Wrecsam i sicrhau dyrchafiad y trydydd tymor o'r bron?

Mae Wrecsam yn ail yn Adran Un cyn gemau'r penwythnos
- Cyhoeddwyd
Mae'n argoeli i fod yn ddiwedd tymor cyffrous i Glwb Pêl-droed Wrecsam sy'n gobeithio ennill dyrchafiad am y trydydd tymor o'r bron.
Pedair gêm o'r tymor sy'n weddill ac mae eu tynged yn eu dwylo nhw eu hunain.
Mae'r gêm nesaf ar y Stok Cae Ras brynhawn Gwener yn erbyn Bristol Rovers - sydd yn y safleoedd cwymp.
Yn fathemategol gallai Wrecsam sicrhau dyrchafiad o guro Rovers a Blackpool ddydd Llun, os fydd canlyniadau eraill yn mynd o'u plaid.
Cyrraedd y bencampwriaeth yw'r nod ac mae hynny'n sicr o fewn cyrraedd.

Ers tymor 2022-23 mae CPD Wrecsam wedi bod ar siwrne ryfeddol. O Gynghrair Genedlaethol Lloegr i Adran Un.
Ac mae'r ddinas hefyd wedi manteisio ar lwyddiant y clwb.
Bum mlynedd yn ôl, sefydlodd Gethin Thomas fusnes tacsis ei hun, ac mae wedi gweld newid syfrdanol - yn enwedig ymhlith nifer yr ymwelwyr.
"[Mae pobl yn dod yma] o bob cornel o'r byd. Lot o Americanwyr wrth gwrs, rheiny sydd â'r nifer mwyaf.
"'Da ni wedi cael pobl yma o Awstralia, o Dde Affrica, lot yn dod drosodd o Ganada.
"Roedd 'na ddau yn y car penwythnos diwethaf, roedden nhw eisiau mynd o un o'r gwestai yma nôl i'r maes awyr i hedfan nôl adref... wedi bod i weld y gêm ar y Sadwrn, aros dros nos nos Sadwrn a wedyn maes awyr dydd Sul."

Mae Ffion yn ffyddiog y bydd Wrecsam yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf
Mae Ffion Elen Higgs yn byw dipyn yn nes ac wedi bod yn dilyn y clwb ers sawl blwyddyn.
"Dwi'n reit hyderus bo ni'n mynd i gael dyrchafiad," meddai.
"Un ai trwy'r play offs neu yn naturiol. Swn i'n licio meddwl y basa fo'n digwydd yn naturiol achos bod ein gemau ni falle ychydig yn haws na Wycombe felly mae 'na fwy o siawns y cawn ni y pwyntiau 'da ni angen i gael dyrchafiad yn naturiol heb orfod mynd i'r play offs."
Dau dîm sy'n ennill dyrchafiad awtomatig i'r Bencampwriaeth, a gyda Wrecsam yn ail ar hyn o bryd maen nhw mewn safle da.
Ond pwynt yn unig sydd rhyngddyn nhw a Wycombe sy'n drydydd, gydag ond pedair gêm yn weddill o'r tymor.
Mae Wrecsam yn llygadu eu trydydd dyrchafiad mewn tair blynedd - does neb wedi cyflawni hynny o'r blaen sy'n esbonio pam o bosib fod y rheolwr Phil Parkinson wedi ei enwebu ar gyfer gwobr rheolwr y flwyddyn gan yr EFL.
Mae penwythnos y Pasg yn addo bod yn un cofiadwy i Parkinson a'i garfan.