Cyhuddo dyn, 19, yn dilyn ymosodiad yng Nghaerdydd

Fe gafodd yr heddlu eu galw i Heol Salisbury, Caerdydd nos Fawrth
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i ddyn 19 oed o Gaerdydd ymddangos o flaen ynadon y ddinas mewn cysylltiad ag ymosodiad difrifol yn ardal Y Waun Ddyfal (Cathays).
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol Salisbury tua 23:30 nos Fawrth 25 Chwefror mewn ymateb i ymosodiad â chyllell.
Dywed Heddlu De Cymru bod dyn 33 oed yn parhau yn yr ysbyty a'i fod mewn cyflwr sefydlog erbyn hyn.
Mae'r dyn, sy'n byw ar Heol Salisbury, wedi cael ei gyhuddo o anafu'n fwriadol a bod ym meddiant arf bygythiol mewn man cyhoeddus.
Mae dau ddyn arall a gafodd eu harestio fel rhan o'r ymchwiliad wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.