Cefnu ar gynlluniau am gwotâu rhywedd yn y Senedd

Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Byddai pleidiau wedi gorfod dewis o leiaf 50% o fenywod dan y cynlluniau

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnu ar gynlluniau i orfodi pleidiau i sicrhau bod o leiaf 50% o ymgeiswyr yn fenywod ar gyfer etholiadau'r Senedd.

Ym mis Gorffennaf cafodd y syniad ei ohirio tan o leiaf 2030, ond mae'r cynllun yn cael ei dynnu 'nôl yn llwyr bellach.

Mae gweinidogion yn mynnu eu bod wedi ymrwymo i gael Senedd fwy hafal o ran rhywedd, a chael mwy o fenywod i fod yn rhan o wleidyddiaeth.

Mewn datganiad dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt y bydd y llywodraeth yn "canolbwyntio ei egni llawn ar gyflawni newidiadau gwirioneddol i bobl Cymru".

Roedd y cynlluniau eisoes wedi profi'n ddadleuol, gyda chwestiynau a oedden nhw'n gyfreithlon, ac a oedd gan y Senedd y pŵer i wneud y newid.

Bydd Aelodau'r Senedd yn cynnal dadl a phleidlais ar 24 Medi ar y cynnig i gefnu ar y mesur.

Dywedodd Ms Hutt: "Yfory, bydd y prif weinidog yn gosod ei blaenoriaethau polisi a deddfwriaeth ar gyfer gweddill tymor y Senedd, gan nodi'r ardaloedd hynny ble y bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ei egni llawn ar gyflawni newidiadau gwirioneddol i bobl Cymru.

"O ganlyniad, rydyn ni'n edrych ar draws y llywodraeth ar ardaloedd ble gallwn ni weithredu ein nodau polisi a deddfwriaeth mewn modd mwy ymarferol ac amserol.

"Wedi ystyried, rydym wedi penderfynu cyflwyno cynnig i dynnu'r Bil rhag cael ei ystyried ymhellach gan y Senedd."

Dywedodd y llywodraeth y bydd nawr yn "cyflymu" rhoi canllawiau newydd i'r pleidiau ar amrywiaeth a chynhwysiad.

Amheuon am y mesur ers tro

Roedd y Llywydd Elin Jones wedi codi amheuon ynglŷn ag a oedd gan y Senedd y pŵer i gyflwyno'r gyfraith newydd.

Roedd pwyllgor o ASau hefyd wedi rhybuddio y gallai'r cynlluniau wynebu her gyfreithiol, allai o ganlyniad "beryglu" etholiad y Senedd yn 2026.

Roedd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi rhybuddio hefyd y gallai fod yn anghyfreithlon gadael i ymgeiswyr hunan-adnabod fel menywod, hyd yn oed os nad dyna eu rhyw cyfreithlon.

Cafodd y cynlluniau am gwotâu rhywedd eu gwahanu felly o'r gyfraith i gynyddu nifer aelodau'r Senedd o 60 i 96. Mae'r gyfraith honno bellach wedi cael ei phasio.

Roedd Plaid Cymru wedi bod o blaid y ddeddfwriaeth, gan ddweud ei fod yn "gam mawr ymlaen i gryfhau democratiaeth".

Ond roedd y Ceidwadwyr Cymreig wedi eu gwrthwynebu, gan ddweud y dylai'r ymgeiswyr gorau gael eu dewis, beth bynnag eu rhywedd.