Asgellwr Cymru Louis Rees-Zammit yn arwyddo i Bristol Bears

Mae Louis Rees-Zammit yn dychwelyd i rygbi'r undeb wedi 18 mis yn yr NFL
- Cyhoeddwyd
Mae Bristol Bears wedi arwyddo asgellwr Cymru Louis Rees-Zammit wrth iddo ddychwelyd i rygbi ar ôl 18 mis yn yr NFL.
Fe wnaeth y chwaraewr 24 oed adael rygbi'r undeb ym mis Ionawr 2024 i ddilyn gyrfa mewn pêl-droed Americanaidd.
Cafodd ei gynnwys yng ngharfannau hyfforddi'r Kansas City Chiefs a'r Jacksonville Jaguars, ond ni chwaraeodd mewn gêm tymor rheolaidd.
Treuliodd Rees-Zammit, sydd â 32 cap i Gymru, chwe blynedd gyda Chaerloyw cyn cael ei ryddhau o'i gontract i ymuno â Llwybr Chwaraewyr Rhyngwladol yr NFL.
"Bristol Bears oedd y dewis amlwg i mi. Mae arddull rygbi'r tîm yn cyd-fynd yn berffaith â sut rydw i eisiau chwarae a sut rydw i'n mynegi fy hun ar y cae ac oddi arno," meddai.
"Dwi eisiau i gefnogwyr godi o'u seddi, creu momentau cyffrous a helpu pobl i syrthio mewn cariad â'r gêm. Mae'n gyffrous i ddychwelyd i rygbi gyda chlwb sy'n mynnu'r gwerthoedd hynny."
Bydd Rees-Zammit yn ymuno â charfan Bryste ddydd Sadwrn, gyda'u tymor yn dechrau ar 28 Medi yn erbyn Caerlŷr.

Ni chwaraeodd Rees-Zammit mewn gêm gystadleuol yn yr NFL
Yn siarad ar Dros Frecwast, dywedodd Gethin Watts, pennaeth recriwtio Bristol Bears, ei bod yn amlwg bod Rees-Zammit yn "uchelgeisiol", ond yn awyddus i ddod yn ôl i fyd rygbi.
Fel un sydd wedi gweithio ar y cytundeb gyda'r asgellwr, dywedodd ei fod yn meddwl bod Rees-Zammit eisiau "gwneud splash yn go gyflym", a bod y "ffordd y' ni'n chwarae'r gêm a'r ffordd ma' fe moyn chwarae'r gêm yn asio'n berffaith".
Dywedodd fod clybiau yn Japan, Ffrainc a Lloegr yn ceisio arwyddo Rees-Zammit ar gyfer y tymor nesaf, ac felly bod y Bears yn "chuffed bod ni wedi cael e dros y lein".
Wrth i Rees-Zammit ddychwelyd i rygbi, bydd yn denu rhagor o sylw yn dilyn ei gyfnod yn yr NFL.
Dywedodd Watts fod "dyletswydd" felly ar y clwb i fod yn "ofalus" gyda'r asgellwr.
"Yn bendant ni ddim yn mynd i rusho fe mewn ar y cae straight away... mae'n rhaid asesu gynta' lle mae e..."
Ychwanegodd fod Rees-Zammit mewn cyflwr da yn gorfforol, ond y byddai'r clwb yn "ofalus iawn i gynllunio pob dim i'r manylyn olaf".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.