Enwau newydd, gobaith newydd ond yr un hen heriau i'r rhanbarthau?

Y 4 hyfforddwrFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Hyfforddwyr rhanbarthau Cymru - Dai Flanagan (Y Dreigiau), Dwayne Peel (Scarlets), Toby Booth (Y Gweilch) a Matt Sherratt (Caerdydd)

  • Cyhoeddwyd

Sanau? Check.

Trowsus cwta newydd? Yn y bag.

Gorchudd dannedd? Wedi ei olchi.

Pres poced? Llai na llynedd!

A dyna ni – yr hanfodion yn eu lle ar gyfer tymor newydd o’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig.

Ac er bod 'na obaith newydd i gefnogwyr fe fydd yr esgid yn gwasgu yn dynnach nag erioed i’r rhanbarthau eleni.

£4.5m sydd yn y coffrau i dalu chwaraewyr - gostyngiad o £0.7m ar y tymor diwethaf.

Felly gyda’r Gweilch, Caerdydd, Y Dreigiau a’r Scarlets yn cyfri’r ceiniogau yn fwy nag erioed pa obaith sydd gan y timau o gyrraedd brig y tabl a chystadlu â goreuon y gynghrair?

Caerdydd

Diddanu a chyffroi'r ffyddloniaid ar Barc yr Arfau oedd y nod i’r Prif Hyfforddwr, Matt Sherratt, y llynedd a dyna lwyddodd ei chwaraewyr ifanc dawnus i wneud.

Roedd Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, yn gwylio hefyd gyda saith chwaraewr yn ennill eu cap cyntaf dros eu gwlad y tymor diwethaf.

Adeiladu ar lwyddiant y talent ifanc fydd y nod eleni.

Mae 'na enwau mawr wedi ymuno ac ymadael eleni. Ymhlith y rhai sy’n cyrraedd?

Y maswr o Gaerdydd Callum Sheedy - yn dychwelyd i Gymru wedi degawd ym Mryste.

Hefyd yn dod o’r “Bears” y blaenasgellwr Dan Thomas.

Ffynhonnell y llun, Ben Evans/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai o hen ffefrynnau Caerdydd fel y capten Josh Turnbull ac Ellis Jenkins wedi ymddeol

Un enw fydd yn siŵr o gynhyrfu’r cefnogwyr ydi'r prop Ed Byrne o Leinster. Blaenwr sy’n gyfarwydd â chodi tlysau draw ar yr Ynys Werdd.

Yn gadael? Fe fydd 'na dipyn o weld eisiau Tomos Williams y mewnwr sy’n mentro i Gaerloyw lle fydd Gareth Anscombe yn ei ddisgwyl fel maswr.

Er nad oedd e at ddant yr hyfforddwr cenedlaethol, doedd dim dianc rhag talent y prop Rhys Carré wrth gario – mae e’n dychwelyd at y Saracens.

Ymhlith y rhai sy’n ymddeol – yr hen ffefrynnau - y capten Josh Turnbull ac Ellis Jenkins.

Yr her gyntaf i Gaerdydd nos Wener gyntaf y tymor fydd wynebu Zebre ar Barc yr Arfau.

Y Gweilch

Cyn cicio yr un bêl roedd y Gweilch yn y penawdau gyda’r cadarnhad wedi pum mlynedd bod y Prif Hyfforddwr Toby Booth yn gadael ddiwedd y tymor.

Yr hyfforddwr amddiffyn Mark Jones fydd yn cymryd yr awenau bryd hynny ond mae nifer – gan gynnwys cyn-asgellwr y Gweilch, Alex Cuthbert, yn rhagweld y bydd y newid yn digwydd yn gynt na hynny. Amser a ddengys!

Booth yn barod i ffarwelio felly, ond eisoes wedi gadael dros yr haf mae'r asgellwr profiadol George North ynghyd â’r sgrymiwr dawnus Nicky Smith sy’n gadael i fynd i Gaerlŷr.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mark Jones (chwith) ei benodi i dîm hyfforddi'r Gweilch gan Toby Booth (dde) yn Haf 2023

Does dim cymaint o wynebau newydd yn ymuno â’r Gweilch â’r rhanbarthau eraill ond fe fydd y mewnwr, Keiran Hardy, yn wyneb cyfarwydd yn y cyffiniau ac yn cystadlu am grys rhif naw gyda’i gefnder Luke Davies.

Un teulu mawr fydd yn y rheng flaen hefyd gyda Steff Thomas a’i gefnder a phrop pen rhydd presennol y Gweilch, Gareth Thomas, yn brwydro am eu lle yn y tîm.

Gyda Justin Tipuric yn ildio’r gapteiniaeth eleni, y blaenasgellwr Jac Morgan fydd yn arwain y rhanbarth, a thaith i Faes Rodney Parade sydd gan Y Gweilch i ddechrau gyda gêm ddarbi yn erbyn y Dreigiau.

Y Dreigiau

Y si mawr oedd bod y cefnwr Liam Williams yn dychwelyd i Gymru ac ar ei ffordd i Rodney Parade ar gyfer y tymor newydd, ond gwadu hynny mae’r Prif Hyfforddwr, Dai Flanagan.

Serch hynny mae yna ddigon o fynd a dod gyda’r blaenwr Shane Lewis-Hughes yn teithio lawr yr M4 o Gaerdydd i Gasnewydd.

Fe fydd yr enw Steve Cummings yn un cyfarwydd i gefnogwyr y gynghrair hefyd.

Yn ymuno o Pau fe fuodd e’n gweithio gyda Flanagan yn ystod ei gyfnod gyda’r Scarlets ychydig flynyddoedd yn ôl.

Mae gŵr arall o Awstralia y canolwr Harry Wilson yn ymuno o NSW Waratahs ynghyd â chwaraewr Super Rugby arall Solomone Funaki.

Ymhlith y rhai sy’n gadael mae Bradley Roberts a Lloyd Fairbrother sy’n ymddeol oherwydd anaf.

Mae yna newidiadau i’r tîm hyfforddi hefyd gyda Filo Tiatia yn cymryd yr awenau gyda’r amddiffyn a Mefin Davies a Luke Narraway yn gadael.

Y Scarlets

Mae bron i 400 cap o brofiad rhyngwladol gyda Chymru wedi gadael Parc y Scarlets dros yr Haf.

Wyn Jones, Scott Williams, Jonathan Davies, Johnny McNicholl, Kieran Hardy, Ken Owens a Samson Lee i gyd yn hen ffefrynnau gyda’r cefnogwyr wedi blynyddoedd o wasanaeth ffyddlon.

Ond gyda chynifer yn gadael mae’r Prif Hyfforddwr. Dwayne Peel, wedi gallu mynd i’w waled gan wagio pwrs y Parc.

Yn y pac oedd problemau mawr y Scarlets y llynedd ac mae Peel wedi cryfhau y 5 blaen dros y misoedd diwethaf.

Mae’r prop rhyngwladol Henry Thomas, wedi ymuno o Castres gyda phrop yr Alban Alec Hepburn yn cyrraedd o Gaerwysg.

Hefyd yn cryfhau'r rheng flaen mae'r bachwr Marnus Van der Merwe oedd yn rhan o garfan Rassie Erasmus a gyfer y Bencampwriaeth Rygbi gyda De Affrica.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jonathan Davies ynghyd â chriw profiadol wedi gadael y Scarlets dros yr Haf

Ond eisoes mae yna ben tost o ran anafiadau i darfu ar baratoadau Peel cyn y gêm gyntaf nos Sadwrn oddi cartref yn erbyn Benetton.

Mae’r prop Harri O’Connor wedi gorfod cael llawdriniaeth wedi gêm gyfeillgar yn erbyn y Saracens.

Fe adawodd Henry Thomas y cae yn yr un gêm hefyd. Mae cadw pawb yn ffit yn anodd ar Barc y Scarlets!

Un enw sy’n siŵr o gynhyrfu o ran yr olwyr yw Blair Murray sy’n ymuno o Canterbury yn Seland Newydd. Mae’n gymwys i chwarae dros Gymru felly fe fydd Warren Gatland yn siŵr o’i wylio yn ofalus

Enwau newydd, gobaith newydd ond yr hen heriau fydd hi i’r pedwar rhanbarth o Gymru eleni o bosib.

Gwneud y gorau o’r gwaethaf a’r sefyllfa ariannol fregus gan obeithio am ganlyniadau i gadw'r cefnogwyr yn hapus ac yn eu seddi.