Ysgol 'sydd wedi chwyldroi darlun ieithyddol Abertawe' yn 40

Ysgol Gwyr
Disgrifiad o’r llun,

40 mlynedd ers ei hagor, mae'n agos at 1,500 o ddisgyblion yn mynychu Ysgol Gyfun Gŵyr heddiw

  • Cyhoeddwyd

Roedd eleni'n flwyddyn arbennig i un o ysgolion uwchradd mwyaf nodedig Cymru wrth iddi ddathlu pen-blwydd arbennig.

Bu Ysgol Gyfun Gŵyr - un o gonglfeini addysg Gymraeg yn ardal Abertawe - yn dathlu ei phen-blwydd yn 40.

Cafwyd ymgyrch hir i'w sefydlu ddechrau'r 1980au a dywed Heini Gruffudd, un o'r ymgyrchwyr mwyaf selog, fod yr ysgol wedi "chwyldroi" darlun ieithyddol dinas Abertawe a'r ardal gyfagos.

Ddeugain mlynedd ers ei hagor, mae'n agos at 1,500 o ddisgyblion yn mynychu Ysgol Gyfun Gŵyr heddiw.

Yr ymgyrch wedi mynd yn 'fater cenedlaethol'

Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd Heini Gruffudd, fod ardal Abertawe wedi wynebu "un frwydr ar ôl y llall" ynghylch datblygiad addysg Gymraeg.

Wrth gyfeirio at gyfnod yr ymgyrchu, fe ddisgrifiodd sut yr oedd yn rhaid i "rai disgyblion deithio o Benrhyn Gŵyr a wynebu taith o ryw awr bob ffordd o leiaf i fynd i Ystalyfera".

Aeth ymlaen i sôn am y frwydr, gyda'r gymuned Gymraeg yn uno i fynnu addysg gyfun Gymraeg ar gyfer pobl ifanc yr ardal.

Dywedodd fod "cannoedd yn dod i'r cyfarfodydd... yn gorymdeithio i Neuadd y Sir".

"Yn y pen draw, roedd cymaint o brotestio roedd y peth wedi mynd bron yn fater cenedlaethol, disgyblion a rhieni yn eistedd i mewn yn Neuadd y Sir.

"Cafwyd deiseb o ryw 20,000 hefyd yn galw am yr ysgol," ychwanegodd gan ddweud bod Gareth Thomas, y gweinidog, wedi mynd i weld John Allison, Arweinydd y Cyngor, a'i annog i sefydlu'r ysgol.

"Wedodd e wrth ei gynghorwyr Llafur, pe bai nhw ddim yn ei gefnogi i sefydlu'r ysgol, y byddai ef yn ymddiswyddo fel Arweinydd y Cyngor."

Heini Gruffudd
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Heini Gruffudd fod yr ysgol wedi "chwyldroi sefyllfa'r iaith" yn yr ardal

Wrth sôn am y darlun ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, dywedodd fod Ysgol Gyfun Gŵyr wedi "gweddnewid sefyllfa addysg Gymraeg yn llwyr yn y sir".

"Mae e'n rhyfeddol, un o'r pethau cadarnhaol am y Gymraeg yw fod yr ysgolion yma yn ffynnu, nifer y disgyblion yn dal i gynyddu a bod plant yn cael pobl cyfle i gael eu haddysg yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg, cyn mynd ymlaen i ddefnyddio'u Cymraeg ymhellach.

"Mor wahanol i pan oeddwn i yn yr ysgol," meddai.

Roedd o'r farn fod yr ysgol wedi "chwyldroi sefyllfa'r iaith... wedi denu athrawon gwych a disgyblion sydd wedi mynd ymlaen i ddisgleirio mewn gwahanol feysydd."

