'Lle i wella' wrth gynnig cymorth iechyd meddwl i fyfyrwyr yn y Gymraeg

Selfie o ferch gyda gwallt coch yn gwenu yng nghar.Ffynhonnell y llun, Kayley Sydenham
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kayley Sydenham "mor ddiolchgar" o gael cymorth iechyd meddwl yn yr iaith Gymraeg gan ei phrifysgol

  • Cyhoeddwyd

Mae cynnig cymorth iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg i fyfyrwyr addysg uwch yn "amhrisiadwy", ond mae "lle i wella" wrth gynnig y gwasanaethau, yn ôl un sy'n gweithio yn y maes.

Dywedodd rheolwr Myf.Cymru, Ffion Davies fod "y galw am adnoddau a gwasanaethau Cymraeg ychwanegol yn her".

Mae Myf.Cymru yn cynnig cefnogaeth iechyd meddwl a lles ar gyfer myfyrwyr addysg uwch sy'n siarad Cymraeg.

Yn y cyfamser, mae cwnselydd ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi dweud wrth BBC Cymru Fyw bod y galw am wasanaethau lles a iechyd meddwl yn y brifysgol "wedi mwy na dyblu dros y pum mlynedd diwethaf".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod "gwella mynediad i gefnogaeth iechyd meddwl a gwasanaethau arbenigol i bobl sydd eu hangen nhw yn flaenoriaeth".

Ers dychwelyd i'r brifysgol ar ôl y Nadolig, mae nifer o fyfyrwyr yn paratoi am gyfnod hir o arholiadau.

Yn ôl Sara Childs, sy'n gwnselydd ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae straen arholiadau yn gallu effeithio ar iechyd meddwl myfyrwyr.

"Ar ôl Covid, mae safon iechyd meddwl pobl ifanc wedi disgyn ac maen nhw'n fwy parod i ofyn am gymorth," meddai.

Ond dywedodd fod siaradwyr Cymraeg yn llai tebygol o ofyn am y cymorth yma.

"'Da ni'n gweld llawer o bobl sydd yn dioddef o oedi procrastination sy'n tarddu o or-berffeithrwydd," meddai.

"Maen nhw'n gadael y gwaith tan y funud olaf. Ond gorbryder, nid diogi, sydd wrth wraidd y broblem."

Disgrifiad o’r llun,

Mae galw am wasanaethau iechyd meddwl ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi dyblu dros gyfnod o bum mlynedd

Un o'r rhai sydd wedi defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yn y Gymraeg yw Kayley Sydenham, sy'n astudio ym Mhrifysgol Bangor.

Dywedodd fod derbyn cymorth yn y Gymraeg yn rhoi "gofod diogel i fyfyrwyr gael trafod, darllen a defnyddio iaith sydd yn teimlo'n gyfforddus iddyn nhw".

Roedd Kayley "mor ddiolchgar" i allu derbyn cymorth iechyd meddwl gan y brifysgol yn y Gymraeg.

Ond dywedodd hefyd fod rhai myfyrwyr yn cael trafferth dod o hyd i gymorth yn y Gymraeg.

"Mae'n bosib bod rhai pobl yn dala yn ôl wrth ofyn am gymorth oherwydd dydyn nhw ddim hyderus yn siarad Saesneg."

Pam mae cwnsela yn y Gymraeg yn bwysig?

Mae Sara Childs yn dweud bod darparu sesiynau cwnsela yn y Gymraeg yn bwysig iawn mewn sawl ffordd.

"Mae'n dangos ein bod ni'n sensitif i hunaniaethau ieithyddol ac, yn ehangach, i hunaniaethau gwahanol ein cymuned," meddai.

"Mae 'na dystiolaeth i ddangos bod yr iaith y mae rhywun yn ei defnyddio i ddisgrifio atgofion a theimladau yn newid sut mae rhywun yn eu profi nhw.

"Mae rhai cysyniadau yn benodol i ambell i iaith, neu mae'r pwyslais yn newid, yn dibynnu ar y gystrawen... sy'n cael effaith ar ddealltwriaeth a theimladau y siaradwr a'r gwrandäwr."

Ffynhonnell y llun, Ffion Davies
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Ffion Davies, mae ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl wedi ysgogi mwy o alw am wasanaethau yn y Gymraeg

Dywedodd rheolwr prosiect Myf.Cymru, Ffion Davies: "I lawer, mae cael cymorth yn eu mamiaith yn meithrin ymdeimlad o gysur a pherthyn, gan ei gwneud hi'n haws agor i fyny a cheisio cymorth.

"Dros y blynyddoedd, rydym wedi gweld galw cynyddol am wasanaethau iechyd meddwl a llesiant yn y Gymraeg," meddai.

"Ond mae'r galw am adnoddau a gwasanaethau Cymraeg ychwanegol yn her y mae llawer yn y sector yn gweithio i fynd i'r afael â hi.

"Ym Myf.cymru, rydym yn cymryd camau ystyrlon i ddiwallu'r angen hwn."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni wedi gweithio i sicrhau bod cefnogaeth ar gael bob awr o'r dydd, gan gynnwys ein rhif GIG 111 a llinell gymorth CALL.

"Mae 'na hefyd gyfle i bobl gael cefnogaeth heb orfod cael eu cyfeirio gan arbenigwr iechyd, gan gynnwys mynediad i Therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) ar y we, sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg."

Mae'r llywodraeth hefyd wedi rhoi £2m ychwanegol yn eu cyllideb i Medr, sy'n cynnig cefnogaeth i bobl yn y sector addysg uwch ac addysg bellach.