Diwedd Côr Cymru yn atal 'ffrwd incwm pwysig i gyfansoddwyr'

Mae Ruth Myfanwy yn dweud fod Côr Cymru yn blatfform gwreiddiol ac unigryw i gorau ar y sianel a bydd colled ar ei hôl
- Cyhoeddwyd
Mae yna bryder y bydd cyhoeddwyr a chyfansoddwyr yn colli "ffrwd incwm pwysig" wrth i gyfres S4C, Côr Cymru, ddod i ben.
Mae perchennog cwmni cyhoeddi Curiad, Ruth Myfanwy, yn poeni am effaith y penderfyniad ar y diwydiant cerddoriaeth.
Dywedodd fod y diwydiant yn elwa o'r gwerthiant o'r copïau ar gyfer y gyfres a hefyd o'r blaendaliadau sy'n dod yn sgil rheiny.
Yn ôl S4C mi fyddan nhw'n "parhau i gefnogi a rhoi llwyfan amlwg ac aml i ganu corawl" drwy ddarlledu Eisteddfodau a rhaglenni adloniant.

Roedd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal bob yn ail flwyddyn ers 2003 ac yn denu corau ar draws Cymru
Mae Ruth Myfanwy'n dweud fod Côr Cymru yn blatfform gwreiddiol ac unigryw ac mi fydd hi'n "anodd mesur y golled".
Mae'n poeni am yr "effaith ar awduron sydd wedi ysgrifennu'r geiriau achos fe fydden nhw yn colli allan hefyd", meddai.
Ychwanegodd bod y diwydiant "yn ei ffeindio hi'n anodd iawn ar hyn o bryd felly mae colli un ffrwd incwm fel hwn yn mynd i gael effaith mawr".
Ond mae'r sianel wedi cyhoeddi ei bod hi yn ddiwedd y gân i gystadleuaeth Côr Cymru a fydd yna ddim cyfres arall.
'Caffaeliad mawr iawn i'r diwydiant'
Roedd y gystadleuaeth ar y teledu yn chwilio am y côr gorau yn y wlad.
Cwmni cynhyrchu Rondo fu'n gyfrifol am y gyfres ac mae nifer o'r corau yn y gystadleuaeth wedi hybu cyfansoddwyr Cymreig, trwy eu comisiynu i ysgrifennu darnau newydd a threfniannau o ganeuon ar eu cyfer.
Mi fyddai'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal bob yn ail flwyddyn ers 2003 ac yn denu corau ar draws Cymru a thu hwnt.
Mae enillwyr diweddar y gystadleuaeth yn cynnwys Côr Ifor Bach, Côrdydd, Ysgol Gerdd Ceredigion a Chôr Merched Sir Gâr.
Mewn blwyddyn arferol, byddai 20 côr mewn pum rownd yn y rowndiau cyn-derfynol.
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
Mae cerddoriaeth y cyfansoddwr adnabyddus o Ynys Môn, Gareth Glyn, yn ddewis poblogaidd gan nifer o gorau.
Mae'n disgrifio'r gystadleuaeth fel "caffaeliad mawr iawn i'r diwydiant" a bod colli Côr Cymru yn siom.
"Roedd hi'n help mawr i gyfansoddwyr fel fi," meddai.
"Roedd hefyd yn bwysig i'r corau ac yn rhoi llwyfan iddyn nhw na fydde nhw fyth yn ei gael fel arall."

Mae Islwyn Evans wedi arwain corau buddugol yn y gystadleuaeth ers y cychwyn yn 2003
Roedd y gystadleuaeth hefyd yn hybu gwaith llenorion Cymraeg, gan fod gofynion y repertoire yn gofyn am o leiaf un darn yn yr iaith Gymraeg a dim mwy nag un darn yn yr iaith Saesneg.
Roedd nifer o'r corau hefyd wedi comisiynu cyfieithiadau o ganeuon sydd ddim yn y Gymraeg yn wreiddiol gan feirdd neu awduron Cymreig.
Un o arweinyddion mwyaf llwyddiannus y gystadleuaeth oedd Islwyn Evans o Ysgol Gerdd Ceredigion.
Mae wedi arwain corau buddugol yn y gystadleuaeth ers y cychwyn ac yn teimlo fod y sianel yn colli cystadleuaeth o safon ryngwladol.
"Mae'n gystadleuaeth unigryw. Mae'n rhoi canu corawl ar bedestal dros yr 20 mlynedd diwethaf," meddai.
"Mae'n cael ei beirniadu gan feirniaid o bob cwr o'r byd ac mae'r profiadau o hynny yn amhrisiadwy."
Ychwanegodd bod yr "effaith 'knock on' yn sylweddol i'r diwydiant cerddoriaeth o ran pobl fel cyfansoddwyr, cyfeilyddion, offerynwyr ac ati."

"Rwy' wedi syfrdanu fod y rhaglen yn dod i ben" medd André van der Merwe
Un o feirniaid rhyngwladol y gystadleuaeth yw André van der Merwe, sef arweinydd y côr byd-enwog Stellenbosch University Choir.
Mae hefyd yn drefnydd gweithiau corawl ac yn gyfansoddwr ac fe ddywedodd: "Yng nghyd-destun y byd mae Côr Cymru wir yn ddigwyddiad unigryw.
"Prin iawn yw'r gwledydd sydd yn arddangos eu canu corawl mewn cynhyrchiadau teledu.
"Cefais brofiad uniongyrchol o sut mae'r rhaglen wedi cyfrannu at godi safon canu corawl yng Nghymru tra ar yr un pryd creu balchder a chymell ieuenctid i gyrraedd y brig yn y byd celfyddydol."
'Am barhau i gefnogi canu corawl'
Dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Rydym yn hynod o falch o bopeth mae Côr Cymru wedi ei gyflawni dros y blynyddoedd, ac eisiau talu teyrnged i safon y cynyrchiadau a'r cystadlu gan gorau arbennig."
Ychwanegon nhw eu bod am "barhau i gefnogi a rhoi llwyfan amlwg ac aml i ganu corawl drwy ein holl ddarllediadau o Eisteddfod yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Eisteddfod Ffermwyr Ifanc a'r Ŵyl Cerdd Dant yn ogystal ag ar raglenni adloniant fel Noson Lawen".
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.