'Dim pwerau' gan Senedd Cymru i gynyddu nifer y merched

  • Cyhoeddwyd
Elin Jones a Bae CaerdyddFfynhonnell y llun, Thinkstock/BBC

Does gan y Senedd ddim y pwerau i basio deddfwriaeth fyddai'n cynyddu nifer y merched sy'n Aelodau'r Senedd, yn ôl y llywydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau fyddai'n gorfodi pleidiau i sicrhau bod o leiaf 50% o'u hymgeiswyr yn ferched.

Dywedodd Elin Jones bod hynny'n ymwneud â materion sy'n cael eu rheoli gan senedd San Steffan.

Ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod gan y Senedd y pwerau i fedru pasio'r mesur.

Fel rhan o'r cynlluniau, byddai'n rhaid i bleidiau gwleidyddol gynnwys o leiaf 50% o ferched fel eu hymgeiswyr ar gyfer etholiad nesa'r Senedd, ond doedd cynnig dadleuol gafodd ei weld mewn drafft blaenorol i gynnwys merched trawsryweddol fel merched ddim yn rhan o'r ddeddfwriaeth gafodd ei chyhoeddi ddydd Sul.

Mae wedi bod yn bwnc trafod ers tro os oes gan y Senedd y pwerau i basio'r ddeddfwriaeth, sy'n cael ei chefnogi gan y Blaid Lafur a Phlaid Cymru.

Er bod y llywodraeth yn credu bod ganddyn nhw'r pwerau sydd eu hangen, cafodd y cwotâu rhywedd eu tynnu o Fil Senedd Cymru i gynyddu nifer aelodau'r Senedd i 96, er mwyn atal her gyfreithiol.

Dydi'r cyngor cyfreithiol ddim yn atal y Senedd rhag pasio'r ddeddfwriaeth, ond fyddai hynny ddim yn atal Llywodraeth y DU rhag ei herio.

Fel rhan o'r system newydd, sydd i fod i ddod i rym yn yr etholiad nesaf yn 2026, bydd pob sedd yn y senedd yn cael eu hethol drwy restr o ymgeiswyr.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y bwriad i gael Senedd gydradd yn rhan o'r cynllun i gynyddu nifer yr aelodau o 60 i 96

Fel rhan o'r bil cwotâu rhywedd, byddai o leiaf 50% o'r rhestrau gan y pleidiau gwleidyddol yn gorfod bod yn ferched.

Byddai rhestrau yn cael eu trefnu ar sail pwy fyddai'n cael ei ethol gyntaf, fel rhan o system fyddai'n ceisio cyfleu'n decach sut mae pobl wedi pleidleisio.

Mae'r bil yn dweud bod yn rhaid i ddynes gael ei chynnwys ar y rhestr ar ôl ymgeisydd sydd ddim yn ddynes.

Byddai'n rhaid i'r enw cyntaf ar o leiaf hanner rhestrau gwleidyddol y pleidiau fod yn ddynes.

Roedd drafft o'r ddeddfwriaeth wedi awgrymu y byddai'r bil yn dweud bod dynes drawsryweddol hefyd yn cael ei chynnwys fel dynes.

Ond dydi hynny ddim yn rhan o'r bil gafodd ei gyhoeddi ddydd Llun.

Mae'n ymddangos mai penderfyniad yr ymgeisydd fydd dweud a ydyn nhw'n ddynes neu ddim.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mewn nodyn gafodd ei gyhoeddi i'r Senedd ddydd Llun, dywedodd y llywydd Elin Jones ei bod hi'n credu "na fyddai darpariaethau Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)... o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd".

Dywedodd bod y bil "yn ymwneud â chyfle cyfartal sy'n fater a gedwir yn ôl, a'i fod yn addasu'r gyfraith ar faterion a gedwir yn ôl, sef Deddf Cydraddoldeb 2010".

Mae'r llywodraeth yn dadlau bod angen bil gan fod 43% o aelodau'r Senedd yn ferched a 57% yn ddynion, er mai merched ydi 51% o'r boblogaeth.

Dim ond unwaith mae'r Senedd wedi cael 50% o ferched a 50% o ddynion mewn etholiad - yn 2003.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r gweinidog sy'n gyfrifol am y bil - y gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt - wedi cyhoeddi datganiad yn dweud ei bod hi'n credu bod gan y Senedd y pwerau i'w basio.

Ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthwynebu'r ddeddfwriaeth.

Dywedodd y Ceidwadwr Darren Millar: "Rydyn ni'n credu y dylai ymgeiswyr gael eu dewis a'u hethol am eu bod nhw'n deilwng, yn hytrach na'u rhywedd, crefydd neu os oes ganddyn nhw anabledd.

"Er ein bod ni am weld mwy o amrywiaeth yn ein gwleidyddiaeth, rydyn ni'n gwrthwynebu unrhyw system sy'n rhoi pwyslais ar un math o amrywiaeth dros y llall."

Roedd disgwyl i'r cynlluniau gael eu cyhoeddi fis Tachwedd diwethaf, ond cafodd hynny ei ohirio funud olaf.

Dywedodd Ms Hutt: "Ugain mlynedd yn ôl roedd 50% o'r aelodau gafodd eu hethol i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ferched, ond mae hynny wedi gostwng erbyn hyn.

"Mae'r bil yn ceisio sicrhau bod y Senedd yn gyfartal ar sail rhywedd. Mae'n beth da i wleidyddiaeth ac i bolisi os ydi'r Senedd yn cyfleu'r sefyllfa yng Nghymru o ran cyfartaledd."

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Mae hyn yn gam ymlaen wrth gryfhau democratiaeth yng Nghymru fel bod y Senedd yn dangos ein bod yn genedl fodern."