AS ffrae treuliau yn 'camu'n ôl' o gabinet y Ceidwadwyr

Laura Anne Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Laura Anne Jones yn destun ymchwiliad gan yr heddlu mewn cysylltiad â honiadau ynglŷn â'i threuliau

  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd y grŵp Ceidwadol yn Senedd Cymru wedi gofyn i un o'i aelodau "gamu'n ôl" tra bod ymholiadau'n cael eu cynnal i honiadau'n ymwneud â'i threuliau.

Daeth datganiad Andrew RT Davies yn gynnar nos Wener wedi i BBC Cymru weld negeseuon testun o ffôn Laura Anne Jones, sy'n ymddangos fel pe baent yn gofyn i weithiwr wneud y mwyaf o hawliadau treuliau'r gwleidydd.

Mae Ms Jones, oedd yn weinidog diwylliant cysgodol i'r Ceidwadwyr ym Mae Caerdydd, yn destun ymchwiliadau gan yr heddlu a Chomisiynydd Safonau'r Senedd.

Mewn datganiad dywedodd ei chyfreithwyr ddydd Iau "bod unrhyw honiadau mewn perthynas ag amhriodoldeb ynghylch treuliau yn cael eu camdybio yn llwyr".

Mae hi hefyd wedi dweud y bydd hi'n cydweithredu'n llawn gydag "unrhyw ymchwiliad".

Dywedodd Mr Davies nos Wener: "Rwyf wedi gofyn i Laura Anne Jones gamu'n ôl o gabinet cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig tra bod ymchwiliadau'n cael eu cynnal.

"Ni fyddwn yn gwneud unrhyw sylwadau ynghylch unrhyw ymchwiliadau sy'n mynd rhagddynt."

Mae Ms Jones, un o ASau rhanbarth Dwyrain De Cymru, yn parhau'n aelod o grŵp y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru.

Dyw cyd-destun y negeseuon WhatsApp rhwng Ms Jones ac uwch aelod staff sydd wedi eu gweld gan BBC Cymru, ddim yn amlwg.

Gofynnodd un neges i aelod o staff: "Wrth wneud y peth petrol - gwnewch fwy nag oeddwn i bob tro - ychwanegwch stwff i mewn os gwelwch yn dda ok".

Mae'r ateb i'r neges yna yn ymddangos yn awgrymu ychwanegu "ymweliadau â swyddfa etholaeth?".

Dywed yr ymateb o ffôn Ms Jones: "Ie - pethau fel yna" gydag emoji plygu dwylo.

Rhaid i dreuliau teithio ar gyfer Aelodau'r Senedd gael eu cymeradwyo gan yr aelodau eu hunain.

Ni all y BBC wirio a yw'r negeseuon yn cynrychioli'r holl sgyrsiau rhwng y bobl dan sylw.

Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r negeseuon Whatsapp Saesneg rhwng Laura Anne Jones ac aelod staff

Daeth yr honiadau am dreuliau Ms Jones i'r amlwg fel rhan o ymchwiliad Comisiynydd Safonau Senedd Cymru, Douglas Bain.

Deëllir bod ymchwiliad y comisiynydd safonau yn cael ei atal tra bod ymchwiliad yr heddlu'n parhau, ac mae'r heddlu wedi siarad ag o leiaf un aelod o staff Ceidwadol fel rhan o'r ymchwiliad.

Does neb wedi cael eu harestio fel rhan o ymchwiliad Heddlu De Cymru i'r honiadau.

Mae llefarydd materion Cymreig y Blaid Lafur, Jo Stevens, yn cwestiynu pam nad yw Ms Jones wedi cael ei gwahardd, gan ddweud bod yr honiadau yn "frawychus iawn".

Ychwanegodd bod angen i Andrew RT Davies "fod yn glir ynghylch beth oedd yn gwybod am y sefyllfa yma a phryd".

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn galw am wahardd Ms Jones.

Pynciau cysylltiedig