Dynes wedi marw ar ôl gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd

- Cyhoeddwyd
Mae dynes wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ffordd yn Sir y Fflint.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi'u galw i ddigwyddiad ar yr A548 Ffordd Mostyn ger cyffordd pentref Gwesbyr am 16:26 ddydd Iau.
Roedd pedwar cerbyd yn rhan o'r gwrthdrawiad, meddai'r heddlu.
Bu farw dynes a oedd yn gyrru un o'r cerbydau yn y fan a'r lle.
Dywedodd Sarjant Leigh McCann o'r Uned Troseddau Ffyrdd bod "ein meddyliau gyda theulu'r ddynes ar yr amser anodd iawn hwn".
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ac mae'r ffordd bellach wedi ailagor.