Safle radar yn galluogi Trump i 'reoli'r gofod o Sir Benfro'

- Cyhoeddwyd
Byddai cynlluniau i adeiladu gorsaf radar gofodol yn galluogi i Arlywydd yr UDA, Donald Trump "lywodraethu" ar y gofod o Sir Benfro, meddai ymgyrchwyr.
Bydd y rheiny sy'n gwrthwynebu cynllun DARC (Deep Space Advanced Radar Capability) ar safle ger Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro nawr yn mynd â'u dadl nhw at wleidyddion y Senedd.
Fe wnaeth dros 15,000 o bobl arwyddo deiseb ar-lein yn gwrthwynebu cynlluniau'r Weinyddiaeth Amddiffyn i adeiladu 27 o ddysglau radar ym Marics Cawdor ger Breudeth, Sir Benfro.
Yn ôl Llywodraeth y DU, mae DARC yn hanfodol er mwyn cadw llygad ar wrthrychau yn y gofod pell, a gwarchod rhwydweithiau lloeren, cyfathrebu a llywio.
'Fyddech chi'n ymddiried yn Trump?'
Ddydd Mercher bydd PARC (Ymgyrch Pobl Yn Erbyn Radar), yn ogystal â grwpiau fel CND Cymru, Atal y Rhyfel, a Heddwch ar Waith yn cynnal digwyddiad yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd.
Mae AS Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, Cefin Campbell eisoes wedi gwneud datganiad yn y Senedd yn gwrthwynebu DARC, gan ddenu cefnogaeth 11 AS arall.
"Mae consensws yn dechrau ffurfio nad yw'r DU bellach yn gallu cymryd yn ganiataol bellach y byddai'r UDA yn ymladd ar yr un ochr â ni, fel oedd yn wir o'r blaen," meddai ymgyrch PARC yn erbyn DARC mewn datganiad.
Mae pryderon yr ymgyrchwyr yn cynnwys yr effaith ar dwristiaeth, iechyd pobl leol, pwysau ar isadeiledd fyddai'n dod o adeiladu'r safle, a goblygiadau gwleidyddol y bartneriaeth.
Ychwanegodd Jim Scott, llefarydd ar ran y mudiad, nad oedd yn credu fod "pryfocio" China wrth cefnogi amcanion milwrol yr UDA yn syniad da.

Fis diwethaf fe wnaeth un o'r ymgyrchwyr, Roy Jones, gyflwyno llythyr i bob un o'r 60 AS yn y Senedd yn gofyn iddyn nhw wrthwynebu'r cynlluniau
"Fyddech chi'n ymddiried yn Donald Trump, sydd dros yr wythnosau diwethaf wedi newid ochrau mewn rhyfel procsi rhyngwladol, i lywodraethu'n filwrol ar y gofod i gyd gan ddefnyddio Sir Benfro i wneud hynny?" meddai.
"Os na, bydden i'n eich hannog yn gryf i ystyried ffyrdd o atal DARC."
Byddai'r dysglau fyddai'n cael eu hadeiladu fel rhan o DARC yn 66 troedfedd (20m) o uchder a 49 troedfedd (15m) o led, ac yn agos iawn i'r parc cenedlaethol.
Mae rhaglen DARC yn rhan o bartneriaeth diogelwch ar y cyd rhwng tair gwlad – Prydain, yr UDA ac Awstralia.
Mae'r gwledydd hynny hefyd yn adeiladu safleoedd radar tebyg eu hunain, a hynny mewn ymateb i fygythiadau posib gan wledydd fel Rwsia a China.
Ymgais flaenorol wedi methu
Pan gafodd DARC ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2023, dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn ar y pryd, Grant Shapps, y byddai cadw llygad ar weithgaredd yn y "gofod pell" yn diogelu'r DU rhag "rhyfela gofod".
Yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn bydd radar yn galluogi gwledydd i weld gwrthrychau yn y gofod pell, hyd at 22,000 o filltiroedd (36,000km) o'r Ddaear.
Roedd disgwyl i Farics Cawdor gau erbyn 2028, ond bydd datblygu'r safle ar gyfer DARC yn ei gadw ar agor gan greu 100 o swyddi i ofalu am y radar.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens y byddai'r datblygiad yn "sicrhau swyddi yn yr ardal" a'i fod yn "brosiect pwysig i Sir Benfro".

Mae'r map hwn gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn dangos sut fyddai systemau radar y dair wlad yn gallu gorchuddio pob rhan o'r ddaear
Cyngor Sir Penfro fydd yn cael y gair olaf ynghylch a fydd safle DARC yn cael ei adeiladu ym Mreudeth.
Cafodd cynlluniau blaenorol i adeiladu safle radar ym Maes Awyr Tyddewi eu rhwystro yn 1991, yn dilyn ymgyrch gan bobl leol dan faner Sir Benfro Yn Erbyn Y Radar.
Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn y byddai DARC yn cael ei reoli gan weithwyr y DU, ac y byddai lleoli'r safle yn Sir Benfro yn "cynnig swyddi a chyfleoedd i wella sgiliau o fewn y gymuned".
Mae'r cynllun yn dilyn "proses gynllunio ac amgylcheddol llym, sydd wedi ei gytuno gyda Chyngor Sir Penfro", meddai'r llefarydd.
Ychwanegodd y byddai'n rhaid i DARC gwrdd â gofynion iechyd ac amgylcheddol rhyngwladol oedd wedi eu gosod gan Sefydliad Iechyd y Byd.
Mae disgwyl i gais cynllunio gael ei gyflwyno yn 2025, gyda gwaith adeiladu i ddechrau yn 2026 os yw'n cael ei gymeradwyo gan Gyngor Sir Penfro.