'Wedi tyfu o seiliau ansicr '

Dywedodd Jeffrey Connick, pennaeth presennol yr ysgol, ac un a fu ar staff yr ysgol ers 30 mlynedd a rhagor, ei fod yn "falch dros ben fod yr ysgol wedi cyrraedd deugain mlynedd" gan ychwanegu bod bellach "dros 100 o staff ac yn agos at 1,500 o ddisgyblion" yn rhan o gymuned yr ysgol.

"Rwy'n falch iawn fod Gŵyr wedi tyfu o seiliau ansicr ar y dechrau - gan iddi gael ei sefydlu ar frys- i fod yn ysgol hynod lwyddiannus sy'n mynd o nerth i nerth."

Roedd yn cydnabod fod y sir ar y pryd yn "amharod iawn" i sefydlu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn yr ardal, ond "drwy waith nifer o bobl, fe sefydlwyd Gŵyr fel yr ail ysgol uwchradd yng Ngorllewin Morgannwg".

Wrth sôn am y nifer cynyddol o ddisgyblion sy'n mynychu'r ysgol, dywedodd fod y dyfodol yn edrych yn addawol gyda'r "ffigyrau yn mynd i gael eu cynnal.

"Dy'n ni ddim yn gweld cwymp, mae'n mynd i barhau ar yr un lefel," meddai.

Wrth edrych ymlaen dywedodd ei fod yn obeithiol y bydd yr ysgol yn "parhau i ddatblygu, yn datbygu mwy o gyrsiau sy'n gwneud addysg cyfrwng Cymraeg yn fwy cynhwysol fyth".

Non LewisFfynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Non Lewis yn gweithio fel athrawes Gymraeg yn Ysgol Gyfun Gŵyr

Un sydd wedi bod yn rhan o deulu Gŵyr ers blynyddoedd yw Non Lewis. Roedd hi'n ddisgybl yno yn ystod y degawd cyntaf cyn dychwelyd yno fel athrawes Gymraeg.

Wrth edrych yn ôl ar ei chyfnod fel disgybl yn yr ysgol, dywedodd ei fod yn "gyfnod o gyffro" wrth agor yr ysgol, â'i thad, y diweddar Barchedig Gareth Thomas, "yn un o'r criw a frwydrodd dros gael ysgol gyfun Gymraeg i Sir Abertawe".

Dywedodd i'r frwydr fod yn "hir a chythryblus" ond bod y newid wedi digwydd yn "ddisymwth yn ystod gwyliau haf '84" gyda'r ysgol yn agor y mis Medi hwnnw.

"Doedd dim gwisg ysgol ffurfiol, ond doedd dim ots, roedd gan Sir Abertawe ysgol gyfun Gymraeg!"

Dywedodd fod yr ysgol wedi "treblu mewn maint ers yr wythdegau mae'n siwr" a bod "addysgu a throsglwyddo'r Gymraeg i bobl ifanc Abertawe wir yn bwysig i fi, ac mae hi'n fraint arbennig gwneud hynny fel aelod o deulu Gŵyr".

Gwyr

Un enw cyfarwydd oedd yn ddisgybl ym mlwyddyn gyntaf Gŵyr oedd y cyflwynydd Rhodri Owen.

Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd ei fod ymysg y "disgyblion cyntaf i wisgo'r wisg oren a du unigryw.

"Roedden ni'n teimlo'n sbesial wrth wybod ein bod ni'n dechre pennod newydd ym myd addysg yn Abertawe."

Aeth ymlaen i ddweud fod ei atgofion o'i gyfnod yn yr ysgol yn "agos iawn at fy nghalon".

Dywedodd fod y cyfleoedd yn "hyfryd, gyda'r gwasanaethau yn rhoi'r hyder i ni ddarllen a siarad o flaen ein gilydd - ac yn fy mharatoi mae'n siŵr ar gyfer gyrfa o siarad!"

Ag yntau'n parhau i gadw cyswllt â rhai o'r athrawon, dywedodd: "Trysoraf fy nhei oren a du unigryw hyd heddiw!"

Pynciau cysylltiedig