Awtistiaeth: 'Angen chwalu rhwystrau byd gwaith'

Alice Banfield yn eistedd yn ei stiwdio chelf ac yn edrych ar y camera
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alice Banfield, sy'n awtistig, yn dweud bod creu celf yn ffordd iddi gyfleu ei hun a chyfathrebu ei theimladau

  • Cyhoeddwyd

Mae angen "gwneud mwy i chwalu'r rhwystrau mae pobl awtistig yn wynebu wrth gael swydd a chadw swydd", yn ôl y Gymdeithas Awtistig (NAS).

Maen nhw'n canmol gwaith sydd eisioes yn cael ei wneud gan rai mudiadau yng Nghymru ond yn dweud bod llawer mwy i'w wneud eto.

Dywedodd James Radcliffe, Rheolwr Materion Allanol Cymru, bod "cynyddu'r nifer o bobl awtistig mewn gwaith yn hanfodol wrth greu cymdeithas decach sy'n gweithio ar gyfer pobl awtisig".

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "wedi ymrwymo i wella bywydau pobl awtistig a bod mynediad i gyfleoedd o gyflogaeth arwyddocaol yn rhan hollbwysig o hwn".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nathan Trevett y gall gweithleoedd wneud mwy i helpu unigolion fel fe

Dywed Nathan Trevett, gitarydd a chanwr sydd ar y sbectrwm awtistiaeth a sydd â syndrom asperger, bod ffordd bell i fynd.

"Dwi wedi cael lot o broblemau dros y blynydde," meddai.

"Rwy'n cyflawni pethau ond ddim yn llwyddo. Efalle bod hynna yn swnio yn gyfarwydd ond mae'r awtistiaeth hefyd yn cael effaith ar be' dwi'n neud. Ma' lot o anwybodaeth mas fanna o hyd."

Ei freuddwyd yw bod yn gyflwynydd teledu ac mae'n credu y gall mwy gael ei wneud i helpu pobl fel fe yn y diwydiant creadigol.

"Ma' angen mwy o dderbyn. Dyna be sy' angen, derbyn pobol am bwy ydyn nhw ac addasu at anghenion pobl.

"Jyst pobol ydyn ni sydd yn gweithio mewn ffyrdd unigryw."

30% o bobl awtistig sydd mewn gwaith

Yn ôl y Gymdeithas Awtistig, dim ond 30% o bobl awtistig sy'n cael eu cyflogi yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.

Dyma'r bwlch cyflogaeth mwya' wrth edrych ar bobl ag anableddau.

Dywedodd James Radcliffe, Rheolwr Materion Allanol Cymru fod "ein hymchwil yn dangos fod pobl awtistig eisiau gweithio ar draws pob sector gyda chymaint yr un mor awyddus i weithio ym myd celfyddydau ac ym myd technoleg".

Amcangyfrifir bod un ym mhob saith person yn y DU yn niwro-amrywiol, sy'n cynnwys pobl sydd â dyslecsia, dyspracsia, ADHD, ar y sbectrwm awtistig a chyflyrau niwrolegol arall.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Alice, mae 'na lawer o bwysau yn y diwydiant creadigol i greu cysylltiadau, sy'n her i berson awtistig

Mae Alice Banfield yn berson awtistig sy'n gweithio fel artist llawrydd yng Nghaerdydd.

Mae ganddi awgrymiadau pendant ynglyn â beth fyddai'n helpu pobl fel hi yn y gweithle.

"Ma' pobl yn dweud mai dealltwriaeth sydd angen, ond rwy'n meddwl bod derbyn hefyd yn bwysig. Ry'n ni gyd ag anghenion gwahanol.

"Mae'n bwysig siarad i weld a ydyn nhw angen unrhywbeth neu yn wynebu anhawster."

Ffynhonnell y llun, Alice Banfield
Disgrifiad o’r llun,

Dwy enghraifft o waith celf Alice Banfield, sy'n dweud bod cael lle tawel i weithio yn help mawr iddi

Mae'n croesawu cyfleon i bobl awtistig drwy brentisiaethau gwaith, ond hefyd yn dweud bod angen gwneud mwy i addasu'r gweithle.

"Mae gen i over-sensitive hearing felly mae'n galed i mi weithio mewn llefydd ac os oes 'na gerddoriaeth a lot o bobl yn siarad, dwi jyst methu prosesu popeth ond fi'n gwbod bo' rhai pobl yn ffeindio fe'n galed i weithio os yw goleuadau yn rhy glir."

Mae'n cydnabod byddai llefydd tawel yn y gweithle yn helpu rhai unigolion.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Catrin Davies, pennaeth prentisiaethau yr Urdd, mae ganddyn nhw dîm sy'n arbenigo mewn gallu rhoi cymorth i unigolion ag anhawsterau dysgu

Mae Urdd Gobaith Cymru yn gyflogwr pwysig o ran prentisiaethau ac yn gweithio gyda 180 o brentisiad ar draws 5 sector gwahanol gyda thua 80 o gyflogwyr.

Mae nifer o'r prentisiad â chyflyrau fel anghenion dysgu ychwanegol ac mae pennaeth prentisiaethau'r Urdd, Catrin Davies, yn dweud bod cynnig cefnogaeth addas iddyn nhw yn bwysig.

"Mae gyda ni dîm sy'n arbenigo mewn gallu rhoi cymorth i unigolion ag anhawsterau dysgu er enghraifft neu gyflyrau gwahanol.

"Bydden ni wedyn yn gweithio gydag unrhyw brentis yn unigol i roi cynllun unigol mewn lle iddyn nhw i'w cefnogi fel unigolyn yn ddibynnol ar yr anghenion sydd ganddyn nhw."

Cefnogaeth mewn gwaith

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "wedi ymrwymo i wella bywydau pobl awtistig a bod mynediad i gyfleoedd o gyflogaeth arwyddocaol yn rhan hollbwysig o hwn".

Ychwanegodd llefarydd: "Drwy Cymru Creadigol a Nawdd Sgiliau Creadigol ry' ni'n ariannu tri prosiect i wella ymarferion cynhwysol o fewn y sectorau sgrin, digidol a cherddoriaeth."

"Mae ein cynllun Twf Swyddi Cymru + hefyd yn darparu unigolion 16-19 oed ag awtistiaeth i help ymarferol sydd wedi'i deilwra, gan gynnwys hyfforddwyr swyddi a chefnogaeth mewn gwaith."

Pynciau cysylltiedig