Gohirio cynllun cwotâu rhywedd i'r Senedd tan 2030
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau i gyflwyno cwotâu rhywedd ar gyfer etholiadau'r Senedd yn mynd i gael eu gohirio tan etholiad 2030, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Roedd cynlluniau i hybu cynrychiolaeth menywod yn y Senedd i fod yn eu lle erbyn yr etholiad nesaf yn 2026 yn wreiddiol.
Ond mae 'na bryderon wedi codi y gallai heriau cyfreithiol i’r gyfraith effeithio ar ganlyniad yr etholiad.
Mae gweinidog wedi dweud y byddai'r oedi yn rhoi mwy o amser i unrhyw "heriau cyfreithiol posib i'r ddeddfwriaeth gael eu datrys ymhell cyn yr etholiad".
Dydd Mawrth bydd aelodau'r Senedd yn dadlau ac yn pleidleisio ar egwyddorion cyffredinol y gyfraith newydd, fyddai'n ei gwneud hi'n ofynnol i bleidiau gwleidyddol sicrhau bod o leiaf 50% o'u hymgeiswyr yn fenywod.
'Osgoi peryglu etholiad 2026'
Mae’r Llywydd, Elin Jones eisoes wedi rhybuddio nad oes gan y Senedd y grym i basio’r bil.
Ni fyddai hynny'n atal y mesur rhag cael ei basio, ond mae'n codi'r posibilrwydd o ddadlau dros y ddeddfwriaeth yn y llysoedd.
Yn sgil hynny, mae Pwyllgor Biliau Diwygio'r Senedd wedi galw ar y llywodraeth i gymryd "camau brys" i osgoi "peryglu etholiad 2026".
Er bod y llywodraeth yn credu bod y bil yn unol â'u pwerau, mae'r Gweinidog Busnes, Jane Hutt wedi awgrymu y gallai fynd gerbron llys uchaf y Deyrnas Unedig yn y pendraw.
Mewn llythyr at bwyllgor deddfwriaeth y Senedd, dywedodd mai dim ond dyfarniad gan y Goruchaf Lys allai "roi'r mater y tu hwnt i amheuaeth".
Ond dim ond ar ôl pasio'r ddeddfwriaeth y gellir cyfeirio’r mater i’r Goruchaf Lys.
- Cyhoeddwyd11 Mawrth
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2022
Mae yna bryderon hefyd y byddai'r ddeddfwriaeth yn caniatáu i ymgeiswyr nodi eu rhywedd eu hunain.
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) wedi mynegi pryder y gallai hyn fod yn "anghyfreithlon".
Mae Ms Hutt yn dadlau nad yw'r mesur "yn ymwneud â diffinio 'menyw' ac nid yw'n ymwneud â chydnabod rhywedd".
“Diben y mesur yw gwneud y Senedd yn fwy effeithiol, a bydd hynny yn cael ei gyflawni drwy anelu at sicrhau bod mwy o gydbwysedd rhwng y rhywiau ymhlith ei haelodau," meddai.
Dywedodd mai mater i ymgeiswyr unigol a phleidiau gwleidyddol fydd sicrhau bod datganiadau a wneir am rywedd yn gywir.
Ychwanegodd bod "ymgeiswyr a'u pleidiau mewn perygl o niweidio enw da ac o her gyfreithiol pe bai datganiad rhywedd ffug yn cael ei wneud".
'Siomedig dros ben'
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig am y cyfansoddiad, Darren Millar, y byddai bwrw ymlaen gyda'r cynllun "yn peri risg wirioneddol o her i ganlyniad etholiadau’r Senedd yn 2026".
Fe alwodd ar weinidogion Llafur i droi eu cefnau ar y ddeddfwriaeth "a chanolbwyntio ar flaenoriaethau pobl Cymru".
Ychwanegodd: “Dylai Aelodau’r Senedd gael eu hethol yn ôl eu teilyngdod, nid ar sail eu rhyw, hil, crefydd nac unrhyw nodwedd warchodedig arall.”
Dywedodd Heledd Fychan o Blaid Cymru: “Tra’n croesawu’r ffaith bod y gwaith yn mynd rhagddo, mae’n siomedig dros ben bod hyn yn cael ei ohirio tan 2030.
"Gyda Senedd fwy yn 2026, mae’n bwysig bod hi hefyd yn Senedd fwy cynrychioladol.”