Cofio Margaret Jones, darlunydd y Mabinogion

Chwedlau Gwerin Cymru, Margaret Jones a Robin GwyndafFfynhonnell y llun, Y Lolfa
Disgrifiad o’r llun,

Chwedlau Gwerin Cymru, Margaret Jones a Robin Gwyndaf

  • Cyhoeddwyd

Bu farw'r darlunydd adnabyddus, Margaret Jones, yn 105 dros y penwythnos.

Cafodd ei geni yn Lloegr, a phriododd weinidog o Gymru a olygodd iddynt dreulio blynyddoedd cynnar eu priodas yn India, ble'r oedd yn genhadwr.

Ond yn Aberystwyth yr ymgartrefodd y teulu ar ôl i'w gŵr gael swydd yn y brifysgol.

Magodd Margaret eu chwech o blant, cyn dechrau ar ei gyrfa lwyddiannus fel artist a darlunydd hynod boblogaidd yn 60 oed.

Mae ei steil arlunio yn adnabyddus yn syth, a'i darluniadau o chwedlau'r Mabinogi yn gyfarwydd i nifer. Dyma gipolwg ar ei gwaith a'i dylanwad:

Ffynhonnell y llun, Seren Morgan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Seren a Dyfri - wyres a gor-wyres Margaret - gyda hi a'i darlun enwog o fap y Mabinogion yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae wyres Margaret, Seren Morgan Jones, bellach yn artist ei hun. Wrth drafod ei phrosiect o ail-ddychmygu rhai o gymeriadau benywaidd y Mabinogi, dywedodd wrth Cymru Fyw yn 2020 ei bod wedi cael ei hysbrydoli gan ei mam-gu:

"Ddes i lan â'r syniad achos Mam-gu fi yw Margaret Jones, 'nath 'neud y lluniau i'r llyfr a'r poster Mabinogion enwog.

"Pryd o'n i'n tyfu lan, bob dydd Mawrth ar ôl ysgol, bydden i'n mynd draw i'w thŷ hi. Roedd ganddi stiwdio anhygoel a bydden i'n cael eistedd wrth ei desg hi a byddai hi'n gadael i mi ddefnyddio ei holl baent hi - paent dyfrlliw oedd hi'n ei ddefnyddio."

Ffynhonnell y llun, Y Lolfa
Disgrifiad o’r llun,

Y Pair Dadeni, o gyfrol Gwyn Thomas, Y Mabinogi

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Un o blant y tylwyth teg

Ffynhonnell y llun, APECS Press
Disgrifiad o’r llun,

Hydref - o The Months of the Year, an Allegory in Watercolour

Gweithiodd Dr Robin Gwyndaf gyda Margaret ar nifer o brosiectau dros y blynyddoedd, gan gynnwys y map a'r llyfr Chwedlau Gwerin Cymru. Ysgrifennodd y broliant i'w hunangofiant It Came, To Pass:

"Dyma stori person sy'n disgrifio'i hun fel rhywun cyffredin; mewn gwirionedd, fodd bynnag, dyma stori person 'cyffredin' sydd â doniau eithriadol: stori gonest o fenyw addysgedig a diwylliedig, a fagwyd yn Lloegr, ond sydd wedi ei hen fabwysiadu a'i charu gan Gymru.

"Stori gyrfa a llwyddiannau aruthrol artist talentog tu hwnt, a ddechreuodd baentio o ddifri pan oedd hi bron yn 60 oed."

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

'A fo ben bid bont' - Bendigeidfran yn helpu ei fyddin i groesi'r afon yn y chwedl Branwen

Ffynhonnell y llun, Y Lolfa
Disgrifiad o’r llun,

Dewi Sant o'r gyfrol gan Rhiannon Ifans

Ffynhonnell y llun, APECS Press
Disgrifiad o’r llun,

Ebrill - o The Months of the Year, an Allegory in Watercolour

"Roedd ei gwaith yn anhygoel. Dwi'n meddwl ei bod hi wedi siapio sut mae Cymry yn dychmygu byd y Mabinogi a rhoi golwg newydd ar y straeon i gyd," meddai'r artist a'r darlunydd Valériane Leblond.

"'Nes i gwrdd â hi sawl gwaith ac yn y blynyddoedd diwethaf, 'nes i ymweld â hi ddwywaith. 'Naeth ei mab ddangos lot o'i gwaith oedd yn y tŷ - 'naeth hi aros yn ei thŷ ei hun tan y diwedd."

Fel yr oedd Margaret, mae Valériane yn byw a gweithio yn ardal Aberystwyth, ac mae hi hefyd yn ddiweddar wedi darlunio llyfrau chwedlau'r Mabinogi. Sut beth oedd ceisio dilyn gwaith Margaret, tybed?

"Roedd stori Culhwch ac Olwen, yn enwedig, yn y llyfr diwethaf yn bwysig iawn, ac mi wnes i bwynt o beidio edrych ar ei gwaith hi, achos os ti'n edrych ar ei gwaith hi, ti methu gweld dim byd i'w ychwanegu!"

Ffynhonnell y llun, Y Lolfa
Disgrifiad o’r llun,

Gwyn Thomas a Margaret Jones gyda'u cyfrol Llywelyn ein Llyw Olaf; un o'r nifer o droeon iddyn nhw gydweithio

Ffynhonnell y llun, Y Lolfa
Disgrifiad o’r llun,

Clawr cyfrol Madog gan Gwyn Thomas

Ffynhonnell y llun, APECS Press
Disgrifiad o’r llun,

Awst - o The Months of the Year, an Allegory in Watercolour

Dr Alun Isaac a olygodd hunangofiant Margaret - It Came, To Pass - a gafodd ei gyhoeddi yn 2007. Roedd hi hefyd yn darlunio llyfrau chwedlau ei wraig, Margaret Isaac, a daeth y tri yn ffrindiau mawr, meddai.

"Roedd ei gwaith yn darlunio llyfrau yn hollol wych. Buon ni'n gweithio gyda'n gilydd rhwng 2008-2016 ond datblygodd cyfeillgarwch cryf rhwng y tri ohonon ni. Roedd hi wir yn anhygoel, a bydden ni'n ymweld â hi yn eithaf aml; y tro diwethaf rhyw ddwy flynedd yn ôl.

"Roedd hi'n ddarlunydd hyfryd, yn ffrind annwyl, ac mae ei marwolaeth yn golled fawr i'r gymuned."

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Branwen yn anfon neges gyda drudwy i Gymru o Iwerddon lle'r oedd hi'n gaeth

Pynciau cysylltiedig