'Dyw fy swydd ddim dan fygythiad' - RT Davies

Andrew RT DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew RT Davies wedi ennyn beirniadaeth o sawl cyfeiriad yn y dyddiau diwethaf

  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd yn dweud nad yw'n teimlo bod ei swydd dan fygythiad.

Mae Andrew RT Davies wedi ennyn beirniadaeth dros sylwadau ynghylch cig halal mewn ysgolion a dyfodol y Senedd ei hun, ac yn sgil ieithwedd anaddas un o'i ASau.

Fe ddefnyddiodd AS Dwyrain De Cymru Laura Anne Jones derm hiliol sy'n sarhau pobl Chineaidd mewn sgwrs WhatsApp.

Mae Ms Jones wedi ymddiheuro, ac mae Mr Davies yn ymddangos yn diystyru ei hatal o grŵp y blaid yn y Senedd.

Wrth siarad ar raglen Radio Wales Breakfast ddydd Llun, dywedodd Mr Davies bod neb o blith y grŵp wedi awgrymu diarddel Ms Jones.

"Rwy'n nodi bod Laura Anne Jones wedi ymddiheuro'n llawn am ddefnyddio iaith hollol amhriodol," meddai.

"Beth sydd angen i ni wneud y dyddiau hyn? Dodi tar a phlu ar rywun? Ynteu ydyn ni'n derbyn eu hymddiheuriad, deall bod pobl yn dysgu gwersi o'u camgymeriadau a symud ymlaen?"

Mae Ms Jones eisoes wedi camu'n ôl o gabinet yr wrthblaid ac yn destun ymchwiliad heddlu i honiadau yngylch hawlio treuliau.

Dywedodd cyfreithiwr ar ei rhan ar y pryd bod y gwleidydd "yn sicr bod unrhyw honiadau mewn cysylltiad ag anghywirdeb treuliau yn gamdybiad llwyr".

Nid yw ASau Ceidwadol i fod i gyfarfod fel grŵp eto tan ar ôl toriad yr haf ym mis Medi.

Ond mae o leiaf un yn ystyried a ddylid gofyn am gyfarfod brys cyn hynny.

Ffynhonnell y llun, Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Laura Ann Jones gamu'n ôl o'i rôl fel llefarydd diwylliant y Ceidwadwyr yn y Senedd yn sgil negeseuon testun ynghylch ei threuliau

Mewn ffrae ar wahân mae Cyngor Mwslemaidd Cymru wedi cyhuddo Mr Davies o bryfocio mewn modd Islamoffobaidd mewn erthygl ddiweddar ar gyfer gwefan GB News.

Ysgrifennodd yn yr erthygl "ni ddylid gorfodi plant i fwyta prydau ysgol halal" gan ddweud bod etholwr yn honni mai dim ond cig halal oedd ar gael yn ysgol ei merch yn Y Bont-faen, ym Mro Morgannwg.

Dywedodd yr ysgol dan sylw ar y cyfryngau cymdeithasol bod dim sail i'r honiad hwnnw.

Ddydd Llun fe ddywedodd Mr Davies ar Radio Wales bod yr honiadau o bryfocio Islamoffobaidd "yn hollol anwir" ac mai sicrhau dewis yw sail ei bryderon.

Dywedodd ei fod yn dal mewn cysylltiad gyda'r ysgol, gan dderbyn bod gwyliau'r ysgol yn achosi oedi cyn iddo gael ateb i'w gais am ragor o wybodaeth.

'Trafod safbwyntiau gwahanol wyneb yn wyneb'

Mae Mr Davies hefyd wedi cael ei feirniadau gan rai o ASau'r grŵp Ceidwadol ym Mae Caerdydd ac gan un o'i ragflaenwyr, yr Arglwydd Nick Bourne, yn dilyn neges a gyhoeddodd ar X - Twitter gynt - yn gofyn a ddylid diddymu'r Senedd.

Gan nad yw diddymu'r Senedd yn bolisi'r Ceidwadwyr, dywedodd yr Arglwydd Bourne bod "dim synnwyr" dilyn y fath drywydd.

Roedd Mr Davies wedi cyhoeddi llun o "bôl piniwn anwyddonol" mewn sioe amaethyddol yn gofyn i bobl roi pêl mewn un o ddau focs - un o blaid ac un yn erbyn diddymu'r Senedd.

Ddydd Llun fe gadarnhaodd nad dyna farn y blaid, na'i farn yn bersonol, ond fe amddiffynnodd cynnal y pôl.

"Ydw i'n teimlo fy mod yn cael fy herio? Ydw i'n teimlo dan fygythiad? Nadw, wrth gwrs ddim oherwydd rwy'n wleidydd sy'n trafod gyda'r cyhoedd.

"Beth sydd o'i le â rhoi cwestiwn gerbron pobl mewn sioe amaethyddol pan rydych yn ceisio siarad gyda phobl wrth iddyn nhw fynd heibio eich stondin?

"Os rydych eisiau trafod gyda grŵp o fewn cymdeithas sydd â safbwynt gwahanol i'ch un chi, chi'n gofyn cwestiwn a siarad gyda nhw un wrth un.

"Dydw i ddim yn rhywun sy'n cuddio tu ôl i daflenni neu baneli neu grwpiau trafod. Rwy'n mynd allan a siarad â phobl wyneb yn wyneb."

Serch anfodlonrwydd o fewn grŵp Ceidwadol y Senedd, does dim lle i gredu y bydd yna her yn y dyfodol agos i arweinyddiaeth Mr Davies, yn bennaf gan nad oes ymgeisydd amlwg i'w ddisodli.