Ceidwadwyr yn addo torri cyflogau gweinidogion os mewn grym

Darren Millar
Disgrifiad o’r llun,

"Byddai'r Ceidwadwyr yn craffu ar bob ceiniog sy'n cael ei wario gan y llywodraeth," meddai eu harweinydd yng Nghymru, Darren Millar

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi addo torri cyflogau gweinidogion a rhewi cyflogau staff Llywodraeth Cymru sydd yn ennill dros £100,000 am bedair blynedd os ydyn nhw'n ennill etholiadau'r Senedd yn 2026.

Maen nhw'n dadlau y byddai modd defnyddio'r arian sy'n cael ei arbed i gyllido taliadau tanwydd y gaeaf newydd yng Nghymru.

16 aelod sydd gan y Ceidwadwyr yn y Senedd ar hyn o bryd, gyda newidiadau i nifer yr aelodau a'r system bleidleisio i ddod i rym ar gyfer yr etholiad nesaf.

Mae Llafur Cymru wedi cael cais am ymateb.

Mae'r Ceidwadwyr hefyd yn dadlau na ddylai staff y llywodraeth fod yn gweithio o adref.

Fe wnaeth arolwg ym Mawrth 2024 nodi mai dim ond 2% o staff y llywodraeth oedd yn gweithio yn llawn amser yn y swyddfa, gyda 73% yn rhannu eu hamser rhwng y cartref a'r swyddfa.

Er bod rhai arbenigwyr yn dadlau bod gweithio o adref yn gallu gwneud pobl yn fwy cynhyrchiol, mae James Evans - llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol - am weld yr arfer yn newid.

"Rydw i eisiau gweld gweision sifil yn eistedd tu ôl i'w desgiau unwaith eto... fel bod modd i ni sicrhau ein bod yn eu gwthio i fod mor gynhyrchiol â phosib," meddai mewn cyfweliad gyda BBC Radio Wales.

James Evans
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl James Evans, mae angen newid arferion gweithio gan "nad yw'r llywodraeth yn perfformio'n dda"

Awgrymodd hefyd y dylai cyflogau fod yn gysylltiedig â pherfformiad unigolyn, gan ddadlau "nad oedd y llywodraeth yn perfformio yn dda" ar hyn o bryd.

Nid oedd Mr Evans am rannu manylion ynglŷn â'r gost o ariannu cynllun taliadau tanwydd y gaeaf newydd, ond mae arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru wedi honni yn y gorffennol y gallai gostio £100m.

Wrth siarad mewn digwyddiad yn Llandudno ddydd Sadwrn, ychwanegodd Darren Millar y byddai'r blaid yn "craffu ar bob ceiniog sy'n cael ei wario gan y llywodraeth".

"Dim mwy o wario ar gynlluniau plannu coed yn Affrica tra bod ffermwyr Cymru yn wynebu heriau, dim mwy o deithiau i gynadleddau hinsawdd tramor i weinidogion sy'n dadlau o blaid sero net, dim mwy o wastraffu arian ar wladoli maes awyr sy'n gwneud dim i wella bywydau pobl yng Nghymru.

"A dim mwy o wario ar gynyddu maint y Senedd - rydyn ni angen mwy o ddoctoriaid, deintyddion, nyrsys ac athrawon, dim mwy o wleidyddion," ychwanegodd.