Trigolion yn cael dychwelyd i'w cartrefi yn Llanelli

Heol Doc NewyddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bu'r ardal o amgylch Heol Doc Newydd ar gau er mwyn diogelu'r cyhoedd

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 57 oed wedi cael ei arestio yn Llanelli ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â sylweddau ffrwydrol.

Bu pum ffordd ar gau yn rhannol yn y dref am gyfnod ar ôl i arbenigwyr gwaredu ffrwydron gael eu hanfon i eiddo yno.

Dywed Heddlu Dyfed-Powys nos Fercher bod y gwaith chwilio ar ben wedi i ddyfais gael ei gwneud yn ddiogel.

Cafodd yr ardal o amgylch Heol Doc Newydd ei chau am gyfnod er mwyn diogelu'r cyhoedd ond yn hwyr nos Fercher dywedodd yr heddlu ei bod hi'n bosib i drigolion ddychwelyd i'w cartrefi.

Bydd swyddogion yn parhau ar y safle dros nos tra bod eu hymholiadau yn parhau.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Dominic Jones: "Hoffwn ddiolch i'r gymuned gyfan am eu cefnogaeth wrth i ni ddelio â'r digwyddiad.

"Bydd pobl leol yn gweld mwy o blismyn yn yr ardal yn ystod y dyddiau nesaf wrth i'n hymholiadau barhau."