim syniad. Mae iechyd meddwl yn broblem enfawr yn y gymuned amaethyddol ac mae ffermwyr yn teimlo bod yn rhaid iddyn nhw ddyfalbarhau.

"Does dim angen i'r un ffermwr ddelio gydag unrhyw broblem ar ben ei hunan. Mae elusennau ar gael i helpu ac maen nhw'n gwneud gwaith anhygoel."

'Angen y sgwrs'

Ategu neges Mali y mae'r Parchedig Wyn Thomas, sy'n gweithio i wasanaeth cymorth Tir Dewi ac yn arwain yr oedfa ddydd Sul ar Radio Cymru.

"Fi'n gweld yn fy ngwaith o ddydd i ddydd faint o broblemau sy'n wynebu teuluoedd amaethyddol," meddai, "yn gweld gofid a phroblem, yn gweld pryder ac yn gweld anobaith weithiau yn cydio mewn teuluoedd sydd wedi bod ar hyd y blynyddoedd yn byw ac yn gweithio yn agos i'r tir.

"Gobeithio y gallwn ni yn y Sioe Fawr yr wythnos hon werthfawrogi gwerth sgwrs a gofyn i'n gilydd go iawn shwt ma' pethe.

"Mae ffermwyr, yn draddodiadol, yn bobl sy'n ei chael hi'n anodd iawn sôn am eu teimladau, eu gofidiau a'u problemau ond mae angen hynna - yr angen am y sgyrsiau 'na sy'n 'neud gymaint o wahaniaeth."

Nos Sul y Parchedig Thomas fydd yn arwain yr oedfa ar faes y Sioe yn Llanelwedd.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Gobaith Mali yw gwella'r tir a'r stoc yn y dyfodol

Mae'n gyfnod prysur ar fferm Pontargamddwr - mae'n gyfnod torri a chasglu'r silwair, rhoi trefn ar y defaid a'r ŵyn a chael y gwartheg yn barod ar gyfer tarw - ond ar ben hynny mae 'na lawer o ansicrwydd yn y byd amaethyddol, medd Mali.

"Dwi mor falch bo' fi gyda help Mam a Gwawr wedi cymryd drosto y fferm, er bod hynny mor anodd pan o'n i'n 16, ond mae'n rhaid i wleidyddion sylweddoli yr ansicrwydd mae polisïau newydd yn ei greu i ni - yr un amgylcheddol, wrth gwrs, a rheolau TB."

Dywed hefyd bod yn rhaid parchu'r gymuned cefn gwlad.

"Y gymuned amaethyddol wnaeth ein cynnal ni fel teulu wedi'r cyfnod anodd yna yn 2020 - ac fe gawson ni help gwerthfawr gan Tir Dewi ac elusen Sefydliad DPJ wrth gwrs.

"Mae'n gymuned anhygoel iawn - heb gymdogion, ffrindiau a theulu bydden ni ddim wedi dod trwyddo'r amser caled 'na.

"Nhw na'th sicrhau bod y gwaith yn gallu parhau ar y fferm a nhw hefyd sydd wedi fy nghefnogi i a'n nheulu wedi hynny."

Yn ei gyfweliad cyntaf ers cael ei benodi yn weinidog materion gwledig Cymru, dywedodd Huw Irranca-Davies y gall y "materion cymhleth" wrth wraidd yr anghydfod a gododd yn sgil cyflwyno y Cynllun Ffermio Cynaliadwy gael eu datrys.

'Wedi gobeithio ffermio gyda Dad'

Wrth sôn am ei phenderfyniad i redeg y fferm, dywed Mali ei bod wastad wedi bod yn awyddus i ffermio adref ond ni chroesodd ei meddwl y byddai'n gorfod dod i benderfyniad mor ifanc.

"O'n i'n awyddus i fynd mewn i ffermio ond o'n i'n awyddus i weithio gyda 'nhad.

"Cymryd y fferm drosto gyda 'nhad o'n i am wneud - cario 'mlaen gyda'r busnes a gwella'r busnes.

"Ym Medi 2020 ro'n i'n teimlo nad oeddwn yn gallu stopio ffermio, er i fi feddwl a ddylen i roi fyny.

"Fi'n credu bydden i wedi gwaethygu pe bydden i wedi stopio - ac wrth gwrs mae fy chwaer a Mam yn gefn mawr i fi. Fydden i ar goll hebddyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n gyfnod prysur ar fferm Pontargamddwr ger Tregaron

Dymuniad Mali, er yr ansicrwydd presennol, yw gwella tir y fferm a'r stoc o flwyddyn i flwyddyn.

Yr wythnos hon fe fydd hi yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd.

"Mae'r Royal Welsh yn gyfle i gael amser bant o'r gwaith, i ymlacio ond yn fwy na dim mae'n amser i ddal lan 'da pobl chi ddim wedi'u gweld ers amser. Mae'n amser i fwynhau a rhannu gofidiau."

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch mae modd cael cymorth drwy gysylltu ag elusen Tir Dewi, dolen allanol neu elusen Sefydliad DPJ, dolen allanol ac mae cymorth ar gael hefyd ar wefan BBC Action Line.

Mae cyfweliad Mali Davies i'w glywed yn llawn yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg ac yna ar BBC Sounds